
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 9) 2023.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Hydref 2023.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(4) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “aelod o staff” (“member of staff”) yw cyflogai i gorff neu unigolyn sy’n gweithio i gorff (a rhaid dehongli “staff” (“staff”) yn unol â hynny);
 ystyr “corff” (“body”) yw person sy’n dod o fewn un neu’r ddau o’r categorïau o bersonau a restrir yn Atodlen 4;
 mae i “person neilltuedig” (“qualifying person”) yr un ystyr ag ym mharagraff 2 o Atodlen 7 i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011.
(5) Yn y Rheoliadau hyn—
(a) mae cyfeiriadau at unrhyw weithgaredd sy’n cael ei gyflawni gan gorff, neu at unrhyw wasanaeth sy’n cael ei ddarparu gan gorff, i’w darllen fel pe baent yn cynnwys cyfeiriad at y gweithgaredd hwnnw yn cael ei gyflawni ar ran y corff, neu at y gwasanaeth hwnnw yn cael ei ddarparu ar ran y corff, gan drydydd parti o dan drefniadau a wneir rhwng y trydydd parti a’r corff;
(b) yn unol â hynny, oni bai bod hysbysiad cydymffurfio yn darparu i’r gwrthwyneb, bydd corff wedi methu â chydymffurfio â safon mewn cysylltiad â gweithgaredd y mae wedi trefnu iddo gael ei gyflawni, neu wasanaeth y mae wedi trefnu iddo gael ei ddarparu, gan drydydd parti os nad yw’r gweithgaredd hwnnw neu’r gwasanaeth hwnnw wedi ei gyflawni neu ei ddarparu yn unol â’r safon.
(6) Nid oes dim byd yn y Rheoliadau hyn sy’n ei gwneud yn ofynnol i gorff gydymffurfio â safon mewn cysylltiad â gweithgaredd a gyflawnir ganddo neu wasanaeth a ddarperir ganddo pan fo’n cyflawni’r gweithgaredd hwnnw neu’n darparu’r gwasanaeth hwnnw ar ran trydydd parti o dan drefniadau a wneir rhyngddo ef a’r trydydd parti.
2 

(1) Yn Atodlen 1—
(a) mae Rhan 1 yn pennu safonau cyflenwi gwasanaethau;
(b) mae Rhan 2 yn darparu bod rhaid i hysbysiad cydymffurfio ei gwneud yn ofynnol i gorff gydymffurfio â safonau penodol a bennir yn Rhan 1 os yw wedi ei gwneud yn ofynnol i’r corff gydymffurfio â safonau penodol eraill;
(c) mae Rhan 3 yn diffinio nifer o eiriau ac ymadroddion.
(2) Yn Atodlen 2—
(a) mae Rhan 1 yn pennu safonau cadw cofnodion;
(b) mae Rhan 2 yn diffinio nifer o eiriau ac ymadroddion.
(3) Mae Atodlen 3 yn pennu safonau sy’n ymdrin â materion sy’n atodol i’r materion yr ymdrinnir â hwy yn y safonau a bennir yn Atodlenni 1 a 2 ac, yn benodol—
(a) mae Rhan 1 yn pennu safonau cyflenwi gwasanaethau sy’n ymdrin â materion atodol;
(b) mae Rhan 2 yn pennu safonau cadw cofnodion sy’n ymdrin â materion atodol;
(c) mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch dehongli’r safonau atodol.
3 
Mae Gweinidogion Cymru yn awdurdodi Comisiynydd y Gymraeg i roi hysbysiad cydymffurfio i gorff sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo gydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o’r safonau a bennir o dan reoliad 2 ac Atodlenni 1 i 3.
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
22 Medi 2023
ATODLEN 1
Rheoliad 2(1)
RHAN 1
1 Safonau ynghylch gohebiaeth a anfonir gan gorff
 (1) Pan fydd corff yn ateb gohebiaeth
Safon 1: Os byddwch yn cael gohebiaeth yn Gymraeg oddi wrth aelod o’r cyhoedd yng Nghymru (“P”), rhaid ichi ateb yn Gymraeg (os oes angen ateb), oni bai bod P wedi dweud nad oes angen ateb yn Gymraeg.
 (2) Pan fydd corff yn gohebu
 (a) Pan fydd corff yn gohebu ag aelod o’r cyhoedd
Safon 2: Oni bai eich bod yn anfon pob gohebiaeth sydd wedi ei chynhyrchu gan system at aelod o’r cyhoedd yng Nghymru (“P”) yn Gymraeg, pan fyddwch yn anfon gohebiaeth sydd wedi ei chynhyrchu gan system at P am y tro cyntaf, rhaid ichi ofyn i P a yw’n dymuno cael gohebiaeth sydd wedi ei chynhyrchu gan system oddi wrthych yn Gymraeg, ac os yw P yn ymateb i ddweud ei fod yn dymuno hynny rhaid ichi—
(a) cadw cofnod o ddymuniad P, a
(b) anfon unrhyw ohebiaeth sydd wedi ei chynhyrchu gan system a anfonwch at P o hynny ymlaen yn Gymraeg.
 (b) Pan fydd corff yn gohebu â sawl aelod o’r cyhoedd (er enghraifft, pan fydd yn anfon cylchlythyr, neu’n anfon yr un llythyr i nifer o gartrefi)
Safon 3: Pan fyddwch yn anfon yr un ohebiaeth at sawl aelod o’r cyhoedd yng Nghymru, rhaid ichi anfon fersiwn Gymraeg o’r ohebiaeth ar yr un pryd ag y byddwch yn anfon unrhyw fersiwn Saesneg ohoni.
 (3) Safonau cyffredinol ynghylch gohebu
Safon 4: Os nad ydych yn gwybod a yw aelod o’r cyhoedd yng Nghymru (“P”) yn dymuno cael gohebiaeth sydd wedi ei chynhyrchu gan system oddi wrthych yn Gymraeg, rhaid ichi ddarparu fersiwn Gymraeg o’r ohebiaeth pan fyddwch yn anfon gohebiaeth sydd wedi ei chynhyrchu gan system at y P hwnnw.
Safon 5: Os byddwch yn llunio fersiwn Gymraeg a fersiwn Saesneg gyfatebol o ohebiaeth, rhaid ichi beidio â thrin y fersiwn Gymraeg yn llai ffafriol na’r fersiwn Saesneg (er enghraifft, os yw’r fersiwn Saesneg wedi ei llofnodi, neu os oes manylion cyswllt wedi eu darparu ar y fersiwn Saesneg, rhaid i’r fersiwn Gymraeg gael ei thrin yn yr un modd).
Safon 6: Rhaid ichi ddatgan—
(a) mewn gohebiaeth at aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru, a
(b) mewn cyhoeddiadau a hysbysiadau sy’n gwahodd aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru i anfon ymateb neu i anfon gohebiaeth atoch,eich bod yn croesawu cael gohebiaeth yn Gymraeg, y byddwch yn ateb gohebiaeth yn Gymraeg, ac na fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.

2 Safonau ynghylch galwadau ffôn
 (1) Galwadau ffôn i gorff
Safon 7: Pan fydd aelod o’r cyhoedd yng Nghymru (“P”) yn cysylltu â chi ar eich rhifau llinell gymorth ymholiadau cyfrifon neu ar eich rhifau llinell gymorth gwasanaeth a bod gwasanaeth Cymraeg ar gael, rhaid ichi roi gwybod i P bod gwasanaeth Cymraeg ar gael.
