
RHAN 1
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Gwladolion Wcreinaidd ac Aelodau o’u Teuluoedd) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2022.
2 
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 24 Gorffennaf 2022.
3 
Mae’r Rheoliadau hyn y gymwys mewn perthynas â darparu cymorth i fyfyriwr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2022, pa un a wneir unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn cyn, ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw.
RHAN 2
4 
Mae Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
5 
Yn rheoliad 4(1)(a), ar ôl “4B,” mewnosoder “4C,”.
6 
Yn rheoliad 5(1)—
(a) yn is-baragraff (b)(i), ar ôl “4B,” mewnosoder “4C,”;
(b) yn is-baragraff (c)(i), ar ôl “4B,” mewnosoder “4C,”.
7 
Yn rheoliad 6—
(a) ym mharagraff (2)(a), ar ôl “4B,” mewnosoder “4C,”;
(b) ym mharagraff (3)(a), ar ôl “4B,” mewnosoder “4C,”.
8 
Yn rheoliad 7—
(a) ym mharagraff (2)(a), ar ôl “4B,” mewnosoder “4C,”;
(b) ym mharagraff (3)(a), ar ôl “4B,” mewnosoder “4C,”.
9 
Yn rheoliad 8—
(a) ym mharagraff (1)(a), ar ôl “4B,” mewnosoder “4C,”;
(b) ym mharagraff (2)(a), ar ôl “4B,” mewnosoder “4C,”.
10 
Yn yr Atodlen—
(a) ym mharagraff 1, yn y lle priodol mewnosoder—“
 ystyr “gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir” (“protected Ukrainian national”) yw person y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi—
(a) o dan baragraff 9.1 (y Cynllun Teuluoedd o Wcráin), 19.1 (y Cynllun Noddi Cartrefi i Wcráin) neu 27.1 (y Cynllun Estyn Cyfnod Gwladolion o Wcráin) o Atodiad Cynllun Wcráin i’r rheolau mewnfudo; neu
(b) y tu allan i’r rheolau mewnfudo—
(i) pan oedd y person yn preswylio yn Wcráin yn union cyn 1 Ionawr 2022; a
(ii) pan adawodd y person Wcráin mewn cysylltiad â’r ymosodiad gan Rwsia a ddigwyddodd ar 24 Chwefror 2022;”;
(b) ar ôl paragraff 4B mewnosoder—“
4C. 
Person—
(a) sy’n wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;
(b) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers dod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir; ac
(c) sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.”
RHAN 3
11 
Mae Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
12 
Yn rheoliad 3(1), yn y lle priodol mewnosoder—“
 ystyr “gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir” (“protected Ukrainian national”) yw person y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi—
(a) o dan baragraff 9.1 (y Cynllun Teuluoedd o Wcráin), 19.1 (y Cynllun Noddi Cartrefi i Wcráin) neu 27.1 (y Cynllun Estyn Cyfnod Gwladolion o Wcráin) o Atodiad Cynllun Wcráin i’r rheolau mewnfudo; neu
(b) y tu allan i’r rheolau mewnfudo—
(i) pan oedd y person yn preswylio yn Wcráin yn union cyn 1 Ionawr 2022; a
(ii) pan adawodd y person Wcráin mewn cysylltiad â’r ymosodiad gan Rwsia a ddigwyddodd ar 24 Chwefror 2022;”.
