
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Prentisiaethau (Manyleb Safonau Prentisiaethau Cymru) (Addasu) 2023 a daw i rym ar 11 Rhagfyr 2023.
2 
Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “Manyleb Safonau Prentisiaethau Cymru” yw’r ddogfen y rhoddir effaith iddi gan erthygl 2 o Orchymyn Prentisiaethau (Manyleb Safonau Prentisiaethau Cymru) 2013.
3 
Mae Manyleb Safonau Prentisiaethau Cymru yn cael effaith yn ddarostyngedig i’r addasiadau a bennir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
Vaughan Gething
Gweinidog yr Economi, un o Weinidogion Cymru
17 November 2023
YR ATODLEN
Erthygl 3
1 
Yn lle paragraff 1 rhodder—“
1. 
Mae Manyleb Safonau Prentisiaethau Cymru (“SASW”) yn nodi’r gofynion sylfaenol i’w cynnwys mewn fframwaith prentisiaeth Cymreig cydnabyddedig. Mae cydymffurfio â’r SASW yn un o ofynion statudol Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009. Mae’r fersiwn hon yn ymgorffori’r addasiadau a wnaed i’r SASW wreiddiol a gyhoeddwyd ym mis Mai 2013 a’r addasiadau a wnaed yn 2016.
Mae’n ymgorffori addasiadau er mwyn caniatáu cymwysterau “procsi” ychwanegol fel dewis arall cydnabyddedig yn lle Sgiliau Hanfodol fel y manylir arnynt o dan bob lefel fframwaith prentisiaeth, ac mae’n cynnwys cynnig mwy cynhwysol i bobl ag anawsterau ac anableddau dysgu er mwyn ehangu cyfranogiad, gan agor y gofynion mynediad o ran sgiliau hanfodol ar gyfer lefelau 2 a 3.
Mae’n cynnwys adran newydd ar brentisiaethau gradd a phroffesiynol (lefelau 6 a 7), sy’n dileu’r gofynion o ran sgiliau hanfodol ar gyfer prentisiaethau ar y lefel hon.
Mae canllawiau cyfredol wedi eu cyhoeddi mewn dogfen ar wahân. Rhaid i Awdurdodau Cyhoeddi Cymru roi sylw i’r canllawiau cyfredol hyn wrth wneud penderfyniad ynghylch a yw cyflwyniad fframwaith yn cydymffurfio â’r SASW.
Mae’r addasiadau i’r SASW wedi eu gwneud drwy orchymyn gan Weinidogion Cymru.”
2 
Yn lle paragraff 2 rhodder—“
2. 
Rhaid i fframwaith prentisiaeth bennu ei lefel gan ddefnyddio’r disgrifyddion lefel cenedlaethol a ddisgrifir yn Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru (“FfCChC”).”
3 
Yn lle paragraff 3 rhodder—“
3. 
Rhaid i fframwaith fod ar Lefel 2 i fod yn gymwys fel Prentisiaeth Sylfaen, ar Lefel 3 i fod yn gymwys fel Prentisiaeth, ar Lefel 4 neu 5 i fod yn gymwys fel Prentisiaeth Uwch ac ar Lefel 6 neu 7 i fod yn gymwys fel Prentisiaeth Gradd neu Broffesiynol.”
4 
Yn lle paragraff 6 rhodder—“
6. 
Rhaid i fframwaith fod yn 38 o gredydau o leiaf, heb gynnwys credydau sgiliau hanfodol, ond pan fo’n briodol, gall fod yn fwy na hyn; mewn sawl achos bydd fframweithiau gryn dipyn yn fwy na 38 o gredydau. Ni all fframwaith fod mor gul fel nad yw ond yn berthnasol i weithle penodol lle yr enillwyd y brentisiaeth.”
5 
Yn lle paragraff 10 rhodder—“
10. 