Safon 8: Pan fydd aelod o’r cyhoedd yng Nghymru (“P”) yn cysylltu â chi ar eich rhifau llinell gymorth ymholiadau cyfrifon, rhaid ichi ddelio â’r alwad yn Gymraeg yn ei chyfanrwydd os yw P yn dymuno hynny (gan drosglwyddo’r alwad i aelod o staff sy’n gallu delio â’r alwad yn Gymraeg pan fo hynny’n angenrheidiol).
Safon 9: Pan fydd aelod o’r cyhoedd yng Nghymru (“P”) yn cysylltu â chi ar eich rhifau llinell gymorth ymholiadau cyfrifon, rhaid ichi ddelio â’r alwad yn Gymraeg os yw P yn dymuno hynny—
(a) hyd nes ei bod yn angenrheidiol trosglwyddo’r alwad i aelod o staff nad yw’n siarad Cymraeg sy’n gallu darparu gwasanaeth ar bwnc penodol, a
(b) hyd nes nad oes aelod o staff sy’n siarad Cymraeg ar gael i ddarparu gwasanaeth ar y pwnc penodol hwnnw.
Safon 10: Pan fydd aelod o’r cyhoedd yng Nghymru (“P”) yn cysylltu â chi ar eich rhifau llinell gymorth gwasanaeth, rhaid ichi ddelio â’r alwad yn Gymraeg yn ei chyfanrwydd os yw P yn dymuno hynny (gan drosglwyddo’r alwad i aelod o staff sy’n gallu delio â’r alwad yn Gymraeg pan fo hynny’n angenrheidiol).
Safon 11: Pan fydd aelod o’r cyhoedd yng Nghymru (“P”) yn cysylltu â chi ar eich rhifau llinell gymorth gwasanaeth, rhaid ichi ddelio â’r alwad yn Gymraeg os yw P yn dymuno hynny—
(a) hyd nes ei bod yn angenrheidiol trosglwyddo’r alwad i aelod o staff nad yw’n siarad Cymraeg sy’n gallu darparu gwasanaeth ar bwnc penodol, a
(b) hyd nes nad oes aelod o staff sy’n siarad Cymraeg ar gael i ddarparu gwasanaeth ar y pwnc penodol hwnnw.
Safon 12: Pan fyddwch yn hysbysebu rhifau ffôn, rhifau llinellau cymorth neu wasanaethau canolfannau galwadau a phan fo’r gynulleidfa a ragwelir yn cynnwys aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru, rhaid ichi beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
Safon 13: Pan fyddwch yn cyhoeddi eich rhifau llinell gymorth ymholiadau cyfrifon a’ch rhifau llinell gymorth gwasanaeth a phan fo’r gynulleidfa a ragwelir yn cynnwys aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru, rhaid ichi ddatgan (yn Gymraeg) eich bod yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Safon 14: Os oes gennych ddangosyddion perfformiad ar gyfer delio â galwadau ffôn, rhaid ichi sicrhau nad yw’r dangosyddion perfformiad hynny yn trin galwadau ffôn a wneir yn Gymraeg yn llai ffafriol na galwadau a wneir yn Saesneg.
Safon 15: Rhaid i’ch prif wasanaeth (neu wasanaethau) ateb galwadau ffôn roi gwybod i aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru sy’n galw, yn Gymraeg, fod modd gadael neges yn Gymraeg.
Safon 16: Pan nad oes gwasanaeth Cymraeg ar gael ar eich rhifau llinell gymorth ymholiadau cyfrifon neu eich rhifau llinell gymorth gwasanaeth, rhaid ichi roi gwybod i aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru sy’n galw, yn Gymraeg (pa un ai drwy gyfrwng neges wedi ei hawtomeiddio neu fel arall), pryd y bydd gwasanaeth Cymraeg ar gael.
 (2) Corff yn delio â galwadau ffôn drwy system wedi ei hawtomeiddio
Safon 17: Rhaid i unrhyw systemau ffôn wedi eu hawtomeiddio sydd gennych ddarparu’r gwasanaeth cyfan wedi ei awtomeiddio yn Gymraeg pan fo’r gynulleidfa a ragwelir yn cynnwys aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru.
3 Safonau ynghylch cyfarfodydd a gynhelir gan gorff nad ydynt yn agored i’r cyhoedd
 (1) Cyfarfodydd rhwng corff ac un aelod gwahoddedig o’r cyhoedd
Safon 18: Os byddwch yn gwahodd un aelod o’r cyhoedd yng Nghymru (“P”) yn unig i gyfarfod i’w gynnal yng Nghymru—
(a) rhaid ichi ofyn i P a yw’n dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, a hysbysu P y byddwch yn cynnal y cyfarfod yn Gymraeg neu, os oes angen, yn darparu gwasanaeth cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg at y diben hwnnw, a
(b) os yw P wedi eich hysbysu ei fod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, rhaid ichi gynnal y cyfarfod yn Gymraeg neu, os oes angen, drefnu bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd neu wasanaeth cyfieithu olynol o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfod.
 (2) Cyfarfodydd rhwng corff a mwy nag un person gwahoddedig
Safon 19: Os byddwch yn gwahodd mwy nag un person i gyfarfod i’w gynnal yng Nghymru, rhaid ichi ofyn i bob aelod o’r cyhoedd yng Nghymru a gafodd ei wahodd a yw’n dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod.
Safon 19A: Os byddwch wedi gwahodd mwy nag un person i gyfarfod i’w gynnal yng Nghymru, a bod o leiaf 10% o’r aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru a gafodd eu gwahodd wedi eich hysbysu eu bod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, rhaid ichi gynnal y cyfarfod yn Gymraeg neu, os oes angen, drefnu bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd neu wasanaeth cyfieithu olynol o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfod.
Safon 19B: Os byddwch wedi gwahodd mwy nag un person i gyfarfod i’w gynnal yng Nghymru, a bod o leiaf 20% o’r aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru a gafodd eu gwahodd wedi eich hysbysu eu bod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, rhaid ichi gynnal y cyfarfod yn Gymraeg neu, os oes angen, drefnu bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd neu wasanaeth cyfieithu olynol o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfod.
Safon 19C: Os byddwch wedi gwahodd mwy nag un person i gyfarfod i’w gynnal yng Nghymru, a bod o leiaf 30% o’r aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru a gafodd eu gwahodd wedi eich hysbysu eu bod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, rhaid ichi gynnal y cyfarfod yn Gymraeg neu, os oes angen, drefnu bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd neu wasanaeth cyfieithu olynol o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfod.
4 Safonau ynghylch cyfarfodydd a drefnir gan gorff sy’n agored i’r cyhoedd
Safon 20: Os byddwch yn trefnu cyfarfod i’w gynnal yng Nghymru sy’n agored i aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru ac y caniateir cyfranogiad cyhoeddus gan aelod o’r cyhoedd yng Nghymru ynddo, rhaid ichi ddatgan ar unrhyw ddeunydd sy’n ei hysbysebu, ac ar unrhyw wahoddiad iddo, bod croeso i unrhyw un sy’n bresennol ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod.
