
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adeiladu (Y Proffesiwn Rheolaeth Adeiladu) (Cofrestru, Sancsiynau ac Apelau) (Cymru) 2023.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ionawr 2024.
(4) Yn y Rheoliadau hyn—
(a) ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Adeiladu 1984;
(b) ystyr “y Rheoliadau Adeiladu” yw Rheoliadau Adeiladu 2010;
(c) ystyr “diwrnodau perthnasol” yw unrhyw ddiwrnod ac eithrio Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith neu ddiwrnod sy’n ŵyl banc yng Nghymru a Lloegr o dan adran 1 o Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971 .
(5) Yn y Rheoliadau hyn, oni nodir fel arall, mae i’r geiriau a’r ymadroddion Cymraeg a ganlyn yr un ystyr â’r geiriau a’r ymadroddion Saesneg cyfatebol a ddefnyddir yn y Ddeddf—
(a) awdurdod rheolaeth adeiladu (“building control authority”) (gweler adran 121A o’r Ddeddf honno);
(b) cymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu (“registered building control approver”) (gweler adran 58N o’r Ddeddf honno);
(c) arolygydd cofrestredig adeiladu (“registered building inspector”) (gweler adran 58B o’r Ddeddf honno).
2 
At ddibenion adran 58C(5) o’r Ddeddf, y cyfnod rhagnodedig ar gyfer cofrestru arolygydd cofrestredig adeiladu yw pedair blynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r cofrestriad yn cael effaith.
3 
At ddibenion adran 58O(4) o’r Ddeddf, y cyfnod rhagnodedig ar gyfer cofrestru cymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu yw pum mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r cofrestriad yn cael effaith.
4 
At ddibenion adran 58U(4)(b)(ii) o’r Ddeddf, pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud gorchymyn disgyblu mewn perthynas â chymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, roi copi o’r gorchymyn disgyblu i bob awdurdod lleol yng Nghymru yn achos—
(a) amrywio cofrestriad mewn ffordd a bennir yn y gorchymyn,
(b) atal cofrestriad dros dro am y cyfnod a bennir yn y gorchymyn, neu
(c) canslo cofrestriad o’r dyddiad a bennir yn y gorchymyn.
5 
At ddibenion adran 58V(4)(b)(ii) o’r Ddeddf, pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud (neu’n dirymu) gorchymyn o dan adran 58V o’r Ddeddf, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, roi copi o’r gorchymyn (neu hysbysiad am y dirymu) i bob awdurdod lleol yng Nghymru pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y toriad a amheuir mor ddifrifol fel eu bod, os ydynt yn penderfynu bod y toriad wedi digwydd, yn debygol o wneud gorchymyn o dan adran 58U(2)(d) o’r Ddeddf yn canslo cofrestriad y person.
6 

(1) Pan ddarperir ar gyfer yr hawl i apelio o dan adran 58D(4), 58I(5), 58J(5), 58P(4), 58U(5), 58V(5), 58Z4(7), 58Z5(9), 58Z6(5) neu 58Z7(5) o’r Ddeddf, rhaid gwneud apêl i’r llys ynadon drwy gŵyn.
(2) Ni chaniateir gwneud apêl ond o dan un neu ragor o’r seiliau a ganlyn. Y seiliau yw bod penderfyniad Gweinidogion Cymru—
(a) yn wallus yn ffeithiol;
(b) yn anghywir yn gyfreithiol;
(c) yn afresymol;
(d) yn ddiffygiol yn weithdrefnol.
(3) Rhaid gwneud apêl o fewn 21 o ddiwrnodau perthnasol sy’n dechrau â’r diwrnod drannoeth y diwrnod y mae Gweinidogion Cymru yn hysbysu’r ceisydd am y penderfyniad, neu o fewn y cyfnod estynedig hwnnw y caiff y ceisydd a Gweinidogion Cymru gytuno arno yn ysgrifenedig ar unrhyw adeg.
(4) Ar apêl, caiff llys ynadon gadarnhau, amrywio neu ddiddymu’r penderfyniad sydd wedi ei wneud gan Weinidogion Cymru.
Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
1 Rhagfyr 2023