Bydd y datblygwr fframwaith yn penderfynu ar gydbwysedd y credydau rhwng cymwyseddau galwedigaethol a chymwysterau gwybodaeth dechnegol perthnasol. Fodd bynnag, rhaid i’r fframwaith bennu:
(a) o leiaf 19 o gredydau a gyflawnwyd o gymhwyster ar sail cymhwysedd galwedigaethol neu elfen cymhwysedd cymhwyster integredig, sy’n ymwneud yn benodol â’r sgil, y fasnach neu’r alwedigaeth ac sy’n seiliedig ar y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (SGC) lle y maent yn bodoli, neu safonau ar gyfer y diwydiant cyfan neu, lle nad ydynt yn bodoli, safonau proffesiynol ar gyfer y sector cyflogaeth y lluniwyd y fframwaith ar ei gyfer a rhaid iddo fod ar lefel sy’n adlewyrchu rôl y swydd; a
(b) o leiaf 19 o gredydau a gyflawnwyd o gymhwyster gwybodaeth dechnegol neu elfen gwybodaeth cymhwyster integredig sy’n darparu’r wybodaeth dechnegol a’r ddealltwriaeth o’r cysyniadau damcaniaethol sy’n ymwneud yn benodol â’r sgil, y fasnach neu’r alwedigaeth i ategu cymhwysedd galwedigaethol. Rhaid i’r elfen cymhwyster gwybodaeth roi’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth o’r diwydiant a’i farchnad i’r prentis; neu
(c) o leiaf 19 o gredydau o gymhwyster cymwyseddau cyfatebol (nad ydynt yn rhai FfCChC) a gydnabyddir gan gorff proffesiynol ar gyfer Prentisiaeth Uwch ar Lefelau 4 neu 5 a Phrentisiaethau Gradd neu Broffesiynol Lefelau 6 neu 7 pan fo cwblhau prentisiaeth o’r fath yn llwyddiannus yn llwybr cydnabyddedig at gofrestru proffesiynol.”
6 
Yn lle is-baragraff 11(b) rhodder—“
(b) y cynnwys dysgu o gymhwyster cymwyseddau cyfatebol a gydnabyddir gan gorff proffesiynol ar gyfer Prentisiaeth Uwch a Phrentisiaeth Gradd a Phroffesiynol, pan fo cwblhau prentisiaeth o’r fath yn llwybr cydnabyddedig at gofrestru proffesiynol.”
7 
Ar ôl paragraff 16 mewnosoder—“
16A. 
Mae’n bosibl y bydd rhai prentisiaid ag anhawster dysgu neu anabledd dysgu yn gallu cyrraedd y safon alwedigaethol ond y byddant yn ei chael hi’n anodd cyflawni’r cymhwyster mewn Saesneg neu fathemateg ar y lefel sy’n ofynnol fel arfer. Disgwylir i ddarparwyr barhau i wneud pob ymdrech i helpu prentisiaid i gyrraedd y safonau hyn.
Fodd bynnag, gan gydnabod y rhwystrau i gyfranogiad y gall y gofynion hyn eu peri i berson ag anhawster neu anabledd dysgu, caniateir eithriadau ar gyfer prentisiaethau sylfaen a phrentisiaethau i’r gofynion sylfaenol ar gyfer Saesneg a mathemateg.
Bydd rhesymoldeb yr addasiad sydd i’w wneud yn dibynnu ar amgylchiadau unigol y prentis a’i asesiad. Gall yr addasiad fod yn gymwys i un pwnc, neu i Saesneg a mathemateg ill dwy. Os nad yw’r addasiad ond yn cael ei gymhwyso i un pwnc, bydd y gofynion arferol ar gyfer y pwnc nas addaswyd yn parhau i fod yn gymwys. Gall y darparwr ystyried addasu’r gofynion sylfaenol am Sgiliau Hanfodol mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif fesul achos unigol pan fo’r holl amodau a ganlyn wedi eu bodloni:
— Mae gan y prentis naill ai fersiwn gyfredol neu fersiwn a ddyroddwyd yn flaenorol o Gynllun Datblygu Unigol (CDU), datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig (AAA), Cynllun Addysg, Iechyd a Gofal (AIG), neu Gynllun Dysgu a Sgiliau (CDS);
— Cynhelir asesiad â thystiolaeth sy’n dangos nad yw’r prentis, hyd yn oed gyda chymorth ac addasiadau, yn gallu cyflawni Saesneg neu fathemateg i’r lefel ofynnol o ganlyniad i’w anhawster dysgu neu ei anabledd dysgu;
— Rhaid i’r cyflogwr a’r darparwr ddisgwyl yn rhesymol y bydd y prentis yn gallu cyflawni’n llwyddiannus bob agwedd arall ar ofynion y brentisiaeth, dod yn gymwys yn alwedigaethol a chyflawni Sgiliau Hanfodol mewn Cyfathrebu a Sgiliau Hanfodol mewn Cymhwyso Rhif yn y pynciau a addaswyd cyn diwedd ei brentisiaeth; ac
— Nid oes unrhyw ofynion mynediad sylfaenol ar gyfer y diwydiant penodol hwnnw.”