Safon 21: Pan fyddwch yn anfon gwahoddiadau i gyfarfod i’w gynnal yng Nghymru yr ydych yn ei drefnu sy’n agored i aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru ac y caniateir cyfranogiad cyhoeddus gan aelod o’r cyhoedd yng Nghymru ynddo, rhaid ichi eu hanfon yn Gymraeg.
Safon 22: Os byddwch yn trefnu cyfarfod i’w gynnal yng Nghymru sy’n agored i aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru ac y caniateir cyfranogiad cyhoeddus gan aelod o’r cyhoedd yng Nghymru ynddo, rhaid ichi sicrhau bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfod, a rhaid ichi hysbysu’r rheini sy’n bresennol ar lafar yn Gymraeg—
(a) bod croeso iddynt ddefnyddio’r Gymraeg, a
(b) bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael.
Safon 23: Os byddwch yn llunio ac yn arddangos unrhyw ddeunydd ysgrifenedig mewn cyfarfod a gynhelir yng Nghymru yr ydych yn ei drefnu sy’n agored i aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru, rhaid ichi sicrhau bod y deunydd yn cael ei arddangos yn Gymraeg, a rhaid ichi beidio â thrin unrhyw destun Cymraeg yn llai ffafriol na’r testun Saesneg.
5 Safonau ynghylch digwyddiadau cyhoeddus a drefnir neu a ariennir gan gorff
Safon 24: Os byddwch yn trefnu digwyddiad cyhoeddus i’w gynnal yng Nghymru, rhaid ichi sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg wrth hybu’r digwyddiad (er enghraifft, o ran y ffordd y mae’r digwyddiad yn cael ei hysbysebu neu y rhoddir cyhoeddusrwydd i’r digwyddiad).
Safon 25: Os byddwch yn trefnu digwyddiad cyhoeddus i’w gynnal yng Nghymru, rhaid ichi sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg yn y digwyddiad (er enghraifft, mewn perthynas â gwasanaethau a gynigir i bersonau sy’n bresennol yn y digwyddiad, mewn perthynas ag arwyddion a arddangosir yn y digwyddiad, ac mewn perthynas â chyhoeddiadau sain a wneir ynddo).
6 Safon ynghylch cyhoeddusrwydd a hysbysebu gan gorff
Safon 26: Rhaid i unrhyw ddeunydd cyhoeddusrwydd neu unrhyw ddeunydd hysbysebu yr ydych yn ei lunio gael ei lunio yn Gymraeg pan fo’r gynulleidfa a ragwelir yn cynnwys aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru, ac os byddwch yn llunio’r deunydd yn Gymraeg ac yn Saesneg, rhaid ichi beidio â thrin y fersiwn Gymraeg yn llai ffafriol na’r fersiwn Saesneg.
7 Safonau ynghylch corff yn arddangos deunydd yn gyhoeddus
Safon 27: Rhaid i unrhyw ddeunydd yr ydych yn ei lunio ac yn ei arddangos yn gyhoeddus yng Nghymru gael ei arddangos yn Gymraeg, a rhaid ichi beidio â thrin unrhyw fersiwn Gymraeg o’r deunydd yn llai ffafriol na’r fersiwn Saesneg.
Safon 28: Rhaid i unrhyw ddeunydd yr ydych yn ei lunio ac yn ei arddangos mewn arddangosfa gyhoeddus yng Nghymru sydd wedi ei threfnu gennych gael ei arddangos yn Gymraeg, a rhaid ichi beidio â thrin unrhyw fersiwn Gymraeg o’r deunydd yn llai ffafriol na fersiwn Saesneg.
8 Safonau ynghylch corff yn llunio dogfennau
Safon 29: Os byddwch yn llunio dogfen sydd ar gael i aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru, rhaid ichi ei llunio yn Gymraeg—
(a) os yw pwnc y ddogfen yn awgrymu y dylid ei llunio yn Gymraeg, neu
(b) os yw’r gynulleidfa a ragwelir, a’i disgwyliadau, yn awgrymu y dylid llunio’r ddogfen yn Gymraeg.
Safon 30: Os byddwch yn llunio dogfen yn Gymraeg ac yn Saesneg (pa un a ydynt yn fersiynau ar wahân ai peidio), rhaid ichi beidio â thrin unrhyw fersiwn Gymraeg yn llai ffafriol na’r fersiwn Saesneg.
Safon 31: Os byddwch yn llunio fersiwn Gymraeg a fersiwn Saesneg o ddogfen ar wahân, rhaid ichi sicrhau bod y fersiwn Saesneg yn datgan yn glir bod y ddogfen hefyd ar gael yn Gymraeg.
9 Safonau ynghylch corff yn llunio ac yn cyhoeddi ffurflenni
Safon 32: Pan fyddwch yn anfon ffurflen at aelod o’r cyhoedd yng Nghymru (“P”) am y tro cyntaf, rhaid ichi ofyn i P a yw’n dymuno cael ffurflenni yn Gymraeg, ac os yw P yn ymateb i ddweud ei fod yn dymuno hynny rhaid ichi—
(a) cadw cofnod o ddymuniad P, a
(b) anfon unrhyw ffurflenni a anfonwch at P o hynny ymlaen yn Gymraeg.
Safon 33: Os nad ydych yn gwybod a yw aelod o’r cyhoedd yng Nghymru (“P”) yn dymuno cael ffurflenni oddi wrthych yn Gymraeg, rhaid ichi ddarparu fersiwn Gymraeg pan fyddwch yn anfon ffurflen at y P hwnnw.
Safon 34: Rhaid i unrhyw ffurflen yr ydych yn ei rhoi ar gael i aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru gael ei llunio yn Gymraeg, ac—
(a) os byddwch yn llunio fersiwn Gymraeg a fersiwn Saesneg o ffurflen ar wahân, rhaid ichi sicrhau bod y fersiwn Saesneg yn datgan yn glir bod y ffurflen hefyd ar gael yn Gymraeg;
(b) os byddwch yn llunio ffurflen yn Gymraeg ac yn Saesneg (pa un a ydynt yn fersiynau ar wahân ai peidio), rhaid ichi sicrhau nad yw’r fersiwn Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r fersiwn Saesneg, a rhaid ichi beidio â gwahaniaethu rhyngddynt o ran unrhyw ofynion sy’n berthnasol i’r ffurflen (er enghraifft, mewn perthynas ag unrhyw ddyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r ffurflen, neu mewn perthynas â’r amser a ganiateir ar gyfer ymateb i gynnwys y ffurflen).
Safon 35: Os byddwch yn mewnosod gwybodaeth ar fersiwn Gymraeg o ffurflen (er enghraifft, cyn ei hanfon at aelod o’r cyhoedd yng Nghymru (“P”) er mwyn i P wirio’r cynnwys neu er mwyn iddo lenwi gweddill y ffurflen), rhaid ichi sicrhau bod yr wybodaeth yr ydych yn ei mewnosod yn cael ei mewnosod yn Gymraeg.
10 Safonau ynghylch gwefannau a gwasanaethau ar-lein corff
 (1) Gwefannau a gyhoeddir gan gorff
Safon 36: Rhaid ichi sicrhau—
(a) bod testun pob tudalen ar eich gwefan ar gael yn Gymraeg,
(b) bod pob tudalen Gymraeg ar eich gwefan yn gweithredu’n llawn, ac
(c) nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg ar eich gwefan.
