
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol ac Amrywiol) 2022 a deuant i rym ar 14 Medi 2022.
2 

(1) Mae rheoliad 17 o Reoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymru) 2002 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (4)—
(a) ar ôl is-baragraff (c) mewnosoder “neu”;
(b) hepgorer is-baragraff (d) a’r “neu” o’i flaen.
(3) Ym mharagraff (7)(b) yn lle “(d)” rhodder “(ch)”.
3 

(1) Mae Rheoliadau Grantiau Safonau Addysg (Cymru) 2002 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1)—
(a) yn y lleoedd priodol mewnosoder—“
 ystyr “adolygiad CDU” (“IDP review”) yw’r adolygiad o gynllun datblygu unigol sy’n ofynnol gan adran 23 o Ddeddf 2018;”;“
 mae i “anghenion dysgu ychwanegol” (“additional learning needs”) yr un ystyr ag yn Neddf 2018;”;“
 ystyr “cynllun datblygu unigol” (“individual development plan”) yw cynllun datblygu unigol a gynhelir o dan Ran 2 o Ddeddf 2018;”;“
 ystyr “Deddf 2018” (“the 2018 Act”) yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018;”.
(b) yn y diffiniad o “cynorthwy-ydd cynnal dysgu” yn lle “anghenion addygsol arbennig” rhodder “anghenion dysgu ychwanegol neu anghenion addysgol arbennig”;
(c) yn y diffiniad o “gwasanaethau partneriaeth rhieni”—
(i) ar ôl “o dan” mewnosoder “Ran 2 o Ddeddf 2018 neu”, a
(ii) ar ôl “anghenion addysgol arbennig”, yn y ddau le y mae’n digwydd, mewnosoder “neu anghenion dysgu ychwanegol”.
(3) Ym mharagraff 6 o’r Atodlen—
(a) yn is-baragraffau (a), (c), (ch) ac (e) ar ôl “anghenion addysgol arbennig”, ym mhob lle y mae’n digwydd, mewnosoder “neu anghenion dysgu ychwanegol”;
(b) yn is-baragraff (b) ar ôl “arbennig” mewnosoder “ac anghenion dysgu ychwanegol”;
(c) yn is-baragraff (c) ar ôl “cyfarfodydd adolygu blynyddol” mewnosoder “a’r adolygiadau CDU,”;
(d) yn is-baragraff (f) ar ôl “arbennig” mewnosoder “ac anghenion dysgu ychwanegol”;
(e) yn is-baragraff (ff) ar ôl “arbennig” mewnosoder “a’r ddarpariaeth anghenion dysgu ychwanegol”.
4 

(1) Mae Rheoliadau Addysg (Fforymau Derbyn) (Cymru) 2003 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3(1)(e), ar ôl “arbennig,” mewnosoder “plant ag anghenion dysgu ychwanegol (o fewn yr ystyr a roddir gan adran 2 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018),”.
5 

(1) Mae Rheoliadau Cynghorau Ysgol (Cymru) 2005 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2—
(a) yn y lleoedd priodol, mewnosoder—“
 mae i “anghenion dysgu ychwanegol” (“additional learning needs”) yr un ystyr ag yn Neddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018;”;“
 ystyr “canolfan adnoddau anghenion dysgu ychwanegol” (“additional learning needs resource base”) yw dosbarth neu adran mewn ysgol ar gyfer disgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol;”;
(b) yn y testun Saesneg, ar ddiwedd y diffiniad o “infant school” hepgorer “and”, ac
(c) hepgorer y diffiniad o “canolfan adnoddau anghenion addysgol arbennig” ac yn y testun Cymraeg, hepgorer yr “ac” sy’n ei ddilyn.
(3) Yn rheoliad 4(4) yn lle “addysgol arbennig”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “dysgu ychwanegol”.
6 

(1) Mae Rheoliadau Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru 2012 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 61(5)—
(a) ar ôl is-baragraff (c) mewnosoder “neu”;
(b) hepgorer is-baragraff (d) a’r “neu” o’i flaen.
(3) Yn rheoliad 62(3)—
(a) ar ôl is-baragraff (c) mewnosoder “neu”;
(b) hepgorer is-baragraff (d) a’r “neu” o’i flaen.
7 

(1) Mae Rheoliadau Dethol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru 2017 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 1(2)(b), yn y tabl, ar ddiwedd y ddarpariaeth yn y golofn chwith “Section 333(2)(a) of the Education Act 1996” mewnosoder “or Section 91(3) of the Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Act 2018”.
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
22 Awst 2022