8 
Yn lle paragraff 19 rhodder—“
19. 
Gall fframwaith Prentisiaeth Uwch ar Lefelau 4 neu 5 neu Brentisiaeth Gradd neu Broffesiynol Lefelau 6 neu 7 bennu cymwysterau proffesiynol ychwanegol fel y’u cydnabyddir gan y sector os ydynt yn rhoi cymhwystra ar gyfer statws proffesiynol.”
9 
Yn lle paragraff 24 rhodder—“
24. 
Gall fframwaith prentisiaeth sylfaen bennu fel un o ofynion tystysgrif Cymru gymhwyster mewn Sgiliau Hanfodol mewn Llythrennedd Digidol i Lefel 1 o leiaf, oni fydd Llythrennedd Digidol yn amherthnasol i berfformiad effeithiol yn y sgil, y fasnach neu’r alwedigaeth y mae’r fframwaith yn ymwneud ag ef/â hi. Fodd bynnag, caniateir eithriadau mewn cysylltiad â phrentisiaid ag anawsterau dysgu neu anabledd dysgu fel yr amlinellir ym mharagraff 16A.”
10 
Ar ôl paragraff 25 mewnosoder—“
25A. 
Gall yr awdurdod dyroddi, yn ôl ei ddisgresiwn, bennu mewn fframwaith y derbynnir cymwysterau rheoleiddiedig sy’n cyfateb i’r cymwysterau procsi a restrir yn y SASW ar gyfer Sgiliau Hanfodol mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif neu sydd ar lefel uwch na’r cymwysterau procsi hynny. Rhaid i unrhyw gymwysterau o’r fath roi tystiolaeth bod y cymwyseddau a asesir yn y cymwysterau Sgiliau Hanfodol mewn cyfathrebu a rhif wedi eu cwblhau.
25B. 
Pan bennir cymwysterau Sgiliau Hanfodol mewn fframwaith prentisiaeth sylfaen, rhaid i’r fframwaith prentisiaeth bennu fel un o ofynion tystysgrif Cymru y derbynnir un o’r cymwysterau procsi cydnabyddedig a amlinellir yn y tablau isod:

Cymhwyster Saesneg Meini prawf Lefel / Gradd
Sgiliau Hanfodol mewn Cyfathrebu neu Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu 1 Lefel 1 o leiaf
TGAU/TGAU Ryngwladol Saesneg - unrhyw un â Saesneg yn yr enw. Gan gynnwys:Llenyddiaeth Saesneg, Saesneg Iaith, Astudiaethau Saesneg a Chyfathrebu SaesnegCyrsiau byr, Cyrsiau peilot Cymraeg IaithDyfarniadau Dwbl (gradd isaf sy’n dderbyniol E neu F)(nid yw Saesneg fel Ail Iaith yn dderbyniol) Gradd 1 o leiaf neu Radd G o leiaf
Sgiliau Gweithredol – Saesneg Lefel 1 o leiaf
Safon Uwch/UG Saesneg - unrhyw un â Saesneg yn yr enw. Gan gynnwys: - Saesneg Iaith, Llenyddiaeth Saesneg neu Saesneg Iaith a Llenyddiaeth, Cymraeg Iaith Gradd E o leiaf neu radd “O” Safon Uwch cyn 1986 o leiaf (cyfateb i Radd Gyffredin)
Lefel O Saesneg, Saesneg Iaith, Llenyddiaeth Saesneg neu Saesneg Iaith a Llenyddiaeth Gradd E o leiaf neu dystiolaeth cyn 1975 o Lwyddo
Sgiliau Allweddol mewn Cyfathrebu / Llythrennedd(Dim ond portffolio sydd ar gyfer Sgiliau Allweddol mewn Cymraeg. Mae’n ofynnol cyflawni prawf a phortffolio ar gyfer Sgiliau Allweddol mewn Saesneg) Lefel 1 o leiaf
TAU Saesneg 2 neu 3
Tystysgrif Pre U Llenyddiaeth mewn Saesneg P3
Tystysgrif Gogledd Iwerddon mewn Sgiliau Allweddol mewn Cyfathrebu Lefel 1 o leiaf
Iaith Arwyddion Prydain - cymhwyster rheoleiddiedig (dim ond pan mai Iaith Arwyddion Prydain yw prif iaith y Prentis) Lefel 1 o leiaf neu Lefel 4 SCQF o leiaf