Safon 37: Rhaid ichi sicrhau—
(a) bod testun hafan eich gwefan ar gael yn Gymraeg,
(b) bod unrhyw destun Cymraeg ar hafan eich gwefan (neu, pan fo’n berthnasol, bod eich hafan Gymraeg) yn gweithredu’n llawn, ac
(c) nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg mewn perthynas â hafan eich gwefan.
Safon 38: Pan fyddwch yn cyhoeddi tudalen newydd ar eich gwefan neu’n diwygio tudalen, rhaid ichi sicrhau—
(a) bod testun y dudalen honno ar gael yn Gymraeg,
(b) bod unrhyw fersiwn Gymraeg o’r dudalen yn gweithredu’n llawn, ac
(c) nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg o ran testun y dudalen honno.
Safon 39: Os oes gennych dudalen Gymraeg ar eich gwefan sy’n cyfateb i dudalen Saesneg, rhaid ichi ddatgan yn glir ar y dudalen Saesneg bod y dudalen hefyd ar gael yn Gymraeg, a rhaid ichi ddarparu dolen uniongyrchol at y dudalen Gymraeg ar y dudalen Saesneg gyfatebol.
Safon 40: Rhaid ichi ddarparu’r rhyngwyneb a’r dewislenni ar bob tudalen ar eich gwefan yn Gymraeg.
Safon 41: Rhaid ichi neilltuo a chynnal tudalen (neu dudalennau) ar eich gwefan sy’n darparu gwybodaeth (yn Gymraeg) am—
(a) y gwasanaethau yr ydych yn eu darparu a’r gweithgareddau yr ydych yn eu cyflawni yng Nghymru, a
(b) y gwasanaethau Cymraeg yr ydych yn eu darparu a sut y gellir cael gafael ar bob un o’r gwasanaethau Cymraeg hynny.
 (2) Apiau a gyhoeddir gan gorff
Safon 42: Rhaid i bob ap yr ydych yn ei gyhoeddi i’w ddefnyddio gan aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru weithredu’n llawn yn Gymraeg, a rhaid ichi beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg o ran yr ap hwnnw.
 (3) Cyfleuster sgwrsio ar-lein
Safon 43: Os oes gennych gyfleuster sgwrsio byw i’w ddefnyddio gan aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru, rhaid ichi ei ddarparu yn Gymraeg.
Safon 43A: Rhaid ichi ddatgan (yn Gymraeg) ar eich gwefan fod eich cyfleuster sgwrsio byw ar gael yn Gymraeg a sut y gellir dod o hyd iddo.
11 Safonau ynghylch defnydd corff o’r cyfryngau cymdeithasol
Safon 44: Pan fyddwch yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, rhaid ichi beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
Safon 45: Os bydd aelod o’r cyhoedd yng Nghymru yn cysylltu â chi drwy’r cyfryngau cymdeithasol yn Gymraeg, rhaid ichi ateb yn Gymraeg (os oes angen ateb).
12 Safon ynghylch peiriannau hunanwasanaeth
Safon 46: Rhaid ichi sicrhau bod unrhyw beiriannau hunanwasanaeth sydd gennych yng Nghymru yn gweithredu’n llawn yn Gymraeg, a rhaid peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg mewn perthynas â’r peiriant hwnnw.
13 Safonau ynghylch arwyddion a arddangosir gan gorff
Safon 47: Pan fyddwch yn creu arwydd i’w osod yng Nghymru (pa un ai’n barhaol neu dros dro), rhaid i unrhyw destun sy’n cael ei arddangos ar yr arwydd gael ei arddangos yn Gymraeg (pa un ai ar yr un arwydd sy’n arddangos y testun cyfatebol yn Saesneg neu ar arwydd ar wahân); ac os yw’r un testun yn cael ei arddangos yn Gymraeg ac yn Saesneg, rhaid ichi beidio â thrin y testun Cymraeg yn llai ffafriol na’r testun Saesneg.
Safon 48: Pan fyddwch yn creu arwydd i’w osod yng Nghymru (pa un ai’n barhaol neu dros dro), a bod yr arwydd hwnnw’n cyfleu yr un wybodaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg, rhaid i’r testun Cymraeg gael ei roi mewn safle fel mai hwnnw sy’n debygol o gael ei ddarllen yn gyntaf.
14 Safonau ynghylch derbyn ymwelwyr i adeiladau’r corff
Safon 49: Rhaid i unrhyw wasanaeth derbynfa yr ydych yn ei roi ar gael yn Saesneg hefyd fod ar gael yn Gymraeg, a rhaid i aelod o’r cyhoedd yng Nghymru sydd am gael gwasanaeth derbynfa Cymraeg yng Nghymru beidio â chael ei drin yn llai ffafriol na pherson sydd am gael gwasanaeth derbynfa Saesneg.
Safon 50: Os nad oes gwasanaeth derbynfa wyneb yn wyneb Cymraeg ar gael gennych a bod aelod o’r cyhoedd yng Nghymru (“P”) yn dymuno cael gwasanaeth derbynfa Cymraeg, rhaid ichi—
(a) gofyn i P a yw’n dymuno ichi drefnu i aelod o staff sy’n siarad Cymraeg fynd i’r dderbynfa, a
(b) os yw P wedi eich hysbysu ei fod yn dymuno i aelod o staff sy’n siarad Cymraeg fynd i’r dderbynfa, rhaid ichi drefnu i aelod o staff sy’n siarad Cymraeg fynd i’r dderbynfa i ddarparu gwasanaeth sy’n cyfateb i wasanaeth derbynfa Cymraeg.
Safon 51: Os nad oes gwasanaeth derbynfa wyneb yn wyneb Cymraeg ar gael yn eich derbynfa, rhaid ichi sicrhau bod gwasanaeth derbynfa Cymraeg ar gael dros ffôn yn eich derbynfa.
Safon 52: Rhaid ichi arddangos arwydd yn eich derbynfa sy’n datgan (yn Gymraeg) fod croeso i aelodau o’r cyhoedd ddefnyddio’r Gymraeg yn y dderbynfa.
15 Safonau ynghylch corff yn gwneud hysbysiadau
Safon 53: Rhaid i unrhyw hysbysiad yr ydych yn ei gyhoeddi neu ei arddangos yng Nghymru gael ei gyhoeddi neu ei arddangos yn Gymraeg, a rhaid ichi beidio â thrin unrhyw fersiwn Gymraeg o’r hysbysiad yn llai ffafriol na fersiwn Saesneg ohono.
Safon 54: Pan fyddwch yn cyhoeddi neu’n arddangos hysbysiad yng Nghymru sy’n cynnwys testun Cymraeg yn ogystal â thestun Saesneg, rhaid i’r testun Cymraeg gael ei roi mewn safle fel mai hwnnw sy’n debygol o gael ei ddarllen yn gyntaf.
16 Safonau ynghylch corff yn dyfarnu grantiau
Safon 55: Rhaid i unrhyw ddogfennau yr ydych yn eu cyhoeddi sy’n ymwneud â cheisiadau am grant y caniateir i aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru wneud cais amdano, gael eu cyhoeddi yn Gymraeg, a rhaid ichi beidio â thrin fersiwn Gymraeg o’r dogfennau hynny yn llai ffafriol na fersiwn Saesneg ohonynt.
