
RHAN 1
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2022.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 23 Chwefror 2022.
2 
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i ddarparu cymorth i fyfyriwr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2022, pa un a wneir unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn cyn, ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw.
RHAN 2
PENNOD 1
3 
Mae Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
PENNOD 2
4 
Yn yr Atodlen ym mharagraff 1, yn y diffiniad o “person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir”—
(a) hepgorer y “neu” terfynol ar ddiwedd paragraff (c);
(b) ar ôl paragraff (ch) mewnosoder—“
(d) caniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BA2 o’r rheolau mewnfudo, caniatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BS2 o’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd i ddod i mewn neu ganiatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BJ2 neu 276BO2 o’r rheolau mewnfudo;
(dd) caniatâd i ddod i mewn neu ganiatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi y tu allan i’r rheolau mewnfudo ar sail y Cynllun Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid;
(e) caniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi y tu allan i’r rheolau mewnfudo ar sail y Cynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan; neu
(f) caniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi y tu allan i’r rheolau mewnfudo fel priod, partner sifil neu blentyn dibynnol person sy’n dod o dan baragraff (e) neu blentyn dibynnol i briod neu bartner sifil o’r fath;”.
PENNOD 3
5 
Hepgorer rheoliad 2(8).
RHAN 3
PENNOD 1
6 
Mae Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
PENNOD 2
7 
Yn rheoliad 3, yn y lle priodol mewnosoder—“
 ystyr “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan” (“person with leave to enter or remain as a relevant Afghan citizen”) yw person—
(a) y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BA2 o’r rheolau mewnfudo, caniatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BS2 o’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd i ddod i mewn neu ganiatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BJ2 neu 276BO2 o’r rheolau mewnfudo;
(b) y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn neu ganiatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi y tu allan i’r rheolau mewnfudo ar sail y Cynllun Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid;
(c) y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi y tu allan i’r rheolau mewnfudo ar sail y Cynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan; neu
(d) y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi y tu allan i’r rheolau mewnfudo fel priod, partner sifil neu blentyn dibynnol person sy’n dod o dan baragraff (c) neu blentyn dibynnol i briod neu bartner sifil o’r fath;”.
8 
Yn rheoliad 6, ar ôl paragraff (10E) mewnosoder—“
(10F) Pan fo—
(a) Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd y ffaith ei fod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan, yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer un o flynyddoedd cynharach y cwrs cyfredol neu mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs dynodedig yn yr Athrofa y trosglwyddwyd statws A fel myfyriwr cymwys ohono i’r cwrs cyfredol; a
(b) y cyfnod y caniateir i berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan aros yn y Deyrnas Unedig i fod i ddod i ben cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi ac nad oes, ar y diwrnod cyn bod y flwyddyn academaidd honno’n dechrau, unrhyw ganiatâd pellach i aros wedi ei roi ac nad oes unrhyw apêl yn yr arfaeth,
mae statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu ar y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.”
9 
Yn Atodlen 1, ym mharagraff 4ZA(4)(b)—
(a) yn is-baragraff (iii), hepgorer y “neu” terfynol ac ar ôl is-baragraff (iv) mewnosoder “neu”;
(b) ar ôl is-baragraff (iv) mewnosoder—“
(v) person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan;”.
RHAN 4
PENNOD 1
10 
Mae Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
PENNOD 2
11 
Ym mharagraff 1 o’r Atodlen, yn y diffiniad o “person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir”—
(a) hepgorer y “neu” terfynol ar ddiwedd paragraff (c);
(b) ar ôl paragraff (d) mewnosoder—“
(e) caniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BA2 o’r rheolau mewnfudo, caniatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BS2 o’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd i ddod i mewn neu ganiatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BJ2 neu 276BO2 o’r rheolau mewnfudo;
(f) caniatâd i ddod i mewn neu ganiatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi y tu allan i’r rheolau mewnfudo ar sail y Cynllun Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid;
(g) caniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi y tu allan i’r rheolau mewnfudo ar sail y Cynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan; neu
(h) caniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi y tu allan i’r rheolau mewnfudo fel priod, partner sifil neu blentyn dibynnol person sy’n dod o dan baragraff (g) neu blentyn dibynnol i briod neu bartner sifil o’r fath;”.
PENNOD 3
12 
Yn yr Atodlen, ym mharagraff 1(6)—
(a) yn lle “Yr Alban,” rhodder “Yr Alban neu”;
(b) hepgorer “neu yn yr Ynysoedd”.
