
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Anifeiliaid (Awdurdodiadau) (Cymru) 2023.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn—
(a) yn rhychwantu Cymru a Lloegr;
(b) yn gymwys o ran Cymru;
(c) yn dod i rym ar 22 Rhagfyr 2023.
2 

(1) Mae i ymadroddion Cymraeg a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn sy’n cyfateb i ymadroddion Saesneg yn Rheoliad 1831/2003 neu Reoliad 767/2009 yr un ystyr ag yn Rheoliad 1831/2003 neu Reoliad 767/2009, yn y drefn honno.
(2) Yn Atodlenni 1 i 13—
(a) mae i ymadroddion Cymraeg a ddefnyddir i gyfeirio at rywogaethau neu gategorïau o anifeiliaid sy’n cyfateb i ymadroddion Saesneg a ddefnyddir yn Atodiad 4 (categorïau a diffiniadau o anifeiliaid targed etc.) i Reoliad 429/2008 yr un ystyr ag yn yr Atodiad hwnnw;
(b) mae unrhyw gyfeiriad at fân rywogaeth i’w ddarllen yn unol â’r diffiniad o “minor species” yn Erthygl 1 o Reoliad 429/2008.
(3) Yn y rheoliad hwn—
 ystyr “Rheoliad 1831/2003” (“Regulation 1831/2003”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1831/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ychwanegion sydd i’w defnyddio mewn maeth anifeiliaid;
 ystyr “Rheoliad 429/2008” (“Regulation 429/2008”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 429/2008 ar reolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1831/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran llunio a chyflwyno ceisiadau ac asesu ac awdurdodi ychwanegion bwyd anifeiliaid;
 ystyr “Rheoliad 767/2009” (“Regulation 767/2009”) yw Rheoliad (EC) Rhif 767/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar roi bwyd anifeiliaid ar y farchnad a’i ddefnyddio.
3 

(1) Mae Atodlenni 1 i 13 yn cynnwys awdurdodiadau ychwanegion bwyd anifeiliaid.
(2) Yn ddarostyngedig i Erthygl 14(4) (adnewyddu awdurdodiad) o Reoliad 1831/2003, mae’r awdurdodiadau a nodir yn Atodlenni 1 i 13 yn peidio â chael effaith ar ddiwedd 21 Rhagfyr 2033.
4 

(1) Caniateir i’rychwanegyn bwyd anifeiliaid perthnasol a’r rhag-gymysgeddau sy’n ei gynnwys, a gynhyrchir ac a labelir cyn diwedd 21 Mehefin 2024 gan gydymffurfio ag amodau’r awdurdodiad ymlaen llaw a’r gofynion labelu sy’n gymwys cyn 22 Rhagfyr 2023, barhau i gael ei roi neu eu rhoi ar y farchnad a’i ddefnyddio neu eu defnyddio hyd nes y bydd stociau wedi eu dihysbyddu.
(2) Caniateir i fwyd anifeiliaid cyfansawdd a deunyddiau bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid perthnasol ac a fwriedir ar gyfer anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd, a gynhyrchir ac a labelir cyn diwedd 21 Rhagfyr 2024 gan gydymffurfio ag amodau’r awdurdodiad ymlaen llaw a’r gofynion labelu sy’n gymwys cyn 22 Rhagfyr 2023, barhau i gael ei roi neu eu rhoi ar y farchnad a’i ddefnyddio neu eu defnyddio hyd nes y bydd stociau wedi eu dihysbyddu.
(3) Yn y rheoliad hwn—
 ystyr “awdurdodiad ymlaen llaw” (“prior authorisation”) yw’r awdurdodiad sydd wedi ei gynnwys yn Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 902/2009 sy’n ymwneud ag awdurdodi paratoad ensym o endo-1,4-beta-sylanas a gynhyrchir gan Trichoderma reesei (CBS 114044) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer perchyll wedi eu diddyfnu, ieir i’w pesgi, ieir a fegir ar gyfer dodwy, tyrcwn i’w pesgi a thyrcwn a fegir ar gyfer bridio (deiliad awdurdodiad Roal Oy);
 ystyr “ychwanegyn bwyd anifeiliaid perthnasol” (“relevant feed additive”) yw’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid endo-1,4-beta-sylanas (EC 3.2.1.8), sydd â’r rhif adnabod 4a8, a awdurdodwyd o dan yr awdurdodiad blaenorol.
5 

(1) Mae Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 601/2013 sy’n ymwneud ag awdurdodi cobalt(II) asetad tetrahydrad, cobalt(II) carbonad, cobalt(II) carbonad hydrocsid (2:3) monohydrad, cobalt(II) sylffad heptahydrad a chobalt(II) carbonad hydrocsid (2:3) monohydrad gronynnog araenedig fel ychwanegion bwyd anifeiliaid  wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn yr Atodiad, yn y tabl, hepgorer y cofnodion ar gyfer—
(a) cobalt(II) asetad tetrahydrad (rhif adnabod 3b301);
(b) cobalt(II) carbonad (rhif adnabod 3b302);
(c) cobalt(II) carbonad hydrocsid (2:3) monohydrad (rhif adnabod 3b303);
(d) cobalt(II) sylffad heptahydrad (rhif adnabod 3b305).
6 