Safon 56: Pan fyddwch yn gwahodd ceisiadau am grant y caniateir i aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru wneud cais amdano, rhaid ichi ddatgan yn y gwahoddiad y caniateir i geisiadau gan aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru gael eu cyflwyno yn Gymraeg ac na fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Safon 56A: Rhaid ichi beidio â thrin ceisiadau am grant y caniateir i aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru wneud cais amdano a gyflwynir yn Gymraeg gan aelod o’r cyhoedd yng Nghymru yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg (gan gynnwys, ymysg pethau eraill, mewn perthynas â’r dyddiad cau ar gyfer cael ceisiadau, ac mewn perthynas ag amseriad rhoi gwybod i ymgeiswyr am benderfyniadau).
Safon 57: Os byddwch yn cael cais yn Gymraeg gan aelod o’r cyhoedd yng Nghymru am grant y caniateir i aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru wneud cais amdano, a bod angen cyf-weld â’r ymgeisydd fel rhan o’ch asesiad o’r cais, rhaid ichi gynnig cynnal y cyfweliad yn Gymraeg ac, os yw’r ymgeisydd yn dymuno hynny, rhaid ichi gynnal y cyfweliad yn Gymraeg (heb gymorth gwasanaeth cyfieithu ar y pryd na gwasanaeth cyfieithu olynol).
Safon 58: Os byddwch yn cael cais yn Gymraeg gan aelod o’r cyhoedd yng Nghymru am grant y caniateir i aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru wneud cais amdano, a bod angen cyf-weld ag ymgeisydd fel rhan o’ch asesiad o’r cais, rhaid ichi—
(a) cynnig darparu gwasanaeth cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg er mwyn i’r ymgeisydd allu defnyddio’r Gymraeg yn y cyfweliad, a
(b) os yw’r ymgeisydd yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfweliad, darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd at y diben hwnnw (oni bai eich bod yn cynnal y cyfweliad yn Gymraeg heb wasanaeth cyfieithu).
Safon 59: Pan fyddwch yn rhoi gwybod i ymgeisydd beth yw eich penderfyniad mewn perthynas â chais am grant y caniateir i aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru wneud cais amdano, rhaid ichi wneud hynny yn Gymraeg os cyflwynwyd y cais yn Gymraeg gan aelod o’r cyhoedd yng Nghymru.
17 Safonau ar gyfer codi ymwybyddiaeth ynghylch gwasanaethau Cymraeg a ddarperir gan gorff
Safon 60: Rhaid ichi hybu unrhyw wasanaeth Cymraeg a ddarperir gennych, a hysbysebu’r gwasanaeth hwnnw yn Gymraeg.
Safon 61: Os byddwch yn darparu gwasanaeth yn Gymraeg sy’n cyfateb i wasanaeth yr ydych yn ei ddarparu yn Saesneg, rhaid i unrhyw gyhoeddusrwydd neu unrhyw ddogfen yr ydych yn ei llunio, neu unrhyw wefan yr ydych yn ei chyhoeddi, sy’n cyfeirio at y gwasanaeth Saesneg ddatgan hefyd fod gwasanaeth cyfatebol ar gael yn Gymraeg.
18 Safon ynghylch hunaniaeth gorfforaethol corff
Safon 62: Pan fyddwch yn llunio, yn diwygio neu’n cyflwyno eich hunaniaeth gorfforaethol, rhaid ichi beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
19 Safonau ynghylch cyrsiau a gynigir gan gorff
Safon 63: Os byddwch yn cynnig cwrs addysg yng Nghymru sy’n agored i aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru, rhaid ichi ei gynnig yn Gymraeg.
Safon 64: Os byddwch yn cynnig cwrs addysg yng Nghymru sy’n agored i aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru, ac sydd wedi ei anelu’n benodol at bersonau sy’n 18 oed neu’n iau, rhaid ichi ei gynnig yn Gymraeg.
Safon 65: Os byddwch yn cynnig cwrs addysg yng Nghymru i aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru, rhaid ichi—
(a) cynnal asesiad o’r angen i’r cwrs hwnnw gael ei gynnig yn Gymraeg;
(b) cynnig y cwrs hwnnw yn Gymraeg os dangosodd yr asesiad fod angen i’r cwrs gael ei gynnig yn Gymraeg.
RHAN 2
20 Pan fydd hysbysiad cydymffurfio yn ei gwneud yn ofynnol i gorff gydymffurfio ag un o’r safonau a restrir ar res benodol yng ngholofn 1 o Dabl 1, rhaid i’r hysbysiad cydymffurfio hwnnw hefyd ei gwneud yn ofynnol i’r corff hwnnw gydymffurfio (ym mha fodd bynnag y gwêl Comisiynydd y Gymraeg yn briodol) â’r safon neu’r safonau a restrir ar y rhes honno yng ngholofn 2 (neu ag un neu ragor o’r safonau hynny pan fo hynny’n cael ei ddatgan).

TABL 1
Rhes Colofn 1Prif safon Colofn 2Safon ddibynnol
(1) Ateb gohebiaethSafon 1 Safon 6
(2) Gohebu ag aelodau o’r cyhoeddSafon 3 Safon 5Safon 6
(3) Safonau cyffredinol ynghylch gohebuSafon 4 Safon 5Safon 6
(4) Codi ymwybyddiaeth ynghylch gohebu yn GymraegSafon 6 Safon 1
(5) Cael galwadau ffônSafon 7 Un neu ragor o’r canlynol:Safon 8Safon 9Safon 10Safon 11
(6) Cael galwadau ffônSafon 8, 9, 10 neu 11 Safon 7Safon 13
(7) Codi ymwybyddiaeth ynghylch gwasanaethau ffôn yn GymraegSafon 13 Un neu ragor o’r canlynol:Safon 8Safon 9Safon 10Safon 11a hefydSafon 15, aSafon 16
(8) Cyfarfodydd â mwy nag un personSafon 19 Un neu ragor o’r canlynol:Safon 19ASafon 19BSafon 19C
(9) Cyfarfodydd â mwy nag un personSafon 19A, 19B neu 19C Safon 19
(10) Cyfarfodydd cyhoeddusSafon 20 Safon 22
(11) Cyfarfodydd cyhoeddusSafon 22 Safon 20
(12) DogfennauSafon 29 Safon 30Safon 31
(13) GwefannauSafon 36, 37 neu 38 Safon 39
(14) Cyfleuster sgwrsio bywSafon 43 Safon 43A
(15) Cyfleuster sgwrsio bywSafon 43A Safon 43
(16) DerbynfaSafon 49, 50 neu 51 Safon 52
(17) Codi ymwybyddiaeth ynghylch gwasanaethau Cymraeg mewn derbynfaSafon 52 Un neu ragor o’r canlynol:Safon 49Safon 50Safon 51
(18) GrantiauSafon 56 Safon 56ASafon 59
(19) GrantiauSafon 57 neu 58 Safon 56Safon 56A
RHAN 3
21 Rhaid dehongli’r safonau a bennir yn Rhan 1 o’r Atodlen hon fel a ganlyn.
22 Nid yw’r safonau ond yn gymwys i’r graddau y mae corff—
(a) yn cyflenwi gwasanaethau i berson, neu
(b) yn delio ag unrhyw berson arall mewn cysylltiad â chyflenwi gwasanaethau—
(i) i’r person arall hwnnw, neu
(ii) i drydydd person.
