
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Rhif 2) (Cymru) 2023 a daw i rym ar 28 Hydref 2023.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys i athrawon ysgol yng Nghymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn—
 mae i “athro neu athrawes ysgol” yr ystyr a roddir i “school teacher” gan adran 122(3) i (6) o Ddeddf Addysg 2002;
 ystyr “Dogfen 2022” (“the 2022 Document”) yw’r ddogfen o’r enw “Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2022 a chanllawiau ar gyflog ac amodau athrawon ysgol (diwygiedig) – Medi 2023” ac a gyhoeddir ar wefan llyw.cymru;
 ystyr “Dogfen 2023” (“the 2023 Document”) yw’r ddogfen o’r enw “Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2023 a chanllawiau ar gyflog ac amodau athrawon ysgol” ac a gyhoeddir ar wefan llyw.cymru.
2 

(1) At y dibenion a bennir ym mharagraff (2)—
(a) mae’r darpariaethau a nodir yn adran 2 o Ddogfen 2022 yn cael effaith ar gyfer y cyfnod sy’n dechrau â 1 Medi 2022 ac yn dod i ben â 31 Awst 2023, a
(b) mae’r darpariaethau a nodir yn adran 2 o Ddogfen 2023 yn cael effaith ar ac ar ôl 1 Medi 2023.
(2) Y dibenion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw dibenion penderfynu—
(a) y tâl ar gyfer athrawon ysgol, a
(b) amodau cyflogaeth eraill ar gyfer athrawon ysgol sy’n ymwneud â’u dyletswyddau proffesiynol a’u hamser gweithio.
3 
Mae Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2023 wedi ei ddirymu.
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
5 Hydref 2023