RHAN 5
PENNOD 1
13 
Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
PENNOD 2
14 
Yn rheoliad 16—
(a) ym mharagraff (3)(a), yn lle “£4,395” rhodder “£4,295”;
(b) ym mharagraff (3)(b), yn lle “£4,605” rhodder “£4,705”;
(c) ym mharagraff (4)(a), yn lle “£2,270” rhodder “£2,220”;
(d) ym mharagraff (4)(b), yn lle “£2,230” rhodder “£2,280”.
15 
Yn rheoliad 19—
(a) ym mharagraff (3)(a), yn lle “£4,605” rhodder “£4,705”;
(b) ym mharagraff (4)(a), yn lle “£2,230” rhodder “£2,280”.
16 
Yn rheoliad 24(3), yn lle “£31,831” rhodder “£32,546”.
17 
Yn rheoliad 26(3), yn lle “£3,190”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “£3,262”.
18 
Yn rheoliad 27—
(a) ym mharagraff (7)—
(i) yn is-baragraff (a), yn lle “£179.62” rhodder “£184”;
(ii) yn is-baragraff (b), yn lle “£307.95” rhodder “£315”;
(b) ym mharagraff (9)(a), yn lle “£138.81” rhodder “£141”.
19 
Yn rheoliad 28(2), yn lle “£1,821” rhodder “£1,862”.
20 
Yn rheoliad 43—
(a) ym mharagraff (2)(i), yn lle “£6,027” rhodder “£6,163”;
(b) ym mharagraff (2)(ii), yn lle “£10,907” rhodder “£11,152”;
(c) ym mharagraff (2)(iii), yn lle “£9,283” rhodder “£9,492”;
(d) ym mharagraff (2)(iv), yn lle “£9,283” rhodder “£9,492”;
(e) ym mharagraff (2)(v), yn lle “£7,786” rhodder “£7,961”;
(f) ym mharagraff (3)(i), yn lle “£5,457” rhodder “£5,580”;
(g) ym mharagraff (3)(ii), yn lle “£9,932” rhodder “£10,155”;
(h) ym mharagraff (3)(iii), yn lle “£8,074” rhodder “£8,256”;
(i) ym mharagraff (3)(iv), yn lle “£8,074” rhodder “£8,256”;
(j) ym mharagraff (3)(v), yn lle “£7,213” rhodder “£7,375”.
21 
Yn rheoliad 45—
(a) ym mharagraff (1)(a)(i), yn lle “£2,862” rhodder “£2,926”;
(b) ym mharagraff (1)(a)(ii), yn lle “£5,363” rhodder “£5,484”;
(c) ym mharagraff (1)(a)(iii), yn lle “£4,563” rhodder “£4,666”;
(d) ym mharagraff (1)(a)(iv), yn lle “£4,563” rhodder “£4,666”;
(e) ym mharagraff (1)(a)(v), yn lle “£3,815” rhodder “£3,901”;
(f) ym mharagraff (1)(b)(i), yn lle “£2,862” rhodder “£2,926”;
(g) ym mharagraff (1)(b)(ii), yn lle “£5,363” rhodder “£5,484”;
(h) ym mharagraff (1)(b)(iii), yn lle “£4,563” rhodder “£4,666”;
(i) ym mharagraff (1)(b)(iv), yn lle “£4,563” rhodder “£4,666”;
(j) ym mharagraff (1)(b)(v), yn lle “£3,815” rhodder “£3,901”;
(k) ym mharagraff (1)(c)(i), yn lle “£4,520” rhodder “£4,622”;
(l) ym mharagraff (1)(c)(ii), yn lle “£8,180” rhodder “£8,364”;
(m) ym mharagraff (1)(c)(iii), yn lle “£6,962” rhodder “£7,119”;
(n) ym mharagraff (1)(c)(iv), yn lle “£6,962” rhodder “£7,119”;
(o) ym mharagraff (1)(c)(v), yn lle “£5,840” rhodder “£5,971”;
(p) ym mharagraff (2)(a)(i), yn lle “£2,175” rhodder “£2,224”;
(q) ym mharagraff (2)(a)(ii), yn lle “£4,102” rhodder “£4,194”;
(r) ym mharagraff (2)(a)(iii), yn lle “£2,973” rhodder “£3,040”;
(s) ym mharagraff (2)(a)(iv), yn lle “£2,973” rhodder “£3,040”;
(t) ym mharagraff (2)(a)(v), yn lle “£2,973” rhodder “£3,040”;
(u) ym mharagraff (2)(b)(i), yn lle “£2,175” rhodder “£2,224”;
(v) ym mharagraff (2)(b)(ii), yn lle “£4,102” rhodder “£4,194”;
(w) ym mharagraff (2)(b)(iii), yn lle “£3,336” rhodder “£3,411”;
(x) ym mharagraff (2)(b)(iv), yn lle “£3,336” rhodder “£3,411”;
(y) ym mharagraff (2)(b)(v), yn lle “£2,973” rhodder “£3,040”;
(z) ym mharagraff (2)(c)(i), yn lle “£4,093” rhodder “£4,185”;
(aa) ym mharagraff (2)(c)(ii), yn lle “£7,449” rhodder “£7,616”;
(bb) ym mharagraff (2)(c)(iii), yn lle “£6,056” rhodder “£6,192”;
(cc) ym mharagraff (2)(c)(iv), yn lle “£6,056” rhodder “£6,192”;
(dd) ym mharagraff (2)(c)(v), yn lle “£5,410” rhodder “£5,531”.