23 Nid yw’r safonau ond yn gymwys i’r graddau y mae’r safonau yn ymwneud â darparu gan gorff wasanaeth a ddarperir i’r cyhoedd wrth arfer swyddogaethau’r corff fel ymgymerwr dŵr neu ymgymerwr carthffosiaeth ar gyfer Cymru gyfan neu unrhyw ran ohoni.
24 Nid yw’n ofynnol i gorff lunio, cyhoeddi, arddangos nac anfon deunydd yn Gymraeg i’r graddau y mae deddfiad arall wedi pennu geiriad dogfen, arwydd neu ffurflen a fyddai’n groes i’r gofyniad hwnnw.
25 At ddibenion y safonau—
(a) nid yw gofyniad i lunio, i anfon, i gyhoeddi, i arddangos, i roi ar gael neu i ddyroddi unrhyw ddeunydd ysgrifenedig yn Gymraeg yn golygu mai dim ond yn Gymraeg y dylid llunio’r deunydd, ei anfon, ei gyhoeddi, ei arddangos, ei roi ar gael neu ei ddyroddi, nac yn golygu y dylid llunio’r deunydd yn Gymraeg yn gyntaf (oni bai bod hynny’n cael ei ddatgan yn benodol yn y safon);
(b) nid yw gofyniad i ddarparu gwasanaeth neu weithgaredd yn Gymraeg yn golygu mai dim ond yn Gymraeg y dylid darparu’r gwasanaeth hwnnw neu’r gweithgaredd hwnnw (oni bai bod hynny’n cael ei ddatgan yn benodol yn y safon).
26 
(1) Nid yw’n ofynnol i gorff gyfieithu i’r Gymraeg unrhyw destun nad yw wedi ei lunio (“testun A”).
(2) Ni fydd corff yn trin y Gymraeg yn llai ffafriol os nad yw’n cyfieithu testun A i’r Gymraeg ond gweler is-baragraff (3).
(3) Rhaid i gorff ddefnyddio’r fersiwn Gymraeg o destun A os yw person arall wedi llunio testun A yn Gymraeg yn unol—
(a) â’i Gynllun Iaith Gymraeg,
(b) â dyletswydd i gydymffurfio â safonau,
(c) â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru,
(ch) ag adran 35(1C) o Ddeddf 2006, neu
(d) â Chynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd.
(4) Yn y paragraff hwn—
(a) ystyr “Cynllun Iaith Gymraeg” yw cynllun iaith Gymraeg a lunnir yn unol â Rhan 2 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993;
(b) ystyr “dyletswydd i gydymffurfio â safonau” yw dyletswydd i gydymffurfio â safon o dan adran 25 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011;
(c) ystyr “Deddf 2006” yw Deddf Llywodraeth Cymru 2006;
(ch) ystyr “Rheolau Sefydlog Senedd Cymru” yw rheolau sefydlog a wnaed o dan adran 31 o Ddeddf 2006;
(d) ystyr “Cynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd” yw’r Cynllun a fabwysiadwyd ac a gyhoeddwyd o dan baragraff 8 o Atodlen 2 i Ddeddf 2006.
27 
(1) Os bodlonir yr amodau ym mharagraffau (a) i (c) neu os bodlonir yr amod yn is-baragraff (2), nid yw’n ofynnol i gorff gydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o’r safonau mewn cysylltiad â gweithgaredd neu wasanaeth y cyfeirir ato ym mharagraff (b)—
(a) yr amod cyntaf yw bod argyfwng wedi digwydd, yn digwydd neu ar fin digwydd;
(b) yr ail amod yw bod y gweithgaredd sy’n cael ei gyflawni neu’r gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu gan y corff yn angenrheidiol at ddiben atal, rheoli neu leddfu agwedd ar argyfwng neu effaith argyfwng;
(c) y trydydd amod yw bod yr angen am y gweithgaredd neu’r gwasanaeth y cyfeirir ato ym mharagraff (b) yn daer.
(2) Yr amod yw bod y corff yn ymgymryd ag ymarfer argyfwng.
(3) Os bodlonir yr amod yn is-baragraff (2), yna mae’r cyfeiriad at “argyfwng” yn is-baragraff (1)(b) i’w ddarllen fel “y ffug sefyllfa argyfwng”.
28 At ddibenion safonau 2 a 32, mae corff yn gohebu ag aelod o’r cyhoedd yng Nghymru neu’n anfon ffurflen at aelod o’r cyhoedd yng Nghymru am y tro cyntaf pan fydd yn gohebu neu’n anfon ffurflen am y tro cyntaf ar ôl y dyddiad y mae hysbysiad cydymffurfio wedi ei gwneud yn ofynnol i’r corff gydymffurfio â’r safon.
29 At ddibenion safonau 2 a 4, ystyr “gohebiaeth sydd wedi ei chynhyrchu gan system” yw biliau, ceisiadau am ddarlleniadau mesuryddion, gohebiaeth ynghylch cyfrifon newydd a gohebiaeth ynghylch cau cyfrifon.
30 At ddibenion safonau 7, 10, 11, 13 ac 16, ystyr “llinell gymorth gwasanaeth” yw llinell gymorth dros y ffôn sy’n delio â gwasanaethau dŵr neu wasanaethau carthffosiaeth ond nid ymholiadau ynghylch cyfrifon.
31 Yn safon 17, ystyr system ffôn “wedi ei hawtomeiddio” yw system sy’n ateb galwadau ffôn ac yn arwain personau drwy drefn benodedig gyda neges wedi ei recordio sy’n gofyn, er enghraifft, i berson bwyso bysellau gwahanol er mwyn dewis opsiynau gwahanol.
32 Nid yw safonau 18 i 19C yn gymwys pan gynhelir y cyfarfod ar fyr rybudd (er enghraifft, pan fydd corff yn gwneud ymholiadau o ddrws i ddrws).
33 Pan fo safon yn cyfeirio at ddeunydd sydd i’w lunio yn Gymraeg (ac eithrio safonau 36 i 42 (gwefannau ac apiau) a 44 a 45 (cyfryngau cymdeithasol)), mae cyfeiriadau at beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg neu at beidio â thrin fersiwn Gymraeg yn llai ffafriol na fersiwn Saesneg yn cynnwys, ymysg materion eraill, (ac yn ychwanegol at faterion penodol y cyfeirir atynt mewn unrhyw safon unigol), peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol o ran—
(a) golwg y deunydd (er enghraifft, mewn perthynas â lliw neu ffont unrhyw destun);
(b) maint y deunydd;
(c) lleoliad ac amlygrwydd y deunydd mewn unrhyw fan cyhoeddus;
(ch) pryd a sut y caiff y deunydd ei gyhoeddi, ei ddarparu neu ei arddangos;
(d) fformat cyhoeddi unrhyw ddeunydd.
34 At ddibenion safonau 29 a 34, nid yw’r cyfeiriadau at ddogfennau neu ddeunyddiau eraill sydd ar gael i aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru yn cynnwys dogfennau neu ddeunyddiau nad ydynt ond ar gael i’r cyhoedd yn rhinwedd Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.