(1) Mae Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/221 sy’n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 785/2007, (EC) Rhif 379/2009, (EC) Rhif 1087/2009, (EU) Rhif 9/2010, (EU) Rhif 337/2011 a Rheoliadau Gweithredu (EU) Rhif 389/2011, (EU) Rhif 528/2011, (EU) Rhif 840/2012, (EU) Rhif 1021/2012, (EU) 2016/899, (EU) 2016/997, (EU) 2017/440 ac (EU) 2017/896 ynghylch enw deiliad yr awdurdodiad a chynrychiolydd deiliad yr awdurdodiad ar gyfer ychwanegion bwyd anifeiliaid penodol wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Hepgorer Erthygl 4 (diwygio Rheoliad (EU) Rhif 9/2010).
(3) Hepgorer Erthygl 7 (diwygio Rheoliad Gweithredu (EU) Rhif 528/2011).
(4) Hepgorer Erthygl 9 (diwygio Rheoliad Gweithredu (EU) Rhif 1021/2012).
7 
Mae’r offerynnau a restrir yn Atodlen 14 wedi eu dirymu.
Lynne Neagle
Y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
27 Tachwedd 2023
ATODLEN 1
Rheoliad 3(1)

Mae’r paratoad o endo-1,4-beta-sylanas (EC 3.2.1.8) a bennir yn y tabl, sy’n perthyn i’r categori ychwanegion “ychwanegion sootechnegol” ac i’r grŵp gweithredol “sylweddau gwella treuliadwyedd”, wedi ei awdurdodi fel ychwanegyn mewn maeth anifeiliaid yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn y tabl.‌‌
Yr ychwanegyn Endo-1,4-beta-sylanas (EC 3.2.1.8)
Rhif adnabod 4a11
Deiliad yr awdurdodiad Danisco (UK) Ltd
Categori yr ychwanegyn Ychwanegion sootechnegol
Grŵp gweithredol Sylweddau gwella treuliadwyedd
Cyfansoddiad yr ychwanegyn Paratoad o endo-1,4-beta-sylanas (EC 3.2.1.8) a gynhyrchir drwy eplesu â Trichoderma reesei (CBS 143953) sydd ag isafswm actifedd ensym o 40,000 U/g
Nodweddiad y sylwedd(au) actif Endo-1,4-beta-sylanas (EC 3.2.1.8) a gynhyrchir drwy eplesu â Trichoderma reesei (CBS 143953)
• Rhif CAS: 9025-57-4
• Rhif EC (IUBMB): 3.2.1.8
• Rhif EINECS: 232-800-2
Dulliau dadansoddi I feintioli actifedd ensym endo-1,4-beta-sylanas yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid, y rhag-gymysgeddau, y deunyddiau bwyd anifeiliaid a’r bwyd anifeiliaid cyfansawdd:
• Y dull colorimetrig yn mesur llifyn dŵr-hydawdd a ryddheir drwy effaith endo-1,4-beta-sylanas o swbstrad arabino sylan gwenith trawsgysylltiedig asurin
Rhywogaeth neu gategori o anifail 
• Pob rhywogaeth dofednod
• Perchyll (sugno ac wedi eu diddyfnu)
• Moch i’w pesgi
• Mân rywogaethau teulu’r moch
Oedran hynaf Dim
Isafswm cynnwys Ar gyfer pob rhywogaeth dofednod:
• 625 U/kg
Ar gyfer perchyll (sugno ac wedi eu diddyfnu), moch i’w pesgi, mân rywogaethau teulu’r moch:
• 2000 U/kg
Uchafswm cynnwys Dim
Darpariaethau eraill Rhaid nodi’r amodau storio a’r sefydlogrwydd o ran trin â gwres yn y cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid a’r rhag-gymysgedd








ATODLEN 2
Rheoliad 3(1)

Mae’r paratoad o Lacticaseibacillus rhamnosus (IMI 507023) a bennir yn y tabl, sy’n perthyn i’r categori ychwanegion “ychwanegion technolegol” ac i’r grŵp gweithredol “ychwanegion silwair”, wedi ei awdurdodi fel ychwanegyn mewn maeth anifeiliaid yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn y tabl.
Yr ychwanegyn Lacticaseibacillus rhamnosus (IMI 507023)
Rhif adnabod 1k21701
Deiliad yr awdurdodiad Dim
Categori ychwanegion Ychwanegion technolegol
Grŵp gweithredol Ychwanegion silwair
Cyfansoddiad yr ychwanegyn Paratoad solet o Lacticaseibacillus rhamnosus (IMI 507023) sy’n cynnwys isafswm o 1 × 10
10 CFU/g o’r ychwanegyn
Nodweddiad y sylwedd(au) actif Celloedd hyfyw Lacticaseibacillus rhamnosus (IMI 507023)