22 
Yn rheoliad 50—
(a) ym mharagraff (1)(a), yn lle “£89” rhodder “£91”;
(b) ym mharagraff (1)(b), yn lle “£172” rhodder “£176”;
(c) ym mharagraff (1)(c), yn lle “£188” rhodder “£192”;
(d) ym mharagraff (1)(d), yn lle “£188” rhodder “£192”;
(e) ym mharagraff (1)(e), yn lle “£135” rhodder “£138”.
23 
Yn rheoliad 56—
(a) ym mharagraff (3)(a), yn lle “£4,520” rhodder “£4,622”;
(b) ym mharagraff (3)(b), yn lle “£8,180” rhodder “£8,364”;
(c) ym mharagraff (3)(c), yn lle “£6,962” rhodder “£7,119”;
(d) ym mharagraff (3)(d), yn lle “£6,962” rhodder “£7,119”;
(e) ym mharagraff (3)(e), yn lle “£5,840” rhodder “£5,971”;
(f) ym mharagraff (4)(a), yn lle “£4,093” rhodder “£4,185”;
(g) ym mharagraff (4)(b), yn lle “£7,449” rhodder “£7,616”;
(h) ym mharagraff (4)(c), yn lle “£6,056” rhodder “£6,192”;
(i) ym mharagraff (4)(d), yn lle “£6,056” rhodder “£6,192”;
(j) ym mharagraff (4)(e), yn lle “£5,410” rhodder “£5,531”.
24 
Yn rheoliad 88(3)(a), yn lle “£31,831” rhodder “£32,546”.
25 
Yn rheoliad 91(3)—
(a) yn is-baragraff (a), yn lle “£3,190” rhodder “£3,262”;
(b) yn is-baragraff (b), yn lle “£3,190” rhodder “£3,262”.
26 
Yn rheoliad 92—
(a) ym mharagraff (6)—
(i) yn is-baragraff (a), yn lle “£179.62” rhodder “£184”;
(ii) yn is-baragraff (b), yn lle “£307.95” rhodder “£315”;
(b) ym mharagraff (8)(a), yn lle “£138.31” rhodder “£141”.
27 
Yn rheoliad 93(2), yn lle “£1,821” rhodder “£1,862”.
28 
Yn rheoliad 117(2)(a), yn lle “£31,831” rhodder “£32,546”.
PENNOD 3
29 
Yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “blwyddyn Erasmus”, yn lle “a elwir ERASMUS neu yn y cynllun a sefydlir gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg a elwir Cynllun Turing,” rhodder “a elwir ERASMUS, yn y cynllun a sefydlir gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg a elwir Cynllun Turing neu yn y cynllun a sefydlir gan Weinidogion Cymru a elwir y Rhaglen Gyfnewid Ryngwladol ar gyfer Dysgu,”.
PENNOD 4
30 
Yn rheoliad 2(1)—
(a) hepgorer y diffiniad o “cyfnod gras”;
(b) yn y diffiniad o “person sydd â hawliau gwarchoddedig”, hepgorer paragraff (1)(a)(iii).