Cymhwyster Uwch Estynedig yr Alban mewn Saesneg (SCQF Lefel 7) Gradd C o leiaf
Cymhwyster Uwch yr Alban mewn Saesneg (SCQF Lefel 6) Gradd C o leiaf
Cymhwyster Cenedlaethol yr Alban 4 mewn Saesneg (SCQF Lefel 4) Llwyddo
Cymhwyster Canolradd yr Alban 1 mewn Saesneg (SCQF Lefel 4) Gradd C o leiaf
Gradd Safonol Gyffredinol yr Alban mewn Saesneg (SCQF Lefel 4) Gradd 3 o leiaf
Uned Tystysgrif Genedlaethol yr Alban mewn Cyfathrebu (SCQF Lefel 6) Llwyddo
Uned Sgiliau Craidd yr Alban mewn Cyfathrebu (SCQF Lefel 4) Llwyddo
Uned Graidd Gweithle yr Alban mewn Cyfathrebu (SCQF Lefel 4)(Cyfathrebu Llafar a chyfathrebu ysgrifenedig) Llwyddo
Uned Genedlaethol yr Alban mewn Llythrennedd (SCQF Lefel 4) Llwyddo
Gradd Gyffredin yr Alban mewn Saesneg (SCQF Lefel 5) Gradd C o leiaf
Rhaglen Blynyddoedd Canol y Fagloriaeth Ryngwladol Lefel 1 / 2 Tystysgrif mewn Iaith a Llenyddiaeth Gradd 2 o leiaf
Cymhwyster Safonol neu Lefel Uwch Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol mewn:
• Saesneg A: Llenyddiaeth neu;
• Saesneg A: Iaith a Llenyddiaeth neu;
• Lenyddiaeth Saesneg a Pherfformio Gradd 3 o leiaf
Mae cymwysterau tramor yn dderbyniol gyda thystiolaeth glir gan NARIC (tystysgrif / datganiad o gymharedd) fod y cymhwyster ar lefel sy’n cyfateb i ofynion sylfaenol y SASW a gwybodaeth ychwanegol sy’n cadarnhau bod y cymhwyster yn cyfateb i TGAU A*-C Gradd sy’n cyfateb i TGAU A*-C o leiaf
Bagloriaeth Cymru – Dim ond pan ddangosir elfen Gyfathrebu Cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru neu Sgiliau Hanfodol Lefel 1 o leiaf

Cymhwyster mathemateg Meini Prawf Lefel/ Gradd
Sgiliau Hanfodol mewn Cymhwyso Rhif neu Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cymhwyso Rhif Lefel 1 o leiaf
TGAU/TGAU Ryngwladol Mathemateg - unrhyw un â Mathemateg yn yr enw. Gan gynnwys:
• Cwrs byr, Cyrsiau peilot
• Dyfarniadau Dwbl (y lleiaf sy’n dderbyniol yw EF)
• Mathemateg Linol, Mathemateg Fodiwlar
• Cymhwyso Mathemateg
• Dulliau mewn Mathemateg
• Mathemateg Ychwanegol
• Defnyddio Mathemateg Gradd 1 o leiafNeuRadd G o leiaf
Sgiliau Gweithredol – Mathemateg Lefel 1 o leiaf
Safon Uwch/UG Mathemateg - unrhyw un â Mathemateg yn yr enw. Gan gynnwys: Mathemateg Bur, Mathemateg Bellach, Defnyddio Mathemateg Gradd E o leiaf neu radd “O” Safon Uwch cyn 1986 o leiaf (cyfateb i Radd Gyffredin)
Mathemateg Lefel O Gradd E o leiafNeu dystiolaeth cyn 1975 o lwyddo
Sgiliau Allweddol mewn Cymhwyso Rhif (Rhifedd)Dim ond portffolio sydd ar gyfer Sgiliau Allweddol mewn Cymraeg, mae’n ofynnol cyflawni prawf a phortffolio ar gyfer Sgiliau Allweddol mewn Saesneg Lefel 1 o leiaf
Tystysgrif Gogledd Iwerddon mewn Sgiliau Hanfodol mewn Cymhwyso Rhif Lefel 1 o leiaf
TAU Mathemateg Lefel 2 o leiaf
Mathemateg Graidd Lefel 3 (pan fo wedi ei chynnwys mewn tablau perfformiad)
