
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 4) 2023.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
2 
Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym yw 18 Hydref 2023—
(a) adran 65 (gofynion sy’n ymwneud â chasglu ar wahân etc. wastraff),
(b) adran 67 (pŵer i wahardd neu reoleiddio gwaredu gwastraff drwy losgi),
(c) adran 68 (sancsiynau sifil),
(d) adran 69(5) (rheoliadau), ac
(e) adran 70 (mân ddiwygiadau, diwygiadau canlyniadol a diddymiadau).
3 
Y diwrnod penodedig i adran 66 (gwahardd gwaredu gwastraff bwyd i garthffos) o’r Ddeddf ddod i rym yw 6 Ebrill 2024.
Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
16 Hydref 2023