13 
Yn rheoliad 6—
(a) ym mharagraff (2)(b)—
(i) yn lle paragraff (i) rhodder—“
(i) ym mharagraffau 2, 2A, 3, 4, 4ZA, 4ZB, 4ZC, 5, 6A, 8A, 9A, 9B, 9BA, 9C, 9D, 10A, 11A a 12A o Ran 2 o Atodlen 1, neu”;
(ii) yn lle paragraff (ii) rhodder—“
(ii) ym mharagraffau 6, 7, 8, 9, 10, 11 a 12 o Ran 2 o Atodlen 1, pan fo paragraff (2A) yn gymwys.”;
(b) ar ôl paragraff (10F) mewnosoder—“
(10G) Pan fo—
(a) Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd y ffaith ei fod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir, yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer un o flynyddoedd cynharach y cwrs cyfredol neu mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs dynodedig yn yr Athrofa y trosglwyddwyd statws A fel myfyriwr cymwys ohono i’r cwrs cyfredol; a
(b) ar y diwrnod cyn bod y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi yn dechrau, y cyfnod y caniateir i A aros yn y Deyrnas Unedig fel gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir wedi dod i ben ac nad oes unrhyw ganiatâd pellach i ddod i mewn neu i aros wedi ei roi,
mae statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.”
14 
Yn Atodlen 1, ar ôl paragraff 4ZB mewnosoder—“
4ZC. 
Person—
(a) sy’n wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;
(b) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers dod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir; ac
(c) sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.”
RHAN 4
15 
Mae Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
16 
Yn rheoliad 4(9)(a), ar ôl “4B,” mewnosoder “4C,”.
17 
Yn yr Atodlen—
(a) ym mharagraff 1(1), yn y lle priodol mewnosoder—“
 ystyr “gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir” (“protected Ukrainian national”) yw person y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi—
(a) o dan baragraff 9.1 (y Cynllun Teuluoedd o Wcráin), 19.1 (y Cynllun Noddi Cartrefi i Wcráin) neu 27.1 (y Cynllun Estyn Cyfnod Gwladolion o Wcráin) o Atodiad Cynllun Wcráin i’r rheolau mewnfudo; neu
(b) y tu allan i’r rheolau mewnfudo—
(i) pan oedd y person yn preswylio yn Wcráin yn union cyn 1 Ionawr 2022; a
(ii) pan adawodd y person Wcráin mewn cysylltiad â’r ymosodiad gan Rwsia a ddigwyddodd ar 24 Chwefror 2022”;
(b) ar ôl paragraff 4B mewnosoder—“
4C. 
Person—
(a) sy’n wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;
(b) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers dod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir; ac
(c) sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.”
RHAN 5
18 
Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
19 
Yn rheoliad 2(1), yn y lle priodol mewnosoder—“
 ystyr “gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir” (“protected Ukrainian national”) yw person y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi—
(a) o dan baragraff 9.1 (y Cynllun Teuluoedd o Wcráin), 19.1 (y Cynllun Noddi Cartrefi i Wcráin) neu 27.1 (y Cynllun Estyn Cyfnod Gwladolion o Wcráin) o Atodiad Cynllun Wcráin i’r rheolau mewnfudo; neu
(b) y tu allan i’r rheolau mewnfudo—
(i) pan oedd y person yn preswylio yn Wcráin yn union cyn 1 Ionawr 2022; a
(ii) pan adawodd y person Wcráin mewn cysylltiad â’r ymosodiad gan Rwsia a ddigwyddodd ar 24 Chwefror 2022;”.
20 
Yn rheoliad 4—
(a) ym mharagraff (2)(a), ar ôl “4ZB,” mewnosoder “4ZC,”;
(b) ar ôl paragraff (10E) mewnosoder—“
(10F) Os bydd—
(a) Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir—
(i) yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynt o’r cwrs presennol, mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs y mae’r cwrs presennol yn gwrs penben mewn perthynas ag ef, neu’n gais am gymorth mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig neu gwrs dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys neu fyfyriwr cymwys wedi ei drosglwyddo oddi wrtho i’r cwrs presennol; neu
(ii) yn fyfyriwr cymhwysol mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynt o’r cwrs cymhwysol neu o gwrs cymhwysol arall y mae statws A fel myfyriwr cymhwysol wedi ei drosglwyddo oddi wrtho i’r cwrs cymhwysol y mae’r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas ag ef; a
(b) ar y diwrnod cyn dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, y cyfnod y caniateir i A aros yn y Deyrnas Unedig fel gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir wedi terfynu, ac nad oes unrhyw hawl bellach i ddod i mewn neu i aros wedi ei rhoi,
bydd statws A fel myfyriwr cymwys neu fyfyriwr cymhwysol yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.”
