
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023 (Cychwyn Rhif 1) 2023 a daw i rym ar 30 Hydref 2023.
2 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023 i rym ar 30 Hydref 2023—
(a) adran 1 (cysyniadau allweddol: “cynnyrch plastig”, “untro” a “plastig”);
(b) adran 2 (cynhyrchion plastig untro gwaharddedig);
(c) adran 5 (y drosedd o gyflenwi cynhyrchion plastig untro gwaharddedig);
(d) adran 6 (trosedd: dull treial a chosb);
(e) adran 7 (camau gorfodi gan awdurdod lleol);
(f) adran 8 (pŵer i wneud pryniannau prawf);
(g) adran 9 (pŵer mynediad);
(h) adran 10 (pŵer mynediad: mangreoedd preswyl);
(i) adran 11 (pŵer mynediad: amgylchiadau eraill pan fo gwarant yn angenrheidiol);
(j) adran 12 (pwerau mynediad: atodol);
(k) adran 13 (pŵer arolygu);
(l) adran 14 (y drosedd o rwystro etc. swyddogion);
(m) adran 15 (eiddo a gedwir: apelau);
(n) adran 16 (eiddo a gyfeddir: digolledu);
(o) adran 18 (troseddau a gyflawnir gan bartneriaethau a chymdeithasau anghorfforedig eraill);
(p) adran 19 (atebolrwydd troseddol uwch-swyddogion etc.);
(q) adran 20 (dehongli);
(r) paragraff 1 o’r Atodlen (cynhyrchion plastig untro gwaharddedig), ac eithrio’r cofnodion yng ngholofn 1 a cholofn 2 o’r Tabl ar gyfer “caeadau ar gyfer cwpanau neu gynhwysyddion cludfwyd”, “bagiau siopa” ac “unrhyw gynnyrch a wnaed o gynnyrch plastig ocso-ddiraddiadwy— (a) pa un a yw’r cynnyrch hwnnw yn ymddangos yn rhywle arall yn y tabl hwn ai peidio, a (b) pa un a fyddai’r math penodol o gynnyrch, neu’r diben y cyflenwir y cynnyrch hwnnw (neu fath penodol o gynnyrch) ar ei gyfer, fel arall wedi ei esemptio oherwydd cofnod yng ngholofn 2 ai peidio.”;
(s) paragraff 2 o’r Atodlen.
Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
26 Hydref 2023