
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 12) 2022.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
 mae i “anhawster dysgu” yr un ystyr â “learning difficulty” yn—
(i) adran 312(2) o Ddeddf 1996—
(aa) mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru ond nid plentyn sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr,
(bb) mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru, fel pe bai “in the area of a local authority in Wales” wedi ei hepgor,
(ii) adran 20 o Ddeddf 2014 mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr;mae i “asesiad o anghenion AIG” yr un ystyr ag “EHC needs assessment” yn adran 36(2) o Ddeddf 2014;mae i “awdurdod lleol” yr un ystyr â “local authority” yn adran 579 o Ddeddf 1996;mae i “cynllun AIG” yr un ystyr ag “EHC plan” yn adran 37(2) o Ddeddf 2014;mae i “darpariaeth addysgol arbennig” yr un ystyr â “special educational provision” yn—
(iii) adran 312(4) o Ddeddf 1996—
(aa) mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru ond nid plentyn sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr,
(bb) mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru fel pe bai “in relation to a child in the area of a local authority in Wales” wedi ei hepgor,
(iv) adran 21 o Ddeddf 2014 mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr;ystyr “Deddf 1996” (“
the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996;ystyr “Deddf 2014” (“
the 2014 Act”) yw Deddf Plant a Theuluoedd 2014;mae i “disgybl cofrestredig” yr un ystyr â “registered pupil” yn adran 434 o Ddeddf 1996;ystyr “y Ddeddf” (“
the Act”) yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018;mae i “oedran ysgol gorfodol” yr un ystyr â “compulsory school age” yn adran 8 o Ddeddf 1996;mae i “perchennog” yr un ystyr â “proprietor” yn adran 579 o Ddeddf 1996;ystyr “Rheolau’r Tribiwnlys” (“
Tribunal Rules”) yw Rheoliadau Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru 2012;ystyr “Tribiwnlys” (“Tribunal”) yw Tribiwnlys Addysg Cymru;mae i “yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru” yr un ystyr ag ““in the area” of a local authority in Wales” yn adran 579(3B) o Ddeddf 1996;mae i “yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr” yr un ystyr ag ““in the area” of a local authority in England” yn adran 579(3A) o Ddeddf 1996;ystyr “ysgol a gynhelir” (“
maintained school”) yw unrhyw ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol neu unrhyw ysgol arbennig gymunedol nad yw wedi ei sefydlu mewn ysbyty o fewn ystyr Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;mae i “ysgol brif ffrwd” yr un ystyr â “mainstream school” yn adran 83(2) o Ddeddf 2014.
(3) At ddibenion y Gorchymyn hwn dyfernir yn derfynol ar apêl—
(a) os caiff penderfyniad ei wneud gan dribiwnlys neu lys ar yr apêl, a
(b) os caniateir gwneud cais i adolygu’r penderfyniad neu os caniateir ei apelio ymhellach, a daw’r cyfnod (neu bob un o’r cyfnodau) ar gyfer gwneud hynny i ben heb fod cais am adolygiad wedi ei wneud neu apêl bellach wedi ei dwyn.
(4) Nid yw’r Gorchymyn hwn yn gymwys i berson y cychwynnwyd darpariaethau’r Ddeddf mewn perthynas ag ef gan Orchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 2) 2021 neu Orchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 7) 2021.
2 
Mae gan blentyn “P” “anghenion addysgol arbennig a nodwyd” at ddibenion y Gorchymyn hwn os oes gan P anhawster dysgu a nodwyd gan berchennog neu awdurdod lleol sy’n galw am wneud darpariaeth addysgol arbennig ar gyfer P.
