
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) ac (Asesiad Ariannol) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2022.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 11 Ebrill 2022.
2 
Mae Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) 2015 wedi eu diwygio fel a ganlyn—
(a) yn rheoliad 13 (isafswm incwm ar gyfer person y darperir llety iddo mewn cartref gofal), yn lle “£33” rhodder “£35”;
(b) yn rheoliad 28 (isafswm incwm ar gyfer person y darperir llety iddo mewn cartref gofal), yn lle “£33” rhodder “£35”.
3 
Mae Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiad Ariannol) (Cymru) 2015 wedi eu diwygio fel a ganlyn—
(a) yn Rhan 1 (symiau sydd i’w diystyru) o Atodlen 1 (symiau sydd i’w diystyru wrth gyfrifo incwm)—
(i) yn lle paragraff 30 rhodder—“
30. 

(1) Unrhyw daliad a ddiystyrid o dan baragraff 39 o Atodlen 9 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (y Gronfa, yr Ymddiriedolaethau Macfarlane ac ymddiriedolaethau a Chronfeydd eraill a’r Gronfa Byw’n Annibynnol).
(2) Unrhyw daliad a wneir o dan—
(a) Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Cymru a sefydlwyd o dan adrannau 1 i 3 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 ac a weinyddir gan Ymddiriedolaeth GIG Felindre; neu
(b) Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Gogledd Iwerddon a weinyddir gan y Sefydliad Gwasanaethau Busnes Rhanbarthol a sefydlwyd o dan adran 14 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Diwygio) (Gogledd Iwerddon) 2009.”;
(ii) ar ôl paragraff 44 mewnosoder—“
44A. 
Unrhyw daliad a wneir i A o dan Ddeddf Darparu Iawn i Oroeswyr (Camdriniaeth Hanesyddol Plant mewn Gofal) (Yr Alban) 2021.
44B. 
Unrhyw daliad a wneir i A o dan Reoliadau Taliadau Dioddefwyr 2020.”;
(b) yn Atodlen 2 (cyfalaf sydd i’w ddiystyru)—
(i) yn lle paragraff 20 rhodder—“
20. 

(1) Unrhyw swm a ddiystyrid o dan baragraffau 21 i 24 o Atodlen 10 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (ffi neu gomisiwn am drosi cyfalaf i sterling, yr Ymddiriedolaethau Macfarlane, y Gronfa a’r Gronfa Byw’n Annibynnol, gwerth yr hawl i gael pensiwn personol neu alwedigaethol, gwerth cronfeydd o dan gynllun pensiwn personol a rhent).
(2) Unrhyw daliad a wneir o dan—
(a) Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Cymru a sefydlwyd o dan adrannau 1 i 3 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 ac a weinyddir gan Ymddiriedolaeth GIG Felindre; neu
(b) Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Gogledd Iwerddon a weinyddir gan y Sefydliad Gwasanaethau Busnes Rhanbarthol a sefydlwyd o dan adran 14 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Diwygio) (Gogledd Iwerddon) 2009.”;
(ii) ar ôl paragraff 35 mewnosoder—“
36. 
Unrhyw daliad a wneir i A o dan Ddeddf Camdriniaeth Sefydliadol Hanesyddol (Gogledd Iwerddon) 2019.
37. 
Unrhyw daliad a wneir i A o dan Ddeddf Darparu Iawn i Oroeswyr (Camdriniaeth Hanesyddol Plant mewn Gofal) (Yr Alban) 2021.
38. 
Unrhyw daliad a wneir i A o dan Reoliadau Taliadau Dioddefwyr 2020.
39. 
Unrhyw daliad a wneir i A o dan y cynllun taliadau ar gyfer cyn-blant mudol Prydeinig a sefydlwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol.”
Julie Morgan
Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
2 Chwefror 2022