31 
Ym mhob un o reoliadau 4(10E)(a), 81(10E)(a) a 110(12E)(a)—
(a) ym mharagraff (i), hepgorer “(iii),”;
(b) ym mharagraff (ii), hepgorer “(iii) neu”.
32 
Yn Atodlen 1, hepgorer paragraff 3(1)(a)(iii).
RHAN 6
PENNOD 1
33 
Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
PENNOD 2
34 
Yn rheoliad 12(1), yn lle “23D neu 23E” rhodder “23D, 23E neu 23F”.
35 
Ar ôl rheoliad 23E mewnosoder—“
23F. 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—
(a) pan oedd person (“P”) yn fyfyriwr cymwys oherwydd ei fod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan (gweler Atodlen 2, paragraff 2ZA) mewn cysylltiad â chais am gymorth—
(i) ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs presennol,
(ii) ar gyfer cwrs llawnamser y mae’r cwrs presennol yn gwrs penben llawnamser mewn perthynas ag ef, neu
(iii) ar gyfer cwrs y mae statws P fel myfyriwr cymwys wedi cael ei drosglwyddo ohono i’r cwrs presennol o dan reoliad 28 neu baragraff 7 o Atodlen 5, a
(b) pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi, fo’r cyfnod y caiff P aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi ac nad oes apêl yn yr arfaeth.
(2) Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, mae statws P fel myfyriwr cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.”
36 
Yn rheoliad 80—
(a) ar ôl paragraff (2)(b)(ib) mewnosoder—“
(ic) bod y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan;”;
(b) ym mharagraff (3), yn y lle priodol mewnosoder “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan”.
37 
Yn rheoliad 81(3)(b), ar ôl paragraff (ib) mewnosoder—“
(ic) bod y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan;”.
38 
Yn Atodlen 2, ym mharagraff 2ZA—
(a) yn is-baragraff (4)(b)—
(i) yn is-baragraff (iii), hepgorer y “neu” terfynol ac ar ôl is-baragraff (iv) mewnosoder “neu”;
(ii) ar ôl is-baragraff (iv) mewnosoder—“
(v) person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan,”;
(b) ar ôl is-baragraff (4)(e) mewnosoder—“
(ea) ystyr “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan” yw person—
(i) y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BA2 o’r rheolau mewnfudo, caniatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BS2 o’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd i ddod i mewn neu ganiatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BJ2 neu 276BO2 o’r rheolau mewnfudo,
(ii) y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn neu ganiatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi y tu allan i’r rheolau mewnfudo ar sail y Cynllun Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid,
(iii) y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi y tu allan i’r rheolau mewnfudo ar sail y Cynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan, neu
(iv) y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi y tu allan i’r rheolau mewnfudo fel priod, partner sifil neu blentyn dibynnol person sy’n dod o dan baragraff (iii) neu blentyn dibynnol i briod neu bartner sifil o’r fath,”.
39 
Yn Atodlen 4—
(a) ar ôl paragraff 13E mewnosoder—“
13F. 

(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
(a) pan oedd person (“P”) yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys oherwydd ei fod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan (gweler Atodlen 2, paragraff 2ZA) mewn cysylltiad â chais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl—
(i) ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs ôl-radd presennol, neu
(ii) mewn cysylltiad â chwrs y mae statws P fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi cael ei drosglwyddo ohono i’r cwrs ôl-radd presennol o dan baragraff 15, a
(b) pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn cysylltiad â hi, fo’r cyfnod y caiff P aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi ac nad oes apêl yn yr arfaeth.
(2) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, mae statws P fel myfyriwr cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.”;
(b) ar ôl paragraff 14(3)(b)(ib) mewnosoder—“
(ic) bod y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan;”;
(c) ym mharagraff 14(4), yn y lle priodol mewnosoder “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan” (“person with leave to enter or remain as a relevant Afghan citizen”);”.
40 
Yn Atodlen 5, paragraff 4—
(a) ar ôl is-baragraff (2)(ab) mewnosoder—“
(ac) bod y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan;”;
(b) yn is-baragraff (3), yn y lle priodol mewnosoder “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan” (“person with leave to enter or remain as a relevant Afghan citizen”);”.