21 
Yn rheoliad 15, ar ôl paragraff (bb) mewnosoder—“
(bc) bod y myfyriwr yn dod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;”.
22 
Yn rheoliad 23—
(a) ym mharagraff (12), ar ôl is-baragraff (bb) mewnosoder—“
(bc) bod y myfyriwr yn dod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;”;
(b) hepgorer paragraff (17).
23 
Yn rheoliad 26(1), ar ôl “ar gwrs dynodedig” mewnosoder “neu mewn cysylltiad â chwrs dynodedig y mae’n ymgymryd ag ef”.
24 
Yn rheoliad 27(1), ar ôl “ar gwrs dynodedig” mewnosoder “neu mewn cysylltiad â chwrs dynodedig y mae’n ymgymryd ag ef”.
25 
Yn rheoliad 28(1), ar ôl “ar gwrs dynodedig” mewnosoder “neu mewn cysylltiad â chwrs dynodedig y mae’n ymgymryd ag ef”.
26 
Yn rheoliad 49(2), ar ôl is-baragraff (bb) mewnosoder—“
(bc) bod y myfyriwr yn dod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;”.
27 
Yn rheoliad 81—
(a) ym mharagraff (2)(a), ar ôl “4ZB,” mewnosoder “4ZC,”;
(b) ar ôl paragraff (10E) mewnosoder—“
(10F) Os bydd—
(a) Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir, yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth am flwyddyn gynharach o’r cwrs rhan-amser presennol neu mewn cysylltiad â chais am gymorth mewn cysylltiad â chwrs dynodedig neu gwrs rhan-amser dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys neu fyfyriwr cymwys wedi ei drosglwyddo oddi wrtho i’r cwrs rhan-amser presennol; a
(b) ar y diwrnod cyn dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, y cyfnod y caniateir i A aros yn y Deyrnas Unedig fel gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir wedi dod i ben ac nad oes unrhyw hawl bellach i ddod i mewn neu i aros wedi ei rhoi,
bydd statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.”
28 
Yn rheoliad 82(4), ar ôl is-baragraff (bb) mewnosoder—“
(bc) bod y myfyriwr yn dod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;”.
29 
Yn rheoliad 91(1), ar ôl “ar gwrs rhan-amser dynodedig” mewnosoder “neu mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig y mae’n ymgymryd ag ef”.
30 
Yn rheoliad 92(1), ar ôl “ar gwrs rhan-amser dynodedig” mewnosoder “neu mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig y mae’n ymgymryd ag ef”.
31 
Yn rheoliad 93(1), ar ôl “ar gwrs rhan-amser dynodedig” mewnosoder “neu mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig y mae’n ymgymryd ag ef”.
32 
Yn rheoliad 110—
(a) ym mharagraff (3)(a)(i), ar ôl “4ZB,” mewnosoder “4ZC,”;
(b) ar ôl paragraff (12E) mewnosoder—“
(12F) Os bydd—
(a) Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir, yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth am flwyddyn gynharach o’r cwrs ôl-radd presennol neu mewn cysylltiad â chais am gymorth mewn cysylltiad â chwrs ôl-radd dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr ôl-radd cymwys wedi ei drosglwyddo oddi wrtho i’r cwrs ôl-radd presennol; a
(b) ar y diwrnod cyn dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, y cyfnod y caniateir i A aros yn y Deyrnas Unedig fel gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir wedi dod i ben ac nad oes unrhyw hawl bellach i ddod i mewn neu i aros wedi ei rhoi,
bydd statws A fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.”
33 
Ar ôl rheoliad 111(2)(bb) mewnosoder—“
(bc) y myfyriwr yn dod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;”.
34 
Yn Atodlen 1, ar ôl paragraff 4ZB mewnosoder—“
4ZC. 
Person—
(a) sy’n wