
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Ardrethu Annomestig 2023 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) (Cymru) 2023.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 8.00 p.m. ar 27 Hydref 2023.
2 

(1) Mae rheoliad 3(1) (dehongli) o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestrau Lleol) 1989 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn y diffiniad o “the amount payable”, yn is-baragraff (a)—
(a) yn lle “section 43(4) to (6) or section 45(4) to (6) of” rhodder “paragraphs 1 to 7, and 10 of Schedule 4ZA or paragraphs 1 to 3 of Schedule 4ZB to”;
(b) yn lle “58(3)(a)” rhodder “58(3)”.
3 
Yn rheoliad 3(2)(a) (cydberchnogion a chydfeddianwyr) o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Darpariaethau Amrywiol) 1990, yn lle “58(3)(a)” rhodder “58(3)”.
4 

(1) Mae Atodlen 1 (materion i’w cynnwys mewn hysbysiadau galw am dalu) i Reoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 2017 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 4—
(a) yn lle “gorchymyn o dan adran 45(4A) o Ddeddf 1988 mewn grym neu pan fydd mewn grym” rhodder “rheoliadau o dan baragraff 1(2)(b) a 3(9) o Atodlen 4ZB i Ddeddf 1988 mewn grym neu pan fyddant mewn grym”;
(b) yn lle “gorchymyn o gymharu â’r swm pe bai adran 45(4) o” rhodder “rheoliadau o gymharu â’r swm pe bai paragraff 1(1)(b) o Atodlen 4ZB i”.
(3) Ym mharagraff 5—
(a) yn lle “adran 45A o” rhodder “paragraff 2 o Atodlen 4ZB i”;
(b) yn lle “adran 45(4) o” rhodder “paragraff 1(1)(b) o Atodlen 4ZB i”.
(4) Ym mharagraff 6—
(a) yn is-baragraff (a), yn lle “adran 43(4A)(b) neu (5) o” rhodder “baragraff 2(1) neu 4(1) o Atodlen 4ZA i”;
(b) yn is-baragraff (b), yn lle “adran 44(2) a (2A) o” rhodder “baragraff 10(2) o Atodlen 4ZA i”;
(c) yn is-baragraff (c), yn lle “58(3)(a)” rhodder “58(3)”;
(d) yn lle “adran 43(4), heb ei haddasu, ac (i’r graddau y bo’n berthnasol) adran 44(2) heb ei hamnewid” rhodder “paragraff 1 o Atodlen 4ZA, heb ei addasu, ac (i’r graddau y bo’n berthnasol) baragraff 10(2) o Atodlen 4ZA heb ei amnewid”.
5 

(1) Mae Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2017 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 2 (dehongli), yn y diffiniad o “hereditament a eithrir” yn is-baragraff (c), yn lle “baragraff (a) neu (b) o adran 43(6) o” rhodder “baragraff 2(2)(a) neu (b) o Atodlen 4ZA i”.
(3) Yn erthygl 5 (uchafswm gwerth ardrethol ar gyfer rhyddhad ardrethi), yn lle “adran 43(4B)(b)(i) o” rhodder “paragraff 4(2)(b)(i) o Atodlen 4ZA i”.
(4) Yn erthygl 6 (amodau rhyddhad), yn lle “adran 43(4B)(b)(ii) o” rhodder “paragraff 4(2)(b)(ii) o Atodlen 4ZA i”.
(5) Yn erthygl 10 (swm E), yn lle “adran 44(9) o” rhodder “paragraff 10(6) o Atodlen 4ZA i”.
6 

(1) Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau a Godir) (Cymru) 2022 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 7(2)(b) (swm tybiannol a godir), ar ôl “effaith” mewnosoder “, ond pan fo paragraff 3 o Atodlen 4ZA neu baragraff 3 o Atodlen 5A (rhyddhad gwelliannau) i’r Ddeddf yn gymwys mewn cysylltiad â hereditament (yn ôl y digwydd), A yw’r gwerth ardrethol hwnnw llai G.”
(3) Ar ôl rheoliad 7(2), mewnosoder—“
(3) Ym mharagraff (2)(b) uchod, G yw’r swm a ragnodir, neu’r swm a gyfrifir yn unol â’r ddarpariaeth a ragnodir, gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 10(7) o Atodlen 4ZA neu baragraff 6(6) o Atodlen 5A i’r Ddeddf (yn ôl y digwydd).”
(4) Yn rheoliad 10(a) (eithriadau), yn lle “adran 45A o’r” rhodder “baragraff 2 o Atodlen 4ZB i’r”.
(5) Yn rheoliad 11 (rheolau ar gyfer canfod y swm a godir), yn lle “adran 58(3)(a)” rhodder “adran 58(3)”.
7 

(1) Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestrau ac Apelau) (Cymru) 2023 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 12(1) (cynigion a wneir ar y sail yn rheoliad 4(1)(b)), ar ôl “mharagraff 2(7)(d)” rhodder “, (da)”.
(3) Yn rheoliad 14 (cynigion anghyflawn)—
(a) ym mharagraff (3), ar ôl “mharagraff 2(7)(d)” mewnosoder “, (da)”;
(b) ym mharagraff (4), ar ôl “mharagraff 2(7)(d)” mewnosoder “, (da)”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
Am 12.24 p.m. ar 27 Hydref 2023