35 Nid yw safon 29 yn gymwys i ddeddfiad a wneir gan gorff neu i ddeddfiad drafft a lunnir gan gorff.
36 Nid yw safonau 29 a 30 yn gymwys i unrhyw ddeunydd hysbysebu a gynhwysir mewn dogfen, llyfryn, taflen, pamffled neu gerdyn.
37 
(1) Nid yw safonau 32 a 34 yn gymwys i’r ffurflenni y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2).
(2) At ddibenion safon 32, nid yw’n ofynnol i gorff anfon fersiwn Gymraeg o’r ffurflenni a ddefnyddir wrth wneud cais am gymorth grant gan gorff (gweler safonau 55 i 59 mewn perthynas â cheisiadau am grantiau).
38 Nid yw safonau 36 i 41 (gwefannau) yn gymwys—
(a) i ddogfennau y darperir dolen iddynt ar wefan, deunydd hysbysebu ar wefan, na chlipiau fideo a sain ar wefan (gweler safonau 29 i 31 am ddarpariaeth benodol mewn perthynas â dogfennau, a safon 26 mewn perthynas â deunydd hysbysebu a lunnir gan gorff);
(b) i wybodaeth a gyflwynir gan bersonau (ac eithrio’r corff) ar dudalen ryngweithiol a gyhoeddir ar wefan corff (er enghraifft, ar adran ar gyfer sylwadau, neu ar fforwm drafod);
(c) i gyfleuster sgwrsio byw (gweler safonau 43 a 43A am ddarpariaeth benodol mewn perthynas â sgwrsio byw).
39 
(1) Nid yw safon 42 yn gymwys i unrhyw ddeunydd hysbysebu ar ap (gweler safon 26 mewn perthynas â deunydd hysbysebu a lunnir gan gorff).
(2) Nid yw safon 42 yn gymwys i gyfleuster sgwrsio byw (gweler safonau 43 a 43A am ddarpariaeth benodol mewn perthynas â sgwrsio byw).
40 At ddibenion safonau 36 i 42 (gwefannau ac apiau) a safonau 44 a 45 (cyfryngau cymdeithasol), mae cyfeiriadau at beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg yn cynnwys, ymysg materion eraill, (ac yn ychwanegol at faterion penodol y cyfeirir atynt mewn unrhyw safon unigol), peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol o ran—
(a) golwg y deunydd (er enghraifft, mewn perthynas â lliw, maint, ffont a fformat unrhyw destun), neu
(b) pryd y cyhoeddir deunydd ar y wefan, yr ap neu’r cyfryngau cymdeithasol;ond nid yw’n golygu bod rhaid i ddeunydd Cymraeg ymddangos ar yr un dudalen â deunydd Saesneg, nac ar dudalen y mae person yn debygol o ddod o hyd iddi cyn y dudalen Saesneg wrth chwilio.

41 
(1) At ddibenion safonau 43 a 43A a pharagraffau 38, 39 a 43, ystyr “cyfleuster sgwrsio byw” yw cymhwysiad negeseua ar-lein o fewn gwefan neu ap, sydd wedi ei gynllunio’n benodol i ddarparu dull cyfathrebu amser real.
(2) Nid yw safon 43 yn gymwys i unrhyw ddeunydd hysbysebu ar gyfleuster sgwrsio byw (gweler safon 26 mewn perthynas â deunydd hysbysebu a lunnir gan gorff).
(3) Nid yw safon 43 (cyfleuster sgwrsio byw) yn gymwys i ddogfennau y darperir dolen iddynt drwy’r cyfleuster sgwrsio byw, nac i glipiau fideo a sain a ddarperir drwy’r cyfleuster sgwrsio byw (gweler safonau 29 i 31 am ddarpariaeth benodol mewn perthynas â dogfennau, a safon 26 mewn perthynas â deunydd hysbysebu a lunnir gan gorff).
42 Nid yw safonau 44 a 45 (cyfryngau cymdeithasol) yn gymwys—
(a) i ddogfennau y darperir dolen iddynt drwy’r cyfryngau cymdeithasol, nac i glipiau fideo a sain a ddarperir drwy’r cyfryngau cymdeithasol (gweler safonau 29 i 31 am ddarpariaeth benodol mewn perthynas â dogfennau, a safon 26 mewn perthynas â deunydd hysbysebu a lunnir gan gorff);
(b) i wybodaeth a gyflwynir gan bersonau (ac eithrio’r corff) ar gyfrif cyfryngau cymdeithasol corff (er enghraifft, ar adran ar gyfer sylwadau).
43 
(1) Nid yw safonau 1 i 6 (gohebu) yn gymwys i ohebiaeth a anfonir drwy’r cyfryngau cymdeithasol na thrwy gyfleuster sgwrsio byw (gweler safonau 44 a 45 mewn perthynas â’r cyfryngau cymdeithasol a safonau 43 a 43A mewn perthynas â chyfleuster sgwrsio byw).
(2) Nid yw safonau 36 i 42 (gwefannau ac apiau) yn gymwys i’r cyfryngau cymdeithasol (gweler safonau 44 a 45 mewn perthynas â’r cyfryngau cymdeithasol).
44 At ddiben safon 46 (peiriannau hunanwasanaeth), mae cyfeiriad at beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg yn cynnwys, ymysg materion eraill, peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol o ran golwg y deunydd (er enghraifft, mewn perthynas â lliw, maint, ffont a fformat unrhyw destun), ond nid yw’n golygu bod rhaid i ddeunydd Cymraeg ymddangos ar sgrin yr un pryd â deunydd Saesneg.
45 At ddibenion safonau 49 i 52 (derbyn ymwelwyr)—
(a) ystyr “derbynfa” yw ardal yn swyddfeydd corff lle y darperir gwasanaeth derbynfa;
(b) ystyr “gwasanaeth derbynfa” yw gwasanaeth croesawu personau i swyddfeydd y corff gan staff sydd ar gael at y diben hwnnw.
46 Nid yw safonau 49 i 52 (derbyn ymwelwyr) yn gymwys pan fydd y dderbynfa y tu allan i Gymru.
47 At ddibenion safonau 6, 53 a 54, ystyr “hysbysiad” yw unrhyw hysbysiad y mae corff yn ei gyhoeddi, ond nid yw’n cynnwys hysbysiadau a ragnodir gan ddeddfiad.
48 
(1) At ddibenion safon 62, mae’r cyfeiriad at gorff yn llunio neu’n cyflwyno ei “hunaniaeth gorfforaethol” yn cynnwys, ymysg pethau eraill, y ffordd y mae corff yn ei gyflwyno ei hun drwy ddatganiadau gweledol, yr enw neu’r enwau a ddefnyddir gan gorff, a’r brandio a’r sloganau a ddefnyddir gan gorff (er enghraifft, brandio a sloganau a argraffir ar ei bapur ysgrifennu).
(2) Nid yw safon 62 yn gymwys i’r graddau y mae deddfiad yn ei gwneud yn ofynnol i gorff ddefnyddio enw cyfreithiol.
49 At ddibenion safonau 63 i 65 (cyrsiau), ystyr “cwrs addysg” yw unrhyw seminar, unrhyw hyfforddiant, unrhyw weithdy neu unrhyw ddarpariaeth debyg sy’n cael ei ddarparu neu ei darparu ar gyfer addysgu neu wella sgiliau aelodau o’r cyhoedd; ond nid yw’n cynnwys—
(a) gweithgareddau na chyrsiau sy’n cael eu darparu fel rhan o’r cwricwlwm yn unol ag unrhyw ddeddfiad, neu
(b) seminarau na chyflwyniadau llafar sy’n ymwneud â pherfformiad neu gynhyrchiad.