• Astudiaethau Mathemategol
• Defnyddio a Chymhwyso Mathemateg
• Datrys Problemau Meintiol
• Rhesymu Meintiol
• Mathemateg yn ei Chyd-destun
• Mathemateg ar gyfer Gwaith a Bywyd Gradd E o leiaf
Cymhwyster Mathemateg Annibynnol Lefel 2 - Sylfeini Mathemateg Uwch Gradd E o leiaf
Tystysgrif Pre U mewn Mathemateg neu Fathemateg Bellach P3 o leiaf
Cymhwyster Uwch Estynedig yr Alban mewn Mathemateg neu Fathemateg Bellach Gradd C o leiaf
Cymhwyster Uwch yr Alban mewn Mathemateg (SCQF Lefel 6) Gradd C o leiaf
Cymhwyster Cenedlaethol yr Alban 4 mewn Mathemateg neu Sgiliau Bywyd mewn Mathemateg neu Gymhwyso Mathemateg (SCQF Lefel 4) Llwyddo
Cymhwyster Canolradd yr Alban 1 mewn Mathemateg (SCQF Lefel 4) Gradd C o leiaf
Gradd Safonol Gyffredinol yr Alban mewn Mathemateg (SCQF Lefel 4) 3 o leiaf
Uned Sgiliau Craidd yr Alban mewn Rhifedd (SCQF Lefel 4) Gwybodaeth Graffigol a Defnyddio Rhif Llwyddo
Uned Sgiliau Craidd Gweithle yr Alban mewn Rhifedd (SCQF Lefel 4) Llwyddo
Uned Genedlaethol yr Alban mewn Rhifedd (SCQF Lefel 4) Llwyddo
Gradd Gyffredin yr Alban mewn Mathemateg (SCQF Lefel 5) Gradd C o leiaf
Rhaglen Blynyddoedd Canol y Fagloriaeth Ryngwladol Lefel 1/2 Tystysgrif mewn Mathemateg neu Fathemateg Estynedig Gradd 2 o leiaf
Cymhwyster Safonol neu Lefel Uwch Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol mewn:
• Astudiaethau Mathemategol neu;
• Fathemategol neu;
• Fathemateg Bellach Gradd 3 o leiaf
Mae cymwysterau tramor yn dderbyniol gyda thystiolaeth glir gan NARIC (tystysgrif / datganiad o gymharedd) fod y cymhwyster ar lefel sy’n cyfateb i ofynion sylfaenol y SASW a gwybodaeth ychwanegol sy’n cadarnhau bod y cymhwyster yn cyfateb i TGAU A*-C Gradd sy’n cyfateb i TGAU A*-C o leiaf
Bagloriaeth Cymru – Dim ond pan ddangosir elfen Cymhwyso Rhif Cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru neu Sgiliau Hanfodol Lefel 1 o leiaf”.
11 
Yn lle paragraff 35 rhodder—“
35. 
Gall fframwaith prentisiaeth bennu fel un o ofynion tystysgrif Cymru gymhwyster mewn Sgiliau Hanfodol mewn Llythrennedd Digidol i Lefel 2 o leiaf, oni fydd Llythrennedd Digidol yn amherthnasol i berfformiad effeithiol yn y sgil, y fasnach neu’r alwedigaeth y mae’r fframwaith yn ymwneud ag ef/â hi. Fodd bynnag, caniateir eithriadau ar gyfer pobl ag Anawsterau neu Anableddau Dysgu yn ogystal â’r cymwysterau hynny a amlinellir ym mharagraff 16A.”
12 
Yn lle paragraff 36 rhodder—“
36. 
Gall yr awdurdod dyroddi, yn ôl ei ddisgresiwn, bennu mewn fframwaith y derbynnir cymwysterau rheoleiddiedig sy’n cyfateb i’r cymwysterau procsi a restrir yn y SASW ar gyfer Sgiliau Hanfodol mewn Cyfathrebu a Sgiliau Hanfodol mewn Cymhwyso Rhif neu sydd ar lefel uwch na’r cymwysterau procsi hynny. Rhaid i unrhyw gymwysterau o’r fath roi tystiolaeth bod y cymwyseddau a asesir yn y cymwysterau Sgiliau Hanfodol mewn cyfathrebu a rhif wedi eu cwblhau.
