
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 10) 2022.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018;
 mae i “oedran ysgol gorfodol” yr un ystyr â “compulsory school age” yn adran 8 o Ddeddf Addysg 1996;
 ystyr “person ifanc” (“young person”) yw person sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol ar 1 Medi 2022.
2 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Medi 2025 mewn perthynas â pherson ifanc—
(a) adrannau 2 i 4;
(b) adrannau 6 i 14;
(c) adrannau 17 i 36;
(d) adran 38;
(e) adrannau 40 i 44;
(f) adrannau 47 i 49;
(g) adran 50(1) at ddibenion y darpariaethau ym mharagraff (h);
(h) adran 50(4) a (5);
(i) adrannau 51 i 53;
(j) adran 55;
(k) adran 59;
(l) adrannau 63 i 66;
(m) adrannau 68 a 69;
(n) adran 96 at ddibenion y darpariaethau ym mharagraff (o);
(o) yn yr Atodlen—
(i) paragraff 1;
(ii) paragraff 4(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraffau (iii) i (xi);
(iii) paragraff 4(2) i 4(6);
(iv) paragraff 4(7) i’r graddau nad yw’r paragraff wedi ei ddiddymu mewn perthynas â’r person ifanc;
(v) paragraff 4(8) a (9);
(vi) paragraff 4(10);
(vii) paragraff 4(13) i 4(18);
(viii) paragraff 4(19)(b);
(ix) paragraff 4(20) a 4(21);
(x) paragraff 4(23) i 4(29);
(xi) paragraff 4(32)(a)(i) a (ii) a pharagraff 4(32)(b);
(xii) paragraff 7;
(xiii) paragraff 8;
(xiv) paragraff 11(a);
(xv) paragraff 12(a);
(xvi) paragraff 14(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xvii);
(xvii) paragraff 14(2) a (3);
(xviii) paragraff 19(1) at ddiben y ddarpariaeth yn is-baragraff (xix);
(xix) paragraff 19(5)(e)(ii);
(xx) paragraff 21(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xxi);
(xxi) paragraff 21(2)(a)(i) a (2)(b)(ii);
(xxii) paragraff 22;
(xxiii) paragraff 23(1) at ddiben y ddarpariaeth yn is-baragraff (xxiv);
(xxiv) paragraff 23(4);
(xxv) paragraff 24(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xxvi);
(xxvi) paragraff 24(3) a (6)(a).
3 
Daw adrannau 40 i 44 o’r Ddeddf i rym ar 1 Medi 2022 mewn perthynas â pherson ifanc.
4 
Daw darpariaethau’r Ddeddf a restrir ym mharagraffau (a) i (o) o erthygl 2 i rym ar 1 Medi 2022 mewn perthynas â pherson ifanc y mae cynllun datblygu unigol—
(a) yn cael ei lunio ar ei gyfer o dan adran 40 neu ei gadw ar ei gyfer o dan adran 42 o’r Ddeddf; neu
(b) yn cael ei lunio neu ei gynnal ar ei gyfer o dan adran 14 o’r Ddeddf o ganlyniad i reoliad 23 o Reoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021.
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
16 Awst 2022