
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Tenantiaethau Cymdeithas Dai: Darpariaethau Sylfaenol) 2022 a deuant i rym ar y diwrnod y daw adran 239 o’r Ddeddf i rym.
2 

(1) Mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr un ystyr ag sydd iddynt yn y Ddeddf.
(2) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016;
 mae i “tenantiaeth cymdeithas dai” yr un ystyr â “housing association tenancy” yn Rhan 6 o Ddeddf Rhenti 1977 (gweler adran 86 o’r Ddeddf honno).
3 
Nid yw adran 104 o’r Ddeddf (contractau diogel: amrywio’r rhent) yn ddarpariaeth sylfaenol sy’n gymwys i gontract diogel sy’n denantiaeth cymdeithas dai.
4 
Nid yw adran 123 o’r Ddeddf (contractau safonol cyfnodol: amrywio’r rhent) yn ddarpariaeth sylfaenol sy’n gymwys i gontract safonol cyfnodol sy’n denantiaeth cymdeithas dai.
5 

(1) Mae’r Ddeddf wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn adran 104, ar ddiwedd is-adran (4) mewnosoder “, ac eithrio contract diogel sy’n denantiaeth cymdeithas dai”.
(3) Yn adran 123, ar ddiwedd is-adran (4) mewnosoder “, ac eithrio contract safonol cyfnodol sy’n denantiaeth cymdeithas dai”.
(4) Yn adran 252 (mân ddiffiniadau), yn y lle priodol mewnosoder—“
 mae i “tenantiaeth cymdeithas dai” yr un ystyr â “housing association tenancy” yn Rhan 6 o Ddeddf Rhenti 1977 (p. 42) (gweler adran 86 o’r Ddeddf honno);”.
(5) Yn adran 253 (mynegai), yn nhabl 2, ar ôl y cofnod ar gyfer “tenantiaeth”, yn y golofn chwith mewnosoder “tenantiaeth cymdeithas dai” ac yn y golofn dde mewnosoder “adran 252”.
(6) Yn Atodlen 1 (trosolwg o ddarpariaethau sylfaenol a ymgorfforir fel telerau contractau meddiannaeth)—
(a) yn Rhan 1 (contractau diogel), yn y cofnod yn nhabl 3 ar gyfer adrannau 103 i 109, yn y drydedd golofn (nodiadau), ar ôl “oddi tanynt”, yn y lle cyntaf y mae’n ymddangos, mewnosoder “ac nad ydynt yn denantiaethau cymdeithas dai (o ran hynny, gweler adran 93 o Ddeddf Rhenti 1977 (p. 42))”;
(b) yn Rhan 2 (contractau safonol cyfnodol), yn y cofnod yn nhabl 4 ar gyfer adrannau 122 i 128, yn y drydedd golofn (nodiadau), ar ôl “oddi tanynt”, yn y lle cyntaf y mae’n ymddangos, mewnosoder “ac nad ydynt yn denantiaethau cymdeithas dai (o ran hynny, gweler adran 93 o Ddeddf Rhenti 1977 (p. 42))”.
(7) Yn Atodlen 12 (trosi tenantiaethau a thrwyddedau presennol sy’n bodoli cyn i Bennod 3 o Ran 10 ddod i rym), ym mharagraff 14(2)—
(a) ar ôl “yn gymwys i” mewnosoder“—
(a) ”;
(b) ar ôl “rhent)” mewnosoder“, na
(b) cynnydd mewn rhent o dan adran 93 o Ddeddf Rhenti 1977 (p. 42).”.
6 

(1) Mae adran 93 o Ddeddf Rhenti 1977 (cynnyddu’r rhent heb rybudd i ymadael) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn is-adran (1)—
(a) ar ôl “weekly or other periodical tenancy” mewnosoder “but not an occupation contract”;
(b) yn lle “in this section” rhodder “in this subsection and subsection (2)”.
(3) Ar ôl is-adran (2) mewnosoder—“
(2A) Where a housing association tenancy is a secure contract or a periodic standard contract, the rent payable to the housing association or, as the case may be, the housing trust or the Welsh Ministers (in this subsection called “the landlord”), may be increased with effect from the beginning of any rental period by a written notice of increase specifying the date on which the increase is to take effect, and given by the landlord to the contract-holder not later than four weeks before that date.
(2B) A notice of increase given under subsection (2A) does not take effect if, before the date specified in that notice, the contract-holder gives a notice to end the contract.
(2C) But the notice of increase does take effect if, before the date specified in that notice, the notice to end the contract ceases to have effect (see section 167(3) or 172(3) of the Renting Homes (Wales) Act 2016 (anaw 1)).”.
(4) Ar ôl is-adran (5) mewnosoder—“
(6) In this section, the following terms have the same meaning as in the Renting Homes (Wales) 2016 (anaw 1) (see sections 7 and 8 of that Act)—
(a) contract-holder;
(b) occupation contract;
(c) periodic standard contract;
(d) secure contract,
and “notice to end the contract” means a notice under section 163 or 168 of that Act.”.
Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
13 Gorffennaf 2022