Dulliau dadansoddi I gyfrifo (cyfrif cytrefi) yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid:
• Y dull plât taenu ar agar MRS (BS EN 15787:2021)
I adnabod y straen bacterol:
• Electrofforesis jel maes pylsedig (PFGE)
Rhywogaeth neu gategori o anifail Pob rhywogaeth o anifail
Oedran hynaf Dim
Isafswm cynnwys Isafswm cynnwys yr ychwanegyn pan y’i defnyddir heb ei gyfuno â micro-organeddau eraill fel ychwanegion silwair:
• 1 × 109 CFU/kg
Uchafswm cynnwys Dim
Darpariaethau eraill 1. Rhaid nodi’r amodau storio yn y cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid a’r rhag-gymysgedd
2. Nid yw’r ychwanegyn wedi ei awdurdodi i’w ddefnyddio ond mewn deunydd ffres sy’n hawdd i’w silweirio neu’n gymedrol anodd i’w silweirio





ATODLEN 3
Rheoliad 3(1)

Mae’r paratoad Pediococcus pentosaceus (IMI 507024) a bennir yn y tabl, sy’n perthyn i’r categori ychwanegion “ychwanegion technolegol” ac i’r grŵp gweithredol “ychwanegion silwair”, wedi ei awdurdodi fel ychwanegyn mewn maeth anifeiliaid yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn y tabl.
Yr ychwanegyn Pediococcus pentosaceus (IMI 507024)
Rhif adnabod 1k21016
Deiliad yr awdurdodiad Dim
Categori ychwanegion Ychwanegion technolegol
Grŵp gweithredol Ychwanegion silwair
Cyfansoddiad yr ychwanegyn Paratoad solet o Pediococcus pentosaceus (IMI 507024) sy’n cynnwys isafswm o 1 × 1010 CFU/g o’r ychwanegyn
Nodweddiad y sylwedd(au) actif Celloedd hyfyw Pediococcus pentosaceus (IMI 507024)
Dulliau dadansoddi I gyfrifo (cyfrif cytrefi) yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid:
• Y dull plât taenu ar agar MRS (BS EN 15786:2021)
I adnabod straen bacterol:
• Electrofforesis jel maes pylsedig (PFGE)
Rhywogaeth neu gategori o anifail Pob rhywogaeth o anifail
Oedran hynaf Dim
Isafswm cynnwys Isafswm cynnwys yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid pan y’i defnyddir heb ei gyfuno â micro-organeddau eraill fel ychwanegion silwair:
• 1 × 109 CFU/kg
Uchafswm cynnwys Dim
Darpariaethau eraill 1. Rhaid nodi’r amodau storio yn y cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid a’r rhag-gymysgedd
2. Nid yw’r ychwanegyn wedi ei awdurdodi i’w ddefnyddio ond mewn deunydd ffres sy’n hawdd i’w silweirio neu’n gymedrol anodd i’w silweirio





ATODLEN 4
Rheoliad 3(1)

Mae’r paratoad o Pediococcus pentosaceus (IMI 507025) a bennir yn y tabl, sy’n perthyn i’r categori ychwanegion “ychwanegion technolegol” ac i’r grŵp gweithredol “ychwanegion silwair”, wedi ei awdurdodi fel ychwanegyn mewn maeth anifeiliaid yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn y tabl.
Yr ychwanegyn Pediococcus pentosaceus (IMI 507025)
Rhif adnabod 1k21017
Deiliad yr awdurdodiad Dim
Categori ychwanegion Ychwanegion technolegol
Grŵp gweithredol Ychwanegion silwair
Cyfansoddiad yr ychwanegyn Paratoad solet o Pediococcus pentosaceus (IMI 507025) sy’n cynnwys isafswm o 1 × 10
10 CFU/g o’r ychwanegyn
Nodweddiad y sylwedd(au) actif Celloedd hyfyw Pediococcus pentosaceus (IMI 507025)

Dulliau dadansoddi I gyfrifo (cyfrif cytrefi) yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid:
• Y dull plât taenu ar agar MRS (BS EN 15786:2021)
I adnabod straen bacterol:
• Electrofforesis jel maes pylsedig (PFGE)
Rhywogaeth neu gategori o anifail Pob rhywogaeth o anifail
Oedran hynaf Dim
Isafswm cynnwys Isafswm cynnwys yr ychwanegyn pan nad yw wedi ei gyfuno â micro-organeddau eraill fel ychwanegion silwair:
• 1 × 109 CFU/kg
Uchafswm cynnwys Dim
Darpariaethau eraill 1. Rhaid nodi’r amodau storio yn y cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid a’r rhag-gymysgedd
2. Nid yw’r ychwanegyn wedi ei awdurdodi i’w ddefnyddio ond mewn deunydd ffres sy’n hawdd i’w silweirio neu’n gymedrol anodd i’w silweirio





ATODLEN 5
Rheoliad 3(1)