41 
Yn Atodlen 7, yn Nhabl 16, yn y lle priodol mewnosoder—“
“person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan” Atodlen 2, paragraff 2ZA”
PENNOD 3
42 
Yn rheoliad 55, mae Tabl 7 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
(a) yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2021” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2022”;
(b) ar ddiwedd y Tabl ychwaneger y cofnod a ganlyn—“
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022 Categori 1 Byw gartref £8,095
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain £12,375
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall £9,710
Categori 2 Byw gartref £4,045
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain £6,185
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall £4,855”
43 
Yn rheoliad 56—
(a) mae Tabl 8 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
(i) yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2021” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2022”;
(ii) ar ddiwedd y Tabl ychwaneger y cofnod a ganlyn—“
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022 Byw gartref £9,095
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain £13,375
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall £10,710”
(b) mae Tabl 8A wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
(i) yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2021” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2022”;
(ii) ar ddiwedd y Tabl ychwaneger y cofnod a ganlyn—“
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022 Byw gartref £4,045
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain £6,185
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall £4,855”
44 
Yn rheoliad 57, mae Tabl 9 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
(a) yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2021” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2022”;
(b) ar ddiwedd y Tabl ychwaneger y cofnod a ganlyn—“
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022 Byw gartref £91
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain £176
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall £138”
45 
Yn rheoliad 58, mae Tabl 10 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
(a) yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2021” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2022”;
(b) ar ddiwedd y Tabl ychwaneger y cofnod a ganlyn—“
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022 £6,905 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio”
46 
Yn rheoliad 58A, mae Tabl 10A wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
(a) yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2021” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2022”;
(b) ar ddiwedd y Tabl ychwaneger y cofnod a ganlyn—“
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022 £7,905 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio”
47 
Yn rheoliad 63(2), yn Achos 1, yn lle “£31,831” rhodded “£32,546”.
48 
Yn rheoliad 72, mae Tabl 11 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
(a) yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2021” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2022”;
(b) ar ddiwedd y Tabl ychwaneger y cofnod a ganlyn—“
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022 £3,262”
49 
Yn rheoliad 74, mae Tabl 12 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
(a) yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2021” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2022”;
(b) ar ddiwedd y Tabl ychwaneger y cofnod a ganlyn—“
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022 £1,862”
50 
Yn rheoliad 76—
(a) mae Tabl 13 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
(i) yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2021” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2022”;
(ii) ar ddiwedd y Tabl ychwaneger y cofnod a ganlyn—“
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022 Un plentyn dibynnol £184
Mwy nag un plentyn dibynnol £315”
(b) ym mharagraff (4), yn lle “£138.31” rhodder “£141”.
51 
Yn Atodlen 4, ym mharagraff 20(2), yn Achos 1, yn lle “£31,831” rhodder “£32,546”.
PENNOD 4
52 
Yn Atodlen 1, ym mharagraff 4, yn lle is-baragraff (3) rhodder—“
(3) Yn is-baragraff (1), ystyr “cynllun ERASMUS” yw—
(a) cynllun gweithredu’r Undeb Ewropeaidd ar gyfer symudedd myfyrwyr prifysgol,
(b) y cynllun a sefydlir gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg a elwir Cynllun Turing, neu
(c) y cynllun a sefydlir gan Weinidogion Cymru a elwir y Rhaglen Gyfnewid Ryngwladol ar gyfer Dysgu.”
PENNOD 5
53 
Yn rheoliad 23E(a)—
(a) yn is-baragraff (i), hepgorer “(iii),”;
(b) yn is-baragraff (ii), hepgorer “(iii) neu”.
54 
Yn Atodlen 1, paragraff 6—
(a) hepgorer y diffiniad o “cyfnod gras”;
(b) yn y diffiniad o “person sydd â hawliau gwarchodedig”, hepgorer paragraff (1)(a)(iii).
55 
Yn Atodlen 2, hepgorer paragraff 1(2)(a)(iii).
56 
Yn Atodlen 4, ym mharagraff 13E(a)—
(a) ym mharagraff (i), hepgorer “(iii),”;
(b) ym mharagraff (ii), hepgorer “(iii) neu”.
57 
Yn Atodlen 7, yn Nhabl 16, hepgorer y cofnod yn y tabl ar gyfer “cyfnod gras”.
PENNOD 6
58 
Yn Atodlen 4, ym mharagraff 5(1), yn Eithriad 2, ar ôl “Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016” mewnosoder “pan fo’r cwrs ôl-raddedig dynodedig yn dechrau cyn 1 Awst 2022”.
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
26 Ionawr 2022