36A. 
Pan bennir cymwysterau Sgiliau Hanfodol mewn fframweithiau prentisiaeth, rhaid i’r fframwaith prentisiaeth bennu fel un o ofynion tystysgrif Cymru y derbynnir un o’r cymwysterau procsi cydnabyddedig a amlinellir yn y tablau isod:

Cymhwyster Saesneg Meini Prawf Lefel / Gradd
Sgiliau Hanfodol mewn Cyfathrebu neu Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu 1 Lefel 2 o leiaf
TGAU/TGAU Ryngwladol Saesneg - unrhyw un â Saesneg yn yr enw. Gan gynnwys:
• Llenyddiaeth Saesneg, Saesneg Iaith, Astudiaethau Saesneg a Chyfathrebu Saesneg
• Cymraeg Iaith
• Cyrsiau byr, Cyrsiau peilot
• Dyfarniadau Dwbl (gradd isaf sy’n dderbyniol C/D)(nid yw Saesneg fel Ail Iaith yn dderbyniol) Gradd 4 o leiaf neu Radd C o leiaf
Sgiliau Gweithredol – Saesneg Lefel 2 o leiaf
Safon Uwch/UG Saesneg - unrhyw un â Saesneg yn yr enw. Gan gynnwys: Saesneg Iaith, Llenyddiaeth Saesneg neu Saesneg Iaith a Llenyddiaeth, Cymraeg Iaith Gradd E o leiaf neu radd “O” Safon Uwch cyn 1986 o leiaf (cyfateb i Radd Gyffredin)
Lefel O Saesneg, Saesneg Iaith, Llenyddiaeth Saesneg neu Saesneg Iaith a Llenyddiaeth Gradd C o leiaf neu dystiolaeth cyn 1975 o Lwyddo
Sgiliau Allweddol mewn Cyfathrebu / Llythrennedd(Dim ond portffolio sydd ar gyfer Sgiliau Allweddol mewn Cymraeg. Mae’n ofynnol cyflawni prawf a phortffolio ar gyfer Sgiliau Allweddol mewn Saesneg) Lefel 2 o leiaf
TAU Saesneg Gradd 1 o leiaf
Tystysgrif Pre U Llenyddiaeth mewn Saesneg P3
Tystysgrif Gogledd Iwerddon mewn Sgiliau Allweddol mewn Cyfathrebu Lefel 2 o leiaf
Iaith Arwyddion Prydain - cymhwyster rheoleiddiedig (dim ond pan mai Iaith Arwyddion Prydain yw prif iaith y Prentis) Lefel 2 o leiaf neu Lefel 5 SCQF o leiaf
Cymhwyster Uwch Estynedig yr Alban mewn Saesneg (SCQF Lefel 7) Gradd C o leiaf
Cymhwyster Uwch yr Alban mewn Saesneg (SCQF Lefel 6) Gradd C o leiaf
Cymhwyster Cenedlaethol yr Alban 5 mewn Saesneg (SCQF Lefel 5) Gradd D o leiaf
Cymhwyster Canolradd yr Alban 2 mewn Saesneg (SCQF Lefel 5) Gradd C o leiaf
Gradd Safonol Gyffredinol yr Alban mewn Saesneg (SCQF Lefel 5) 2 o leiaf
Uned Tystysgrif Genedlaethol yr Alban mewn Cyfathrebu (SCQF Lefel 6) Llwyddo
Uned Sgiliau Craidd yr Alban mewn Cyfathrebu (SCQF Lefel 5) Llwyddo
Uned Graidd Gweithle yr Alban mewn Cyfathrebu (SCQF Lefel 5)(Cyfathrebu Llafar A chyfathrebu ysgrifenedig) Llwyddo
Uned Genedlaethol yr Alban mewn Llythrennedd (SCQF Lefel 5) Llwyddo
Gradd Gyffredin yr Alban mewn Saesneg (SCQF Lefel 5) Gradd C o leiaf
Rhaglen Blynyddoedd Canol y Fagloriaeth Ryngwladol Lefel 1 / 2 Tystysgrif mewn Iaith a Llenyddiaeth Gradd 3 o leiaf
Cymhwyster Safonol neu Lefel Uwch Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol mewn:
• Saesneg A: Llenyddiaeth neu;
• Saesneg A: Iaith a Llenyddiaeth neu;
• Lenyddiaeth Saesneg a Pherfformio Gradd 3 o leiaf
Mae cymwysterau tramor yn dderbyniol gyda thystiolaeth glir gan NARIC (tystysgrif / datganiad o gymharedd) fod y cymhwyster ar lefel sy’n cyfateb i ofynion sylfaenol y SASW a gwybodaeth ychwanegol sy’n cadarnhau bod y cymhwyster yn cyfateb i TGAU A*-C Gradd sy’n cyfateb i TGAU A*-C o leiaf