Mae’r paratoad o Lactiplantibacillus plantarum (IMI 507026) a bennir yn y tabl, sy’n perthyn i’r categori ychwanegion “ychwanegion technolegol” ac i’r grŵp gweithredol “ychwanegion silwair”, wedi ei awdurdodi fel ychwanegyn mewn maeth anifeiliaid yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn y tabl.
Yr ychwanegyn Lactiplantibacillus plantarum (IMI 507026)
Rhif adnabod 1k21601
Deiliad yr awdurdodiad Dim
Categori ychwanegion Ychwanegion technolegol
Grŵp gweithredol Ychwanegion silwair
Cyfansoddiad yr ychwanegyn Paratoad solet o Lactiplantibacillus plantarum (IMI 507026) sy’n cynnwys isafswm o 1 × 1010 CFU/g o’r ychwanegyn
Nodweddiad y sylwedd(au) actif Celloedd hyfyw Lactiplantibacillus plantarum (IMI 507026)

Dulliau dadansoddi I gyfrifo (cyfrif cytrefi) yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid:
• Y dull plât taenu ar agar MRS (BS EN 15787:2021)
I adnabod straen bacterol: 
• Electrofforesis jel maes pylsedig (PFGE)
Rhywogaeth neu gategori o anifail Pob rhywogaeth o anifail
Oedran hynaf Dim
Isafswm cynnwys Isafswm cynnwys yr ychwanegyn pan nad yw wedi ei gyfuno â micro-organeddau eraill fel ychwanegion silwair:
• 1 × 109 CFU/kg
Uchafswm cynnwys Dim
Darpariaethau eraill 1. Rhaid nodi’r amodau storio yn y cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid a’r rhag-gymysgedd
2. Nid yw’r ychwanegyn wedi ei awdurdodi i’w ddefnyddio ond mewn deunydd ffres sy’n hawdd i’w silweirio neu’n gymedrol anodd i’w silweirio





ATODLEN 6
Rheoliad 3(1)

Mae’r paratoad o Lactiplantibacillus plantarum (IMI 507027) a bennir yn y tabl, sy’n perthyn i’r categori ychwanegion “ychwanegion technolegol” ac i’r grŵp gweithredol “ychwanegion silwair”, wedi ei awdurdodi fel ychwanegyn mewn maeth anifeiliaid yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn y tabl.
Yr ychwanegyn Lactiplantibacillus plantarum (IMI 507027)
Rhif adnabod 1k21602
Deiliad yr awdurdodiad Dim
Categori ychwanegion Ychwanegion technolegol
Grŵp gweithredol Ychwanegion silwair
Cyfansoddiad yr ychwanegyn Paratoad solet o Lactiplantibacillus plantarum (IMI 507027) sy’n cynnwys isafswm o 1 × 10
10 CFU/g o’r ychwanegyn
Nodweddiad y sylwedd(au) actif Celloedd hyfyw Lactiplantibacillus plantarum (IMI 507027)

Dulliau dadansoddi I gyfrifo (cyfrif cytrefi) yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid: 
• Y dull plât taenu ar agar MRS (BS EN 15787:2021)
I adnabod straen bacterol:
• Electrofforesis jel maes pylsedig (PFGE)
Rhywogaeth neu gategori o anifail Pob rhywogaeth o anifail
Oedran hynaf Dim
Isafswm cynnwys Isafswm cynnwys yr ychwanegyn pan nad yw wedi ei gyfuno â micro-organeddau eraill fel ychwanegion silwair:
• 1 × 109 CFU/kg
Uchafswm cynnwys Dim
Darpariaethau eraill 1. Rhaid nodi’r amodau storio yn y cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid a’r rhag-gymysgedd
2. Nid yw’r ychwanegyn wedi ei awdurdodi i’w ddefnyddio ond mewn deunydd ffres sy’n hawdd i’w silweirio neu’n gymedrol anodd i’w silweirio





ATODLEN 7
Rheoliad 3(1)

Mae’r paratoad o Lactiplantibacillus plantarum (IMI 507028) a bennir yn y tabl, sy’n perthyn i’r categori ychwanegion “ychwanegion technolegol” ac i’r grŵp gweithredol “ychwanegion silwair”, wedi ei awdurdodi fel ychwanegyn mewn maeth anifeiliaid yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn y tabl.
Yr ychwanegyn Lactiplantibacillus plantarum (IMI 507028)  
Rhif adnabod 1k21603 
Deiliad yr awdurdodiad Dim
Categori ychwanegion Ychwanegion technolegol
Grŵp gweithredol Ychwanegion silwair
Cyfansoddiad yr ychwanegyn Paratoad solet o Lactiplantibacillus plantarum (IMI 507028) sy’n cynnwys isafswm o 1 × 10
10 CFU/g o’r ychwanegyn
Nodweddiad y sylwedd(au) actif Celloedd hyfyw Lactiplantibacillus plantarum (IMI 507028)

