
1 

(1) Enwʼr Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2022.
(2) Dawʼr Rheoliadau hyn i rym ar 1 Hydref 2022.
2 
Mae Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
3 
Yn rheoliad 35—
(a) yn lle paragraff (2)(f) rhodder—“
(f) yn ddarostyngedig i baragraff (11) oʼr rheoliad hwn, pan foʼr person wedi ei gyflogi gan y darparwr gwasanaeth (pa un ai fel cyflogai neu fel gweithiwr) ac eithrio fel rheolwr er mwyn darparu gofal a chymorth i unrhyw berson mewn cysylltiad—
(i) â gwasanaeth cartref gofal,
(ii) â gwasanaeth llety diogel,
(iii) â gwasanaeth cymorth cartref er mwyn darparu gofal a chymorth i berson y cyfeirir ato ym mharagraff 8(1) o Atodlen 1 iʼr Ddeddf, neu
(iv) â gwasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd,
fod y person wedi ei gofrestru fel gweithiwr gofal cymdeithasol â Gofal Cymdeithasol Cymru heb fod yn hwyrach naʼr dyddiad perthnasol (gweler paragraff (8) am ystyr “y dyddiad perthnasol”);”;
(b) yn lle paragraff (2)(g) rhodder—“
(g) yn ddarostyngedig i baragraff (11) oʼr rheoliad hwn, pan foʼr person wedi ei gymryd ymlaen o dan gontract ar gyfer gwasanaethau, ac eithrio fel rheolwr, i ddarparu gofal a chymorth i unrhyw berson mewn cysylltiad—
(i) â gwasanaeth cartref gofal,
(ii) â gwasanaeth llety diogel,
(iii) â gwasanaeth cymorth cartref er mwyn darparu gofal a chymorth i berson y cyfeirir ato ym mharagraff 8(1) o Atodlen 1 iʼr Ddeddf, neu
(iv) â gwasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd,
fod y person wedi ei gofrestru fel gweithiwr gofal cymdeithasol â Gofal Cymdeithasol Cymru heb fod yn hwyrach naʼr dyddiad perthnasol (gweler paragraff (8A) am ystyr “y dyddiad perthnasol”).”;
(c) ym mharagraff (8A)(a)—
(i) ym mharagraff (i), hepgorer “a ddarperir yn gyfan gwbl neuʼn bennaf i blant”;
(ii) ar ôl paragraff (iii) hepgorer “neu”;
(iii) ar ôl paragraff (iii) mewnosoder—“
(iv) â gwasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd, neu”.
Julie Morgan
Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
19 Gorffennaf 2022