
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Rhestrau Ardrethu (Dyddiad Prisio) (Cymru) 2023 a daw i rym ar 11 Hydref 2023.
2 
1 Ebrill 2024 yw’r diwrnod a bennir fel y diwrnod y cyfeirir ato i benderfynu gwerthoedd ardrethol hereditamentau annomestig at ddibenion y rhestrau ardrethu annomestig lleol a chanolog pan fyddant yn cael eu llunio nesaf ar gyfer Cymru ar ôl i’r Gorchymyn hwn ddod i rym.
3 
Mae Gorchymyn y Rhestrau Ardrethu (Dyddiad Prisio) (Cymru) 2020 wedi ei ddirymu.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
15 Medi 2023