
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio) 2022 a deuant i rym ar y diwrnod y daw adran 239 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i rym.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016.
2 
Yn Atodlen 2 i’r Ddeddf (eithriadau i adran 7), ym mharagraff 7(3) ar ôl paragraff (i) mewnosoder—“
(j) tenantiaeth neu drwydded sy’n ymwneud â llety a ddarperir—
(i) gan, neu ar ran, yr Ysgrifennydd Gwladol mewn cysylltiad â gofyniad a osodwyd o dan adran 3(6) (darpariaethau cyffredinol) o Ddeddf Mechnïaeth 1976 (p. 63), neu
(ii) o dan Ran 1 (trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau prawf) o Ddeddf Rheoli Troseddwyr 2007 (p. 21) at y dibenion prawf (o fewn ystyr adran 1 o’r Ddeddf honno);
(k) tenantiaeth neu drwydded sy’n ymwneud â—
(i) llety a ddarperir o dan adran 4 (llety) neu Ran 6 (cymorth i geiswyr lloches etc.) o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999(p. 33), neu
(ii) cyfleusterau a ddarperir o dan baragraff 9 o Atodlen 10 i Ddeddf Mewnfudo 2016 (c. 19) (mechnïaeth mewnfudo) ar gyfer llety i berson a ddarperir mewn cyfeiriad a bennir mewn amod mechnïaeth mewnfudo.”
3 
Yn Atodlen 3 i’r Ddeddf (contractau meddiannaeth a wneir gyda neu a fabwysiedir gan landlordiaid cymunedol y caniateir iddynt fod yn gontractau safonol), hepgorer paragraff 4 a’r pennawd italig o flaen y paragraff hwnnw.
4 
Yn Atodlen 8A i’r Ddeddf (contractau safonol y gellir eu terfynu ar ôl cyfnod hysbysu o ddau fis o dan adran 173 neu o dan gymal terfynu’r landlord), hepgorer paragraff 5 a’r pennawd italig o flaen y paragraff hwnnw.
5 
Yn Atodlen 9 i’r Ddeddf (contractau safonol nad yw’r cyfyngiadau yn adrannau 175 a 196 (pryd y caniateir rhoi hysbysiad y landlord) yn gymwys iddynt), hepgorer paragraff 4 a’r pennawd italig o flaen y paragraff hwnnw.
6 
Yn Atodlen 9B i’r Ddeddf (contractau safonol cyfnod penodol y gellir eu terfynu drwy roi hysbysiad o dan adran 186), hepgorer paragraff 3 a’r pennawd italig o flaen y paragraff hwnnw.
7 
Yn Atodlen 9C i’r Ddeddf (contractau safonol cyfnod penodol a gaiff gynnwys cymal terfynu’r landlord hyd yn oed os ydynt wedi eu gwneud am gyfnod llai na dwy flynedd), hepgorer paragraff 3 a’r pennawd italig o flaen y paragraff hwnnw.
8 
Yn Neddf Mewnfudo 2016, ym mharagraff 2 o Atodlen 11, ar ôl paragraff (m), mewnosoder—“
(n) in paragraph 7(3)(k)(i) of Schedule 2 to the Renting Homes (Wales) Act 2016 (anaw 1), in the English language text omit “section 4 (accommodation) or” and in the Welsh Language text omit “adran 4 (llety) neu”.”.
9 
Yn Neddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021, yn Atodlen 6 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol)—
(a) hepgorer paragraff 23;
(b) hepgorer paragraff 26(3).
Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
13 Gorffennaf 2022