Dulliau dadansoddi I gyfrifo (cyfrif cytrefi) yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid:  
• Y dull plât taenu ar agar MRS (BS EN 15787:2021)
I adnabod straen bacterol: 
• Electrofforesis jel maes pylsedig (PFGE)
Rhywogaeth neu gategori o anifail Pob rhywogaeth o anifail
Oedran hynaf Dim
Isafswm cynnwys Isafswm cynnwys yr ychwanegyn pan nad yw wedi ei gyfuno â micro-organeddau eraill fel ychwanegion silwair:
• 1 × 109 CFU/kg
Uchafswm cynnwys Dim
Darpariaethau eraill 1. Rhaid nodi’r amodau storio yn y cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid a’r rhag-gymysgedd
2. Nid yw’r ychwanegyn wedi ei awdurdodi i’w ddefnyddio ond mewn deunydd ffres sy’n hawdd i’w silweirio neu’n gymedrol anodd i’w silweirio





ATODLEN 8
Rheoliad 3(1)

Mae’r paratoad o Lactiplantibacillus plantarum (DSM 26571) a bennir yn y tabl, sy’n perthyn i’r categori ychwanegion “ychwanegion technolegol” ac i’r grŵp gweithredol “ychwanegion silwair”, wedi ei awdurdodi fel ychwanegyn mewn maeth anifeiliaid yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn y tabl.
Yr ychwanegyn Lactiplantibacillus plantarum (DSM 26571)
Rhif adnabod 1k1604
Deiliad yr awdurdodiad Dim
Categori ychwanegion Ychwanegion technolegol
Grŵp gweithredol Ychwanegion silwair
Cyfansoddiad yr ychwanegyn Paratoad solet o Lactiplantibacillus plantarum (DSM 26571) sy’n cynnwys isafswm o 1 × 10
11 CFU/g o’r ychwanegyn
Nodweddiad y sylwedd(au) actif Celloedd hyfyw Lactiplantibacillus plantarum (DSM 26571)

Dulliau dadansoddi I gyfrifo (cyfrif cytrefi) yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid: 
• Y dull plât taenu ar agar MRS (BS EN 15787:2021)
I adnabod straen bacterol: 
• Electrofforesis jel maes pylsedig (PFGE)
Rhywogaeth neu gategori o anifail Pob rhywogaeth o anifail
Oedran hynaf Dim
Isafswm cynnwys Isafswm cynnwys yr ychwanegyn pan nad yw wedi ei gyfuno â micro-organeddau eraill fel ychwanegion silwair:
• 1 × 108 CFU/kg
Uchafswm cynnwys Dim
Darpariaethau eraill 1. Rhaid nodi’r amodau storio yn y cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid a’r rhag-gymysgedd
2. Mae’r ychwanegyn wedi ei awdurdodi i’w ddefnyddio mewn deunydd ffres sy’n hawdd i’w silweirio, yn gymedrol anodd i’w silweirio, neu’n anodd i’w silweirio





ATODLEN 9
Rheoliad 3(1)

Mae’r paratoad o endo-1,4-beta-sylanas (EC 3.2.1.8) a bennir yn y tabl, sy’n perthyn i’r categori ychwanegion “ychwanegion sootechnegol” ac i’r grŵp gweithredol “sylweddau gwella treuliadwyedd”, wedi ei awdurdodi fel ychwanegyn mewn maeth anifeiliaid yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn y tabl.
Yr ychwanegyn Endo-1,4-beta-sylanas (EC 3.2.1.8)
Rhif adnabod 4a8i
Deiliad yr awdurdodiad Roal Oy
Categori ychwanegion Ychwanegion sootechnegol
Grŵp gweithredol Sylweddau gwella treuliadwyedd
Cyfansoddiad yr ychwanegyn Paratoad o endo-1,4-beta-sylanas (EC 3.2.1.8) a gynhyrchir drwy eplesu â Trichoderma reesei (CBS 114044) sydd ag isafswm actifedd ensym o 160,000 BXU/g ar gyfer y ffurfiau solet a hylif

Nodweddiad y sylwedd(au) actif Endo-1,4-beta-sylanas (EC 3.2.1.8) a gynhyrchir drwy eplesu â Trichoderma reesei (CBS 114044)
• Rhif CAS: 9025-57-4
• Rhif EC (IUBMB): 3.2.1.8
• Rhif EINECS: 232-800-2
Dulliau dadansoddi I feintioli endo-1,4-beta-sylanas (EC 3.2.1.8) yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid a’r rhag-gymysgeddau:
• Y dull colorimetrig yn seiliedig ar adwaith ensymatig endo-1,4-beta-sylanas ar y swbstrad sylan bedwen ar pH 5.3 a 50°C
I feintioli endo-1,4-beta-sylanas (EC 3.2.1.8) mewn deunyddiau bwyd anifeiliaid a bwyd anifeiliaid cyfansawdd:
• Y dull colorimetrig yn seiliedig ar adwaith ensymatig endo-1,4-beta-sylanas ar y swbstrad arabino sylan gwenith trawsgysylltiedig asurin ar pH 5.3 a 50°C
Rhywogaeth neu gategori o anifail 
• Perchyll (wedi eu diddyfnu)
• Ieir i’w pesgi
• Ieir a fegir ar gyfer dodwy
• Tyrcwn i’w pesgi
• Tyrcwn a fegir ar gyfer bridio
Oedran hynaf Dim
Isafswm cynnwys Ar gyfer perchyll (wedi eu diddyfnu):
• 24,000 BXU/kg
Ar gyfer ieir i’w pesgi, ieir a fegir ar gyfer dodwy:
• 8,000 BXU/kg
Ar gyfer tyrcwn i’w pesgi, tyrcwn a fegir ar gyfer bridio:
• 16,000 BXU/kg
Uchafswm cynnwys Dim
Darpariaethau eraill Rhaid nodi’r amodau storio a’r sefydlogrwydd o ran trin â gwres yn y cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid a’r rhag-gymysgedd







