
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaethau Arbed) 2023.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023.
Rhan 1
2 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 17 Hydref 2023—
(a) adrannau 21 i 23 (Ymyrraeth mewn marchnadoedd amaethyddol);
(b) adrannau 25-33 (Casglu a rhannu data);
(c) adran 34 (Safonau marchnata);
(d) adran 35 (Dosbarthiad carcasau);
(e) adran 55 (Diwygiadau canlyniadol a diddymiadau etc.);
(f) Atodlen 1 (Cynhyrchion amaethyddol sy’n berthnasol i ddarpariaethau safonau marchnata);
(g) Atodlen 2 (Mân Ddiwygiadau a Diwygiadau Canlyniadol etc. sy’n ymwneud â Rhannau 1 i 3) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(h) Atodlen 3 (Diwygiadau canlyniadol etc. i’r Rheoliad CMO).
3 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Ebrill 2024—
(a) adrannau 36-44 (Coedwigaeth) i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym.
Rhan 2
4 
Er bod paragraff 1(9) o Atodlen 2 i’r Ddeddf yn diddymu Atodlen 5 i Ddeddf Amaethyddiaeth 2020, mae’r rheoliadau a’r datganiadau a bennir yng ngholofn 1 o’r Atodlen i’r Gorchymyn hwn yn parhau mewn grym ac yn cael effaith fel pe baent wedi eu gwneud o dan yr adran o’r Ddeddf a bennir yng Ngholofn 2 o’r Atodlen.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
12 Hydref 2023
YR ATODLEN
Erthygl 4


Colofn 1 Colofn 2
Rheoliadau/Datganiadau a wnaed o dan Atodlen 5 i Ddeddf Amaethyddiaeth 2020 Yr adran berthnasol y mae darpariaethau i gael effaith odani fel pe baent wedi eu gwneud o dan y Ddeddf
Paragraff 4(1) Adran 17
Paragraff 5(1) Adran 18
Paragraff 6(1) Adran 19
Paragraff 7(1) Adran 21
Paragraff 16(1) Adran 34