50 At ddibenion y safonau, ystyr “deddfiad” yw deddfiad (pa bryd bynnag y cafodd ei ddeddfu neu ei wneud) sydd wedi ei gynnwys mewn unrhyw un o’r canlynol, neu mewn offeryn a wneir o dan un o’r canlynol—
(a) Deddf Seneddol, neu
(b) Mesur neu Ddeddf gan Senedd Cymru.
ATODLEN 2
Rheoliad 2(2)
RHAN 1
1 Safonau ynghylch cadw cofnodion gan gorff
Safon 66: Rhaid ichi gadw—
(a) cofnod, mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol, o nifer y cwynion yr ydych yn eu cael sy’n ymwneud â’ch cydymffurfedd â’r safonau;
(b) copi o unrhyw gŵyn ysgrifenedig yr ydych yn ei chael sy’n ymwneud â’ch cydymffurfedd â’r safonau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy.
Safon 67: Rhaid ichi gadw copi o unrhyw gŵyn ysgrifenedig yr ydych yn ei chael ynghylch y Gymraeg sy’n ymwneud â’ch darpariaeth o wasanaethau penodedig (pa un a yw’r gŵyn yn ymwneud â’r safonau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy ai peidio).
RHAN 2
2 Rhaid dehongli’r safonau a bennir yn Rhan 1 o’r Atodlen hon fel a ganlyn.
3 At ddibenion safon 66, ystyr “blwyddyn ariannol” yw blwyddyn ariannol y corff ei hun.
4 At ddibenion safon 67, ystyr “gwasanaeth penodedig” yw gwasanaethau a ddarperir i’r cyhoedd wrth arfer swyddogaethau ymgymerwr dŵr neu ymgymerwr carthffosiaeth ar gyfer Cymru gyfan neu unrhyw ran ohoni.
ATODLEN 3
Rheoliad 2(3)
RHAN 1
1 Corff yn rhoi cyhoeddusrwydd i safonau cyflenwi gwasanaethau
Safon 68: Rhaid ichi sicrhau bod dogfen sy’n cofnodi’r safonau cyflenwi gwasanaethau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy, a’r graddau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â’r safonau hynny, ar gael ar eich gwefan.
2 Corff yn cyhoeddi gweithdrefn gwyno
Safon 69: Rhaid ichi—
(a) sicrhau bod gennych weithdrefn gwyno sy’n delio â sut yr ydych yn bwriadu delio â chwynion ynglŷn â’ch cydymffurfedd â’r safonau cyflenwi gwasanaethau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy, a
(b) cyhoeddi dogfen sy’n cofnodi’r weithdrefn honno ar eich gwefan.
3 Corff yn llunio adroddiad blynyddol ynglŷn â safonau cyflenwi gwasanaethau
Safon 70: 
(1) Rhaid ichi lunio adroddiad (“adroddiad blynyddol”), yn Gymraeg, mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol, sy’n delio â’r modd y bu ichi gydymffurfio â’r safonau cyflenwi gwasanaethau yr oeddech o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy yn ystod y flwyddyn honno.
(2) Rhaid i’r adroddiad blynyddol gynnwys nifer y cwynion a gawsoch yn ystod y flwyddyn honno a oedd yn ymwneud â’ch cydymffurfedd â’r safonau cyflenwi gwasanaethau yr oeddech o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy.
(3) Rhaid ichi gyhoeddi’r adroddiad blynyddol heb fod yn hwyrach na 6 mis yn dilyn diwedd y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi.
(4) Rhaid ichi sicrhau bod copi cyfredol o’ch adroddiad blynyddol ar gael ar eich gwefan.
4 Corff yn rhoi cyhoeddusrwydd i’r modd y mae’n bwriadu cydymffurfio â safonau cyflenwi gwasanaethau
Safon 71: Rhaid ichi gyhoeddi dogfen ar eich gwefan sy’n esbonio sut yr ydych yn bwriadu cydymffurfio â’r safonau cyflenwi gwasanaethau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy.
5 Corff yn darparu gwybodaeth i Gomisiynydd y Gymraeg
Safon 72: Rhaid ichi ddarparu unrhyw wybodaeth y bydd Comisiynydd y Gymraeg yn gofyn amdani sy’n ymwneud â’ch cydymffurfedd â’r safonau cyflenwi gwasanaethau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy.
RHAN 2
6 Corff yn rhoi cyhoeddusrwydd i safonau cadw cofnodion
Safon 73: Rhaid ichi sicrhau bod dogfen sy’n cofnodi’r safonau cadw cofnodion yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy, a’r graddau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â’r safonau hynny, ar gael ar eich gwefan.
7 Corff yn cyhoeddi gweithdrefn gwyno
Safon 74: Rhaid ichi—
(a) sicrhau bod gennych weithdrefn gwyno sy’n delio â sut yr ydych yn bwriadu delio â chwynion ynglŷn â’ch cydymffurfedd â’r safonau cadw cofnodion yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy, a
(b) cyhoeddi dogfen sy’n cofnodi’r weithdrefn honno ar eich gwefan.
8 Corff yn darparu gwybodaeth i Gomisiynydd y Gymraeg
Safon 75: Rhaid ichi ddarparu unrhyw gofnodion yr ydych wedi eu cadw yn unol â’r safonau cadw cofnodion yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy i Gomisiynydd y Gymraeg, os bydd y Comisiynydd yn gofyn am y cofnodion hynny.
RHAN 3
9 Rhaid dehongli’r safonau a bennir yn Rhannau 1 a 2 fel a ganlyn.
10 At ddibenion safon 70, ystyr “blwyddyn ariannol” yw blwyddyn ariannol y corff ei hun.
11 At ddibenion y safonau, nid yw gofyniad i lunio neu gyhoeddi unrhyw ddeunydd ysgrifenedig yn Gymraeg yn golygu y dylid llunio neu gyhoeddi’r deunydd hwnnw yn Gymraeg yn unig, ac nid yw’n golygu ychwaith y dylid llunio’r deunydd yn Gymraeg yn gyntaf (oni bai bod hynny’n cael ei ddatgan yn benodol yn y safon).
ATODLEN 4
Rheoliad 1(4)

Personau neilltuedig—
(a) sy’n darparu i’r cyhoedd wasanaethau dŵr (gan gynnwys cyflenwi neu ddosbarthu), a
(b) sydd, yn rhinwedd penodiad o dan adran 6 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991, neu yn rhinwedd amrywio’r penodiad hwnnw o dan adran 7 o’r Ddeddf honno, yn ymgymerwyr dŵr ar gyfer Cymru gyfan neu unrhyw ran ohoni.
Personau neilltuedig—
(a) sy’n darparu i’r cyhoedd wasanaethau carthffosiaeth (gan gynnwys gwaredu carthion), a
(b) sydd, yn rhinwedd penodiad o dan adran 6 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991, neu yn rhinwedd amrywio’r penodiad hwnnw o dan adran 7 o’r Ddeddf honno, yn ymgymerwyr carthffosiaeth ar gyfer Cymru gyfan neu unrhyw ran ohoni.
