
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Cychwyn Rhif 5 a Darpariaeth Drosiannol) 2022.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000;
 ystyr “Deddf 2021” (“the 2021 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.
2 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2021 i rym ar 5 Mai 2022—
(a) adran 64;
(b) Atodlen 8.
3 
Er bod y darpariaethau y cyfeirir atynt yn erthygl 2 yn dod i rym, rhaid ymchwilio i’r canlynol yn unol â Phennod 3 o Ran 3 o Ddeddf 2000 fel yr oedd yn gymwys yn union cyn 5 Mai 2022—
(a) unrhyw honiad ysgrifenedig a wnaed i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru cyn 5 Mai 2022 o dan adran 69(1)(a) o Ddeddf 2000;
(b) unrhyw achos arall sydd wedi dod i sylw’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru o dan adran 69(1)(b) o’r Ddeddf honno o ganlyniad i unrhyw honiad a wnaed o dan adran 69(1)(a) cyn 5 Mai 2022.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
2 Chwefror 2022