
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) (Diwygio) 2022 a deuant i rym ar 5 Awst 2022.
2 
Mae Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
3 
Yn rheoliad 2, yn y diffiniad o “awdurdod perthnasol”—
(a) ar ôl “gynllun y mae adran 4 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddo,” hepgorer “ac”;
(b) yn lle “1995;” rhodder “1995, a”;
(c) ar y diwedd mewnosoder “chyd-bwyllgor corfforedig;”.
4 
Yn rheoliad 3, ar ôl paragraff (2) mewnosoder—“
(2A) Pan fo’r awdurdod perthnasol dan sylw yn gyd-bwyllgor corfforedig, yn achos aelod neu aelod cyfetholedig sydd hefyd yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o—
(a) cyngor cyfansoddol y cyd-bwyllgor corfforedig;
(b) awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo gan reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig,
rhaid i swyddog monitro’r cyd-bwyllgor corfforedig hefyd anfon copi o unrhyw adroddiad ac unrhyw argymhellion a ddyroddwyd o dan baragraff (1)(b) neu unrhyw argymhellion a wnaed o dan baragraff (2) at swyddog monitro’r cyngor cyfansoddol hwnnw neu’r awdurdod Parc Cenedlaethol hwnnw.”
5 
Yn rheoliad 6, ar ôl paragraff (a) mewnosoder—“
(aa) pan fo unrhyw berson sy’n destun yr ymchwiliad yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o gyd-bwyllgor corfforedig a’i fod hefyd yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o—
(i) cyngor cyfansoddol y cyd-bwyllgor corfforedig;
(ii) awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo gan reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig,
anfon copi o’r adroddiad ac unrhyw argymhellion at swyddog monitro’r cyngor cyfansoddol hwnnw neu’r awdurdod Parc Cenedlaethol hwnnw;”.
6 
Yn rheoliad 7(1)(a), ar ôl paragraff (i) mewnosoder—“
(ia) pan fo’r person sy’n destun yr ymchwiliad yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o gyd-bwyllgor corfforedig a’i fod hefyd yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o—(aa) cyngor cyfansoddol y cyd-bwyllgor corfforedig;(bb) awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo gan reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig,swyddog monitro’r cyngor cyfansoddol hwnnw neu’r awdurdod Parc Cenedlaethol hwnnw;”.
7 
Yn rheoliad 7A(1), ar ôl is-baragraff (a) mewnosoder—“
(aa) pan fo testun yr ymchwiliad yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o gyd-bwyllgor corfforedig a’i fod hefyd yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o—
(i) cyngor cyfansoddol y cyd-bwyllgor corfforedig;
(ii) awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo gan reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig,
swyddog monitro’r cyngor cyfansoddol hwnnw neu’r awdurdod Parc Cenedlaethol hwnnw;”.
8 
Yn rheoliad 8—
(a) ym mharagraff (4), yn lle “Rheoliad 7(b)” rhodder “rheoliad 7(1)(b)”;
(b) ym mharagraff (6)(b), yn lle “Rheoliad 12(a)(i)” rhodder “rheoliad 12(1)(a)(i)”;
(c) ym mharagraff (6)(c), yn lle “Reoliad 12(a)(ii)” rhodder “reoliad 12(1)(a)(ii)”.
9 
Yn rheoliad 9—
(a) ym mharagraff (2), yn lle “Rheoliad 12(a)(ii)” rhodder “rheoliad 12(1)(a)(ii)”;
(b) ar ôl paragraff (3)(a), mewnosoder—“
(aa) pan fo testun yr ymchwiliad yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o gyd-bwyllgor corfforedig a’i fod hefyd yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o—
(i) cyngor cyfansoddol y cyd-bwyllgor corfforedig;
(ii) awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo gan reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig,
swyddog monitro’r cyngor cyfansoddol hwnnw neu’r awdurdod Parc Cenedlaethol hwnnw;”.
10 
Yn rheoliad 10(10), ar ôl is-baragraff (a) mewnosoder—“
(aa) pan fo’r person sy’n ceisio caniatâd i apelio yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o gyd-bwyllgor corfforedig a’i fod hefyd yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o—
(i) cyngor cyfansoddol y cyd-bwyllgor corfforedig;
(ii) awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo gan reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig,
swyddog monitro’r cyngor cyfansoddol hwnnw neu’r awdurdod Parc Cenedlaethol hwnnw;”.
11 
Yn rheoliad 12—
(a) daw’r ddarpariaeth bresennol yn baragraff (1);
(b) ym mharagraff (1), hepgorer y geiriau o “, a rhaid iddo roi gwybod” hyd at “penderfyniad”;
(c) ar ôl paragraff (1), mewnosoder—“
(2) Ar ôl gwneud penderfyniad yn unol â pharagraff (1), rhaid i’r tribiwnlys apelau roi hysbysiad o’r penderfyniad hwnnw ynghyd â’r rhesymau dros y penderfyniad i:
(a) unrhyw berson sy’n destun yr ymchwiliad,
(b) Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru,
(c) Pwyllgor Safonau’r awdurdod perthnasol, a
(d) pan fo unrhyw berson sy’n destun yr ymchwiliad yn aelod o gyd-bwyllgor corfforedig, a’i fod hefyd yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o—
(i) cyngor cyfansoddol y cyd-bwyllgor corfforedig;
(ii) awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo gan reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig,
swyddog monitro’r cyngor cyfansoddol hwnnw neu’r awdurdod Parc Cenedlaethol hwnnw.”
12 
Yn rheoliad 13—
(a) ym mharagraff (1)—
(i) yn is-baragraff (b), yn lle “Rheoliad 12(a)(i) neu (b)” rhodder “rheoliad 12(1)(a)(i) neu (b)”;
(ii) yn is-baragraff (c), yn lle “Reoliad 12(a)(ii)” rhodder “reoliad 12(1)(a)(ii)”;
(iii) hepgorer y geiriau o “ac anfon” hyd at “a arweiniodd at yr ymchwiliad”;
(b) ar ôl paragraff (1), mewnosoder—“
(1A) Rhaid i’r Pwyllgor Safonau anfon copi o’r adroddiad at:
(a) unrhyw berson sy’n destun yr ymchwiliad,
(b) Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru,
(c) swyddog monitro’r awdurdod perthnasol dan sylw, a
(d) pan fo unrhyw berson sy’n destun yr ymchwiliad yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o gyd-bwyllgor corfforedig, a’i fod hefyd yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o—
(i) cyngor cyfansoddol y cyd-bwyllgor corfforedig;
(ii) awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo gan reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig,
swyddog monitro’r cyngor cyfansoddol hwnnw neu’r awdurdod Parc Cenedlaethol hwnnw.
(1B) Rhaid i’r Pwyllgor Safonau hefyd gymryd camau rhesymol i anfon copi o’r adroddiad at unrhyw berson a wnaeth unrhyw honiad a arweiniodd at yr ymchwiliad.”;
(c) ym mharagraff (2), yn y geiriau o flaen is-baragraff (a), ar ôl “awdurdod perthnasol” mewnosoder “dan sylw”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
13 Gorffennaf 2022