ATODLEN 10
Rheoliad 3(1)

Mae’r paratoad o 6-ffytas (EC 3.1.3.26) a bennir yn y tabl, sy’n perthyn i’r categori ychwanegion “ychwanegion sootechnegol” ac i’r grŵp gweithredol “sylweddau gwella treuliadwyedd”, wedi ei awdurdodi fel ychwanegyn mewn maeth anifeiliaid yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn y tabl.
Yr ychwanegyn 6-ffytas (EC 3.1.3.26)
Rhif adnabod 4a12
Deiliad yr awdurdodiad Roal Oy
Categori ychwanegion Ychwanegion sootechnegol
Grŵp gweithredol Sylweddau gwella treuliadwyedd
Cyfansoddiad yr ychwanegyn. Paratoad o 6-ffytas (EC 3.1.3.26) a gynhyrchir drwy eplesu â Trichoderma reesei (CBS 122001) sydd ag isafswm actifedd ensym o 40,000 PPU/g ar gyfer y ffurf solet a 5,000 PPU/g ar gyfer y ffurf hylif
:
Nodweddiad y sylwedd(au) actif 6-ffytas (EC 3.1.3.26) a gynhyrchir drwy eplesu â Trichoderma reesei (CBS 122001)
• Rhif CAS: 9001-89-2
• Rhif EC (IUBMB): 3.1.3.26
• Rhif EINECS: 232-630-9
Dulliau dadansoddi I feintioli actifedd ffytas yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid, y rhag-gymysgeddau, y deunyddiau bwyd anifeiliaid a’r bwyd anifeiliaid cyfansawdd:
• Y dull colorimetrig yn meintioli actifedd ensymatig 6-ffytas drwy fesur ffosffad anorganig a ryddheir o sodiwm ffytad drwy ddadansoddi’r lliw a grëir gan rydwytho cymhlygyn ffosffomolybdad
Rhywogaeth neu gategori o anifail 
• Moch
• Dofednod ar gyfer bridio
• Dofednod i’w pesgi
• Dofednod ar gyfer dodwy
Oedran hynaf Dim
Isafswm cynnwys Ar gyfer moch, dofednod i’w pesgi, a dofednod ar gyfer bridio:
• 250 PPU/kg
Ar gyfer dofednod ar gyfer dodwy:
• 125 PPU/kg
Uchafswm cynnwys Dim
Darpariaethau eraill Rhaid nodi’r amodau storio a’r sefydlogrwydd o ran trin â gwres yn y cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid a’r rhag-gymysgedd







ATODLEN 11
Rheoliad 3(1)

Mae’r sylwedd sylfaen L‐lysin (hylif) a bennir yn y tabl, sy’n perthyn i’r categori ychwanegyn “ychwanegion maethol” ac i’r grŵp gweithredol “asidau amino, eu halwynau a’u hanalogau”, wedi ei awdurdodi fel ychwanegyn mewn maeth anifeiliaid yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn y tabl.
Yr ychwanegyn Sylfaen L-lysin (hylif)
Rhif adnabod 3c326
Deiliad yr awdurdodiad Dim
Categori ychwanegion Ychwanegion maethol
Grŵp gweithredol Asidau amino, eu halwynau a’u hanalogau
Cyfansoddiad yr ychwanegyn Hydoddiant dyfrllyd sy’n cynnwys o leiaf 50% L-lysin
Nodweddiad y sylwedd(au) actif Sylfaen L-lysin (hylif) a gynhyrchir drwy eplesu â Corynebacterium glutamicum (KCCM 80216 neu KCTC 12307BP)L‐lysin (C6H14N2O2)
• Rhif CAS: 56-87-1
• Rhif EINECS: 200-294-2
Dulliau dadansoddi I feintioli lysin yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid a rhag-gymysgeddau sy’n cynnwys mwy na 10% lysin:
• Cromatograffaeth cyfnewid iönau a gyplysir â deilliant ôl-golofn a chanfod optegol (IEC-VIS/FLD) (BS EN ISO 17180:2013)
I feintioli lysin mewn rhag-gymysgeddau, deunyddiau bwyd anifeiliaid a bwyd anifeiliaid cyfansawdd:
• Cromatograffaeth cyfnewid iönau a gyplysir â deilliant ôl-golofn a chanfod ffotometrig (IEC-VIS) yn unol â Rheoliad y Comisiwn (EC) 152/2009 sy’n gosod y dulliau samplu a dadansoddi ar gyfer rheoli bwyd anifeiliaid yn swyddogol (Atodiad 3-F)
I feintioli lysin mewn dŵr:
• Cromatograffaeth cyfnewid iönau a gyplysir â deilliant ôl-golofn a chanfod optegol (IEC-VIS/FLD) (BS EN ISO 17180:2013), neu
• Cromatograffaeth cyfnewid iönau a gyplysir â deilliant ôl-golofn a chanfod optegol (IEC-VIS) yn unol â Rheoliad y Comisiwn (EC) 152/2009 (Atodiad 3-F)
Rhywogaeth neu gategori o anifail Pob rhywogaeth o anifail
Oedran hynaf Dim
Isafswm cynnwys Dim
Uchafswm cynnwys Dim
Darpariaethau eraill 1. Rhaid nodi’r cynnwys lysin ar label yr ychwanegyn
2. Caniateir rhoi sylfaen L-lysin (hylif) ar y farchnad a’i ddefnyddio fel ychwanegyn sy’n baratoad






