
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 17 Medi 2023.
2 

(1) Mae’r gyfradd gyflymder a bennir gan adran 81(1) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (terfyn cyflymder cyffredinol ar gyfer ffyrdd cyfyngedig) wedi ei gostwng i 20 milltir yr awr.
(2) Yn unol â hynny, mae’r cyfeiriad yn adran 81(1) o’r Ddeddf honno at “30 miles per hour” i’w ddehongli fel pe bai’n gyfeiriad at 20 milltir yr awr.
Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
13 Gorffennaf 2022