3 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Medi 2022 ac eithrio mewn perthynas â pherson sy’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o’r paragraffau yn erthygl 4 ar 1 Medi 2022—
(a) adrannau 2 i 4;
(b) adrannau 6 i 14;
(c) adrannau 17 i 36;
(d) adran 38;
(e) adrannau 40 i 44;
(f) adrannau 47 i 49;
(g) adran 50(1) at ddibenion y darpariaethau ym mharagraff (h);
(h) adran 50(4) i (5);
(i) adrannau 51 i 53;
(j) adran 55;
(k) adran 59;
(l) adrannau 63 i 66;
(m) adrannau 68 i 69;
(n) adran 96 at ddibenion y darpariaethau ym mharagraff (o);
(o) yn yr Atodlen—
(i) paragraff 1;
(ii) paragraff 4(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraffau (iii) i (xi);
(iii) paragraff 4(2) i 4(6);
(iv) paragraff 4(7) i’r graddau nad yw’r paragraff wedi cael ei ddiddymu mewn perthynas â’r plentyn
(v) paragraff 4(8) i 4(9);
(vi) paragraff 4(10);
(vii) paragraff 4(13) i 4(18);
(viii) paragraff 4(19)(b);
(ix) paragraff 4(20) a 4(21);
(x) paragraff 4(23) i 4(29);
(xi) paragraff 4(32)(a)(i) a (ii) a pharagraff 4(32)(b);
(xii) paragraff 7;
(xiii) paragraff 8;
(xiv) paragraff 11(a);
(xv) paragraff 12(a);
(xvi) paragraff 14(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xvii);
(xvii) paragraff 14(2) a (3);
(xviii) paragraff 19(1) at ddiben y ddarpariaeth yn is-baragraff (xix);
(xix) paragraff 19(5)(e)(ii);
(xx) paragraff 21(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xxi);
(xxi) paragraff 21(2)(a)(i) a (2)(b)(ii);
(xxii) paragraff 22;
(xxiii) paragraff 23(1) at ddiben y ddarpariaeth yn is-baragraff (xxiv);
(xxiv) paragraff 23(4);
(xxv) paragraff 24(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xxvi);
(xxvi) paragraff 24(3) a (6)(a).
4 
Person—
(a) sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol;
(b) sydd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd;
(c) y mae awdurdod lleol wedi cyflwyno hysbysiad mewn perthynas ag ef o dan adran 323 o Ddeddf 1996 ac nad yw’r asesiad wedi cychwyn ac nad oes hysbysiad wedi ei roi o dan adran 323(6) o Ddeddf 1996;
(d) y mae cais wedi ei wneud mewn perthynas ag ef o dan adran 329 neu 329A o Ddeddf 1996 am asesiad o dan adran 323 o Ddeddf 1996 ac nad yw’r awdurdod lleol wedi penderfynu pa un ai i asesu ai peidio;
(e) y mae cais wedi ei wneud mewn perthynas ag ef o dan adran 329 neu 329A o Ddeddf 1996 am asesiad o dan adran 323 o Ddeddf 1996 a bod yr awdurdod lleol yn penderfynu peidio â chydymffurfio â’r cais ac—
(i) nad yw’r amser y mae rhaid i apêl o dan adran 329(2) neu 329A(8) o Ddeddf 1996 gael ei dwyn ynddo o dan Ran B o Reolau’r Tribiwnlys wedi dod i ben;
(ii) bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys o dan adran 329(2) neu 329A(8) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni; neu
(iii) dyfarnwyd yn derfynol ar apêl i’r Tribiwnlys o dan adran 329(2) neu 329A(8) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol drefnu asesiad, ac nad yw’r asesiad hwnnw wedi cychwyn;
(f) y mae awdurdod lleol yn ymgymryd ag asesiad o anghenion addysgol mewn perthynas ag ef o dan adran 323 o Ddeddf 1996;
(g) y mae awdurdod lleol yn bwriadu peidio â gwneud datganiad mewn perthynas ag ef yn dilyn asesiad ac—
(i) nad yw’r amser y mae rhaid i apêl o dan adran 325(2) o Ddeddf 1996 gael ei dwyn ynddo o dan Ran B o Reolau’r Tribiwnlys wedi dod i ben;
(ii) bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys o dan adran 325(2) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;
(iii) dygwyd apêl i’r Tribiwnlys o dan adran 325(2) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a dyfarnwyd yn derfynol arni a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol—(aa) gwneud a chynnal datganiad ac nad yw’r broses o wneud y datganiad wedi cychwyn, neu(bb) ailystyried ei benderfyniad ac nad yw’r ailystyried hwnnw wedi cychwyn;
