
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 15) 2022.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
 mae i “asesiad o anghenion AIG” yr un ystyr ag “EHC needs assessment” yn adran 36(2) o Ddeddf 2014;mae i “cynllun AIG” yr un ystyr ag “EHC plan” yn adran 37(2) o Ddeddf 2014;ystyr “Deddf 1996” (“
the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996;ystyr “Deddf 2014” (“
the 2014 Act”) yw Deddf Plant a Theuluoedd 2014;ystyr “y Ddeddf” (“
the Act”) yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018;mae i “oedran ysgol gorfodol” yr un ystyr â “compulsory school age” yn adran 8 o Ddeddf 1996.
(3) At ddibenion y Gorchymyn hwn dyfernir yn derfynol ar apêl—
(a) os caiff penderfyniad ei wneud gan dribiwnlys neu lys ar yr apêl, a
(b) os caniateir gwneud cais i adolygu’r penderfyniad neu os caniateir ei apelio ymhellach, a daw’r cyfnod (neu bob un o’r cyfnodau) ar gyfer gwneud hynny i ben heb fod cais am adolygiad wedi ei wneud neu apêl bellach wedi ei dwyn.
2 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Medi 2022 mewn perthynas â pherson sy’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o’r paragraffau yn erthygl 3 ar 1 Medi 2022—
(a) adrannau 2 i 4;
(b) adrannau 6 i 14;
(c) adrannau 17 i 36;
(d) adran 38;
(e) adrannau 40 i 44;
(f) adrannau 47 i 49;
(g) adran 50(1) at ddibenion y darpariaethau ym mharagraff (h);
(h) adran 50(4) i (5);
(i) adrannau 51 i 53;
(j) adran 55;
(k) adran 59;
(l) adrannau 63 i 66;
(m) adrannau 68 i 69;
(n) adran 96 at ddibenion y darpariaethau ym mharagraff (o);
(o) yn yr Atodlen—
(i) paragraff 1;
(ii) paragraff 4(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraffau (iii) i (xi);
(iii) paragraff 4(2) i 4(6);
(iv) paragraff 4(7) i’r graddau nad yw’r paragraff wedi ei ddiddymu mewn perthynas â’r plentyn;
(v) paragraff 4(8) i 4(9);
(vi) paragraff 4(10);
(vii) paragraff 4(13) i 4(18);
(viii) paragraff 4(19)(b);
(ix) paragraff 4(20) a 4(21);
(x) paragraff 4(23) i 4(29);
(xi) paragraff 4(32)(a)(i) a (ii) a pharagraff 4(32)(b);
(xii) paragraff 7;
(xiii) paragraff 8;
(xiv) paragraff 11(a);
(xv) paragraff 12(a);
(xvi) paragraff 14(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xvii);
(xvii) paragraff 14(2) a (3);
(xviii) paragraff 19(1) at ddiben y ddarpariaeth yn is-baragraff (xix);
(xix) paragraff 19(5)(e)(ii);
(xx) paragraff 21(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xxi);
(xxi) paragraff 21(2)(a)(i) a (2)(b)(ii);
(xxii) paragraff 22;
(xxiii) paragraff 23(1) at ddiben y ddarpariaeth yn is-baragraff (xxiv);
(xxiv) paragraff 23(4);
(xxv) paragraff 24(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xxvi);
(xxvi) paragraff 24(3) a (6)(a).
3 
Person nad yw’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol—
(a) y mae cynllun AIG yn cael ei lunio mewn perthynas ag ef;
(b) y mae cynllun AIG yn cael ei gynnal mewn perthynas ag ef;
(c) y mae cais wedi ei wneud mewn perthynas ag ef i awdurdod lleol i sicrhau asesiad o anghenion AIG o dan adran 36(1) o Ddeddf 2014 ac nad yw’r awdurdod lleol wedi penderfynu ar y cais hwnnw o dan adran 36(3);
(d) y mae awdurdod lleol wedi penderfynu, o dan adran 36 o Ddeddf 2014, beidio â sicrhau asesiad AIG mewn perthynas ag ef ac—
(i) nad yw’r cyfnod ar gyfer dilyn cyfryngu mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw o dan adran 52 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
(ii) bod cyfryngu o dan adran 55 o Ddeddf 2014 yn mynd rhagddo mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw;
(iii) bod tystysgrif gyfryngu wedi ei dyroddi o dan adran 55(4) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ac nad yw’r cyfnod ar gyfer cyflwyno apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
(iv) bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(a) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;
(v) bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(a) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a dyfarnwyd yn derfynol arni a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol drefnu asesiad neu ailasesiad, ac nad yw’r asesiad hwnnw neu’r ailasesiad hwnnw wedi cychwyn;
(e) y mae awdurdod lleol wedi cyflwyno hysbysiad mewn perthynas ag ef o dan adran 36(7) o Ddeddf 2014 ei fod yn ystyried sicrhau asesiad o anghenion AIG ac—
(i) nad yw’r asesiad wedi cychwyn,
(ii) bod yr asesiad yn mynd rhagddo, neu
(iii) nad oes hysbysiad wedi ei gyflwyno o dan adran 36(9) o Ddeddf 2014;
(f) y mae awdurdod lleol wedi penderfynu o dan adran 36(9) o Ddeddf 2014 nad yw’n angenrheidiol gwneud darpariaeth addysgol arbennig yn unol â chynllun AIG mewn perthynas ag ef ac—
(i) nad yw’r cyfnod ar gyfer dilyn cyfryngu mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw o dan adran 52 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
(ii) bod cyfryngu o dan adran 55 o Ddeddf 2014 yn mynd rhagddo mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw;
(iii) bod tystysgrif gyfryngu wedi ei dyroddi o dan adran 55(4) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ac nad yw’r cyfnod ar gyfer cyflwyno apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
(iv) bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(b) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;
(v) bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(b) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a dyfarnwyd yn derfynol arni a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol—(aa) gwneud a chynnal cynllun AIG ac nad yw’r broses o wneud y cynllun AIG wedi cychwyn, neu(bb) ailystyried ei benderfyniad ac nad yw’r ailystyried hwnnw wedi cychwyn;
(g) y mae awdurdod lleol wedi penderfynu o dan adran 45 o Ddeddf 2014 nad yw’n angenrheidiol mwyach gynnal cynllun AIG mewn perthynas ag ef ac—
(i) nad yw’r cyfnod ar gyfer dilyn cyfryngu mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw o dan adran 52 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
(ii) bod cyfryngu o dan adran 55 o Ddeddf 2014 yn mynd rhagddo mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw;
(iii) bod tystysgrif gyfryngu wedi ei dyroddi o dan adran 55(4) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ac nad yw’r cyfnod ar gyfer cyflwyno apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
(iv) bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(f) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni.
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
16 Awst 2022