Bagloriaeth Cymru –Dim ond pan ddangosir elfen Gyfathrebu Cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru neu Sgiliau Hanfodol Lefel 2 o leiaf

Cymhwyster Mathemateg Meini prawf Lefel / Gradd
Sgiliau Hanfodol mewn Cymhwyso Rhif neu Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cymhwyso Rhif Lefel 2 o leiaf
TGAU/TGAU Ryngwladol Mathemateg - unrhyw un â Mathemateg yn yr enw. Gan gynnwys:
• Cwrs byr, Cyrsiau peilot
• Dyfarniadau Dwbl (yr isaf sy’n dderbyniol yw CD)
• Mathemateg Linol, Mathemateg Fodiwlar
• Cymhwyso Mathemateg
• Dulliau mewn Mathemateg
• Mathemateg Ychwanegol
• Defnyddio Mathemateg Gradd 4 o leiafneuRadd C o leiaf
Sgiliau Gweithredol – Mathemateg Lefel 2 o leiaf
Safon Uwch/UG Mathemateg - unrhyw un â Mathemateg yn yr enw. Gan gynnwys: Mathemateg Bur, Mathemateg Bellach, Defnyddio Mathemateg Gradd E o leiaf neu radd “O” Safon Uwch cyn 1986 o leiaf ( cyfateb i Radd Gyffredin)
Mathemateg Lefel O Gradd C o leiafNeu dystiolaeth cyn 1975 o lwyddo
Sgiliau Allweddol mewn Cymhwyso Rhif (Rhifedd) Lefel 2 o leiaf
Tystysgrif Gogledd Iwerddon mewn Sgiliau Allweddol mewn Cymhwyso Rhif Lefel 2 o leiaf
TAU Mathemateg Lefel 1 o leiaf
Mathemateg Graidd Lefel 3 (pan fo wedi ei chynnwys yn y tablau perfformiad)
• Astudiaethau Mathemategol
• Defnyddio a Chymhwyso Mathemateg
• Datrys Problemau Meintiol
• Rhesymu Meintiol
• Mathemateg yn ei Chyd-destun
• Mathemateg ar gyfer Gwaith a Bywyd Gradd E o leiaf
Cymhwyster Mathemateg Annibynnol Lefel 2 - Sylfeini Mathemateg Uwch Gradd C o leiaf
Tystysgrif Pre U mewn Mathemateg neu Fathemateg Bellach P3 o leiaf
Cymhwyster Uwch Estynedig yr Alban mewn Mathemateg Gradd C o leiaf
Cymhwyster Uwch yr Alban mewn Mathemateg (SCQF Lefel 6) Gradd C o leiaf
Cymhwyster Cenedlaethol yr Alban 5 mewn Mathemateg neu Sgiliau Bywyd mewn Mathemateg neu Gymhwyso Mathemateg (SCQF Lefel 5) Gradd D o leiaf
Cymhwyster Canolradd yr Alban 2 mewn Mathemateg (SCQF Lefel 5) Gradd C o leiaf
Gradd Safonol Gyffredinol yr Alban mewn Mathemateg (SCQF Lefel 5) 2 o leiaf
Uned Sgiliau Craidd yr Alban mewn Rhifedd (SCQF Lefel 5) Gwybodaeth Graffigol a Defnyddio Rhif Llwyddo
Uned Sgiliau Craidd Gweithle yr Alban mewn Rhifedd (SCQF Lefel 5) Llwyddo
Uned Genedlaethol yr Alban mewn Rhifedd (SCQF Lefel 5) Llwyddo
Gradd Gyffredin yr Alban mewn Mathemateg (SCQF Lefel 5) Gradd C o leiaf
Rhaglen Blynyddoedd Canol y Fagloriaeth Ryngwladol Lefel 1/2 Tystysgrif mewn Mathemateg neu Fathemateg Estynedig Gradd 3 o leiaf
Cymhwyster Safonol neu Lefel Uwch Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol mewn:Astudiaethau Mathemategol; neuFathemategol; neuFathemateg Bellach Gradd 3 o leiaf
Mae cymwysterau tramor yn dderbyniol gyda thystiolaeth glir gan NARIC (tystysgrif / datganiad o gymharedd) fod y cymhwyster ar lefel sy’n cyfateb i ofynion sylfaenol y SASW a gwybodaeth ychwanegol sy’n cadarnhau bod y cymhwyster yn cyfateb i TGAU A*-C Gradd sy’n cyfateb i TGAU A*-C o leiaf
Bagloriaeth Cymru –Dim ond pan ddangosir elfen Cymhwyso Rhif Cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru neu Sgiliau Hanfodol Lefel 2 o leiaf”.