(h) y mae asesiad mewn perthynas ag ef o dan adran 331 o Ddeddf 1996 yn mynd rhagddo;
(i) y mae cais wedi ei wneud mewn perthynas ag ef i awdurdod lleol i sicrhau asesiad o anghenion AIG o dan adran 36(1) o Ddeddf 2014 ac nad yw’r awdurdod lleol wedi penderfynu ar y cais hwnnw o dan adran 36(3);
(j) y mae awdurdod lleol wedi penderfynu, o dan adran 36 o Ddeddf 2014, beidio â sicrhau asesiad AIG mewn perthynas ag ef ac—
(i) nad yw’r cyfnod ar gyfer dilyn cyfryngu mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw o dan adran 52 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
(ii) bod cyfryngu o dan adran 55 o Ddeddf 2014 yn mynd rhagddo mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw;
(iii) bod tystysgrif gyfryngu wedi ei dyroddi o dan adran 55(4) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ac nad yw’r cyfnod ar gyfer cyflwyno apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
(iv) bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(a) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;
(v) bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(a) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a dyfarnwyd yn derfynol arni a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol drefnu asesiad neu ailasesiad, ac nad yw’r asesiad hwnnw neu’r ailasesiad hwnnw wedi cychwyn;
(k) y mae awdurdod lleol wedi cyflwyno hysbysiad mewn perthynas ag ef o dan adran 36(7) o Ddeddf 2014 ei fod yn ystyried sicrhau asesiad o anghenion AIG ac—
(i) nad yw’r asesiad wedi cychwyn,
(ii) bod yr asesiad yn mynd rhagddo, neu
(iii) nad oes hysbysiad wedi ei gyflwyno o dan adran 36(9) o Ddeddf 2014;
(l) y mae awdurdod lleol wedi penderfynu o dan adran 36(9) o Ddeddf 2014 nad yw’n angenrheidiol gwneud darpariaeth addysgol arbennig yn unol â chynllun AIG mewn perthynas ag ef ac—
(i) nad yw’r cyfnod ar gyfer dilyn cyfryngu mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw o dan adran 52 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
(ii) bod cyfryngu o dan adran 55 o Ddeddf 2014 yn mynd rhagddo mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw;
(iii) bod tystysgrif gyfryngu wedi ei dyroddi o dan adran 55(4) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ac nad yw’r cyfnod ar gyfer cyflwyno apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
(iv) bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(b) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;
(v) bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(b) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a dyfarnwyd yn derfynol arni a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol—(aa) gwneud a chynnal cynllun AIG ac nad yw’r broses o wneud y cynllun AIG wedi cychwyn, neu(bb) ailystyried ei benderfyniad ac nad yw’r ailystyried hwnnw wedi cychwyn;
(m) y mae awdurdod lleol wedi penderfynu o dan adran 45 o Ddeddf 2014 nad yw’n angenrheidiol mwyach gynnal cynllun AIG mewn perthynas ag ef ac—
(i) nad yw’r cyfnod ar gyfer dilyn cyfryngu mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw o dan adran 52 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
(ii) bod cyfryngu o dan adran 55 o Ddeddf 2014 yn mynd rhagddo mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw;
(iii) bod tystysgrif gyfryngu wedi ei dyroddi o dan adran 55(4) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ac nad yw’r cyfnod ar gyfer cyflwyno apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
(iv) bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(f) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni.
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
16th August 2022