ATODLEN 12
Rheoliad 3(1)

Mae’r sylwedd L‐lysin monohydroclorid (pur yn dechnegol) a bennir yn y tabl, sy’n perthyn i’r categori ychwanegyn “ychwanegion maethol” ac i’r grŵp gweithredol “asidau amino, eu halwynau a’u hanalogau”, wedi ei awdurdodi fel ychwanegyn mewn maeth anifeiliaid yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn y tabl.
Yr ychwanegyn L-lysin monohydroclorid (pur yn dechnegol)
Rhif adnabod 3c327
Deiliad yr awdurdodiad Dim
Categori ychwanegion Ychwanegion maethol
Grŵp gweithredol Asidau amino, eu halwynau a’u hanalogau
Cyfansoddiad yr ychwanegyn Powdr L-lysin monohydroclorid sydd o leiaf 78% L-lysin ac sydd ag uchafswm cynnwys lleithder o 1.5%
Nodweddiad y sylwedd(au) actif L-lysin monohydroclorid (pur yn dechnegol) a gynhyrchir drwy eplesu â Corynebacterium glutamicum (KCCM 80216 neu KCTC 12307BP)L-lysin monohydroclorid (C6H15ClN 2 O2)
• Rhif CAS: 657-27-2
• Rhif EINECS: 211-519-9
Dulliau dadansoddi I adnabod L-lysin monohydroclorid yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid:
• Monograff L-lysin monohydroclorid y Food Chemicals Codex
I feintioli lysin yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid a rhag-gymysgeddau sy’n cynnwys mwy na 10% lysin:
• Cromatograffaeth cyfnewid iönau a gyplysir â deilliant ôl-golofn a chanfod optegol (IEC-VIS/FLD) (BS EN ISO 17180:2013)
I feintioli lysin mewn rhag-gymysgeddau, deunyddiau bwyd anifeiliaid a bwyd anifeiliaid cyfansawdd:
• Cromatograffaeth cyfnewid iönau a gyplysir â deilliant ôl-golofn a chanfod ffotometrig (IEC-VIS) yn unol â Rheoliad y Comisiwn (EC) 152/2009 sy’n gosod y dulliau samplu a dadansoddi ar gyfer rheoli bwyd anifeiliaid yn swyddogol (Atodiad 3-F)
I feintioli lysin mewn dŵr:
• Cromatograffaeth cyfnewid iönau a gyplysir â deilliant ôl-golofn a chanfod optegol (IEC-VIS/FLD) (BS EN ISO 17180:2013); neu
• Cromatograffaeth cyfnewid iönau a gyplysir â deilliant ôl-golofn a chanfod optegol (IEC-VIS) yn unol â Rheoliad y Comisiwn (EC) 152/2009 (Atodiad 3-F)
Rhywogaeth neu gategori o anifail Pob rhywogaeth o anifail
Oedran hynaf Dim
Isafswm cynnwys Dim
Uchafswm cynnwys Dim
Darpariaethau eraill 1. Rhaid nodi’r cynnwys lysin ar label yr ychwanegyn
2. Caniateir rhoi L-lysin monohydroclorid (pur yn dechnegol) ar y farchnad a’i ddefnyddio fel ychwanegyn sydd ar ffurf paratoad







ATODLEN 13
Rheoliad 3(1)