13 
Yn lle’r pennawd ym mharagraff 38 rhodder “Fframweithiau Prentisiaeth Uwch (Lefelau 4 a 5)”.
14 
Ar ôl paragraff 42 mewnosoder—“

Prentisiaethau Gradd neu Broffesiynol (Lefel 6 a 7) – Cymwysterau sy’n gysylltiedig â’r sector Cyfeirnodau adran
43. Rhaid i fframwaith prentisiaeth gradd neu broffesiynol nodi’r cymhwyster cymwyseddau galwedigaethol y mae’n rhaid i’r prentis eu cyflawni er mwyn bod yn gymwys ar gyfer tystysgrif prentisiaeth Cymru, a’r cymhwyster sy’n ofynnol er mwyn dangos cymhwysedd wrth gyflawni’r sgil, y fasnach neu’r alwedigaeth y mae’r fframwaith yn ymwneud ag ef/â hi. Rhaid i’r cymhwyster cymwyseddau fod ar lefel y fframwaith a bennir a chael ei ategu gan Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (SGC) lle y maent yn bodoli, neu safonau ar gyfer y diwydiant cyfan neu safonau proffesiynol lle nad ydynt yn bodoli.
 Adran 31(2)(c)(iii)
44. Rhaid i fframwaith prentisiaeth gradd neu broffesiynol nodi cymhwyster gwybodaeth dechnegol y mae’n rhaid i’r prentis ei gyflawni er mwyn bod yn gymwys ar gyfer tystysgrif prentisiaeth Cymru. Cymhwyster gwybodaeth dechnegol yw’r cymhwyster sy’n ofynnol i ddangos bod y sgiliau technegol, yr wybodaeth a’r ddealltwriaeth o’r cysyniadau damcaniaethol a’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth o’r diwydiant a’i farchnad yn berthnasol i’r sgil, y fasnach neu’r alwedigaeth y mae’r fframwaith yn ymwneud ag ef/â hi wedi eu cyflawni.
 Adran 31(2)(c)(ii)
45. Rhaid i fframwaith prentisiaeth gradd a phroffesiynol nodi:cymhwyster cymwyseddau galwedigaethol a chymhwyster gwybodaeth dechnegol ar wahân ar Lefel 6 o leiaf; neugymhwyster integredig ar Lefel 6 o leiaf sy’n cyfuno cymwyseddau galwedigaethol ac elfennau gwybodaeth dechnegol y caiff pob elfen ei hasesu ar wahân ynddynt; neubennu cymhwyster gwybodaeth dechnegol berthnasol a gydnabyddir gan gorff proffesiynol sy’n cynrychioli’r maes galwedigaethol. Adran 31(2)(a)Adran 31(2)(c)(iii)

Sgiliau Hanfodol 
46. Nid oes unrhyw ofynion sgiliau hanfodol ar gyfer fframweithiau prentisiaeth Gradd a Phroffesiynol. 

Hyfforddiant mewn swydd a hyfforddiant y tu allan i’r gwaith 
47. Mae’r gofynion fel y maent ar gyfer fframwaith prentisiaeth sylfaen ar Lefel 2 Adran 31(2)(b)”.