
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Dyddiad Cyhoeddi’r Cofrestrau Etholiadol) (Cymru) 2023.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 11 Rhagfyr 2023.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(4) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Deddf 1983” yw Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983.
2 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i’r gofyniad o dan adran 13(1)(a) o Ddeddf 1983 i swyddogion cofrestru gyhoeddi, am y flwyddyn 2024, fersiynau diwygiedig y cofrestrau a gynhelir o dan adran 9(1)(b) o Ddeddf 1983.
(2) Y dyddiad ar gyfer diwedd y cyfnod a ddisgrifir yn adran 13(1)(a) o Ddeddf 1983, sef y cyfnod y mae rhaid i’r cofrestrau diwygiedig gael eu cyhoeddi ynddo, yw 1 Chwefror 2025.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
6 Rhagfyr 2023