Mae’r paratoad o 3-nitroocsypropanol a bennir yn y tabl, sy’n perthyn i’r categori ychwanegion “ychwanegion sootechnegol” ac i’r grŵp gweithredol “sylweddau sy’n cael effaith ffafriol ar yr amgylchedd”, wedi ei awdurdodi fel ychwanegyn mewn maeth anifeiliaid yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn y tabl.
Yr ychwanegyn 3-nitroocsypropanol
Rhif adnabod 4c1
Deiliad yr awdurdodiad DSM Nutritional Products Ltd (Y Swistir)
Categori ychwanegion Ychwanegion sootechnegol
Grŵp gweithredol Sylweddau sy’n cael effaith ffafriol ar yr amgylchedd
Cyfansoddiad yr ychwanegyn Paratoad o 3-nitroocsypropanol sy’n cynnwys o leiaf 10% ychwanegynPowdr gronynnol; gronynnau sydd â diamedr < 50 μm: 0.4%
Nodweddiad y sylwedd(au) actif ‌3-nitroocsypropanol (C3H7NO4)
• Rhif CAS: 100502-66-7
Dulliau dadansoddi I feintioli 3-nitroocsypropanol yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid, y rhag-gymysgeddau a’r bwyd anifeiliaid cyfansawdd:
• Cromatograffaeth hylif perfformiad uchel gwedd wrthdroi gyda chanfod sbectroffotometrig (HPLC-UV)
Rhywogaeth neu gategori o anifail 
• Anifeiliaid cnoi cil ar gyfer cynhyrchu llaeth
• Anifeiliaid cnoi cil ar gyfer atgenhedlu
Oedran hynaf Dim
Isafswm cynnwys 53 mg/kg
Uchafswm cynnwys 88 mg/kg
Darpariaethau eraill 1. Rhaid nodi’r amodau storio a’r sefydlogrwydd o ran trin â gwres yn y cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid a’r rhag-gymysgedd
2. Rhaid ymgorffori’r ychwanegyn yn y bwyd anifeiliaid ar ffurf rhag-gymysgedd




ATODLEN 14
Rheoliad 7

Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 902/2009 sy’n ymwneud ag awdurdodi paratoad ensym o endo-1,4-beta-sylanas a gynhyrchir gan Trichoderma reesei (CBS 114044) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer perchyll wedi eu diddyfnu, ieir i’w pesgi, ieir a fegir ar gyfer dodwy, tyrcwn i’w pesgi a thyrcwn a fegir ar gyfer bridio (deiliad awdurdodiad Roal Oy).
Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 9/2010 sy’n ymwneud ag awdurdodi endo-1,4-beta-sylanas a gynhyrchir gan Trichoderma reesei (ATCC PTA 5588) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer ieir i’w pesgi, ieir dodwy, hwyaid a thyrcwn i’w pesgi (deiliad awdurdodiad Danisco (UK) Ltd, yn masnachu fel Danisco Animal Nutrition ac a gynrychiolir gan Genencor International B.V.).
Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 277/2010 sy’n ymwneud ag awdurdodi 6-ffytas fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer dofednod i’w pesgi ac ar gyfer bridio ac eithrio tyrcwn i’w pesgi, ar gyfer dofednod ar gyfer dodwy ac ar gyfer moch heblaw hychod (deiliad awdurdodiad Roal Oy).
Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 891/2010 sy’n ymwneud ag awdurdodi defnydd newydd o 6-ffytas fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer tyrcwn (deiliad awdurdodiad Roal Oy).
Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 528/2011 sy’n ymwneud ag awdurdodi endo-1,4-β-sylanas a gynhyrchir gan Trichoderma reesei (ATCC PTA 5588) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer perchyll wedi eu diddyfnu a moch i’w pesgi (deiliad awdurdodiad Danisco (UK) Ltd, sy’n masnachu fel Danisco Animal Nutrition ac a gynrychiolir gan Genencor International B.V.).
Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 886/2011 sy’n ymwneud ag awdurdodi 6-ffytas (EC 3.1.3.26) a gynhyrchir gan Trichoderma reesei (CBS 122001) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer hychod (deiliad awdurdodiad Roal Oy).
Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 1110/2011 sy’n ymwneud ag awdurdodi paratoad ensym o endo-1,4-beta-sylanas a gynhyrchir gan Trichoderma reesei (CBS 114044) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer ieir dodwy, mân rywogaethau dofednod a moch i’w pesgi (deiliad awdurdodiad Roal Oy).
Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 1021/2012 sy’n ymwneud ag awdurdodi endo-1,4-beta-sylanas a gynhyrchir gan Trichoderma reesei (ATCC PTA 5588) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer mân rywogaethau dofednod ac eithrio hwyaid (deiliad awdurdodiad Danisco (UK) Ltd, yn masnachu fel Danisco Animal Nutrition ac a gynrychiolir gan Genencor International B.V.).
Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 1196/2012 sy’n diwygio Rheoliad (EU) Rhif 9/2010 o ran isafswm cynnwys paratoad o endo-1,4-beta-sylanas a gynhyrchir gan Trichoderma reesei (ATCC PTA 5588) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ym mwyd anifeiliaid ar gyfer ieir dodwy (deiliad awdurdodiad Danisco Animal Nutrition).
Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2018/1569 sy’n diwygio Rheoliad Gweithredu (EU) Rhif 1110/2011 sy’n ymwneud ag awdurdodi paratoad ensym o endo-1,4-beta-sylanas a gynhyrchir gan Trichoderma reesei (CBS 114044) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer ieir dodwy, mân rywogaethau dofednod a moch i’w pesgi (deiliad awdurdodiad Roal Oy).
