
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2023 a deuant i rym ar 16 Tachwedd 2023.
2 
Mae Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
3 
Yn rheoliad 3 (personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo sy’n gymwys i gael dyraniad o lety tai)—
(a) hepgorer yr “ac” ar ôl paragraff (m);
(b) ar ddiwedd paragraff (n), yn lle “.” rhodder “; ac”;
(c) ar ôl paragraff (n) mewnosoder—“
(o) Dosbarth O – person—
(i) a oedd yn preswylio yn Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza, Dwyrain Jerwsalem, Ucheldiroedd Golan neu Libanus yn union cyn 7 Hydref 2023;
(ii) a adawodd Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza, Dwyrain Jerwsalem, Ucheldiroedd Golan neu Libanus mewn cysylltiad ag ymosodiad terfysgol Hamas yn Israel ar 7 Hydref 2023 neu’r trais a wnaeth ddwysáu yn gyflym yn y rhanbarth yn dilyn yr ymosodiad;
(iii) sydd â chaniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddir yn unol â’r Rheolau Mewnfudo;
(iv) nad yw ei ganiatâd yn ddarostyngedig i amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw ei gynnal a’i letya ei hun, ac unrhyw berson sy’n ddibynnol arno, heb ddibynnu ar gronfeydd cyhoeddus; a
(v) nad yw’n berson (P)—(aa) y rhoddwyd caniatâd iddo yn dilyn ymgymeriad a roddwyd gan noddwr P;(bb) a fu’n preswylio yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon am lai na phum mlynedd gan ddechrau ar y dyddiad y daeth i mewn neu ar y dyddiad y rhoddodd noddwr P yr ymgymeriad mewn cysylltiad â P, pa bynnag dyddiad yw’r diweddaraf; ac(cc) y mae ei noddwr neu, pan fo mwy nag un noddwr, o leiaf un o’i noddwyr yn dal yn fyw.”
4 
Yn rheoliad 4(2) (personau eraill o dramor sy’n anghymwys i gael dyraniad o lety tai)—
(a) hepgorer yr “a” ar ôl is-baragraff (j);
(b) ar ddiwedd is-baragraff (k), yn lle “.” rhodder “; ac”;
(c) ar ôl is-baragraff (k) mewnosoder—“
(l) person a oedd yn preswylio yn Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza, Dwyrain Jerwsalem, Ucheldiroedd Golan neu Libanus yn union cyn 7 Hydref 2023 ac a adawodd Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza, Dwyrain Jerwsalem, Ucheldiroedd Golan neu Libanus mewn cysylltiad ag ymosodiad terfysgol Hamas yn Israel ar 7 Hydref 2023 neu’r trais a wnaeth ddwysáu yn gyflym yn y rhanbarth yn dilyn yr ymosodiad.”
5 
Yn rheoliad 5(1) (personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo sy’n gymwys i gael cymorth tai)—
(a) hepgorer yr “ac” ar ôl is-baragraff (n);
(b) ar ddiwedd is-baragraff (o), yn lle “.” rhodder “; a”;
(c) ar ôl is-baragraff (o) mewnosoder—“
(p) Dosbarth P – person—
(i) a oedd yn preswylio yn Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza, Dwyrain Jerwsalem, Ucheldiroedd Golan neu Libanus yn union cyn 7 Hydref 2023;
(ii) a adawodd Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza, Dwyrain Jerwsalem, Ucheldiroedd Golan neu Libanus mewn cysylltiad ag ymosodiad terfysgol Hamas yn Israel ar 7 Hydref 2023 neu’r trais a wnaeth ddwysáu yn gyflym yn y rhanbarth yn dilyn yr ymosodiad;
(iii) y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn unol â’r Rheolau Mewnfudo;
(iv) nad yw ei ganiatâd yn ddarostyngedig i amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw ei gynnal a’i letya ei hun, ac unrhyw berson sy’n ddibynnol arno, heb ddibynnu ar gronfeydd cyhoeddus; a
(v) nad yw’n berson (P)—(aa) y rhoddwyd caniatâd iddo yn dilyn ymgymeriad a roddwyd gan noddwr P;(bb) a fu’n preswylio yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon am lai na phum mlynedd gan ddechrau ar y dyddiad y daeth i mewn neu ar y dyddiad y rhoddodd noddwr P yr ymgymeriad mewn cysylltiad â P, pa bynnag dyddiad yw’r diweddaraf; ac(cc) y mae ei noddwr neu, pan fo mwy nag un noddwr, o leiaf un o’i noddwyr yn dal yn fyw.”
6 
Yn rheoliad 6(2) (personau eraill o dramor sy’n anghymwys i gael cymorth tai) —
(a) hepgorer yr “a” ar ôl is-baragraff (j);
(b) ar ddiwedd is-baragraff (k), yn lle “.” rhodder “; ac”;
(c) ar ôl is-baragraff (k) mewnosoder—“
(l) person a oedd yn preswylio yn Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza, Dwyrain Jerwsalem, Ucheldiroedd Golan neu Libanus yn union cyn 7 Hydref 2023 ac a adawodd Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza, Dwyrain Jerwsalem, Ucheldiroedd Golan neu Libanus mewn cysylltiad ag ymosodiad terfysgol Hamas yn Israel ar 7 Hydref 2023 neu’r trais a wnaeth ddwysáu yn gyflym yn y rhanbarth yn dilyn yr ymosodiad.”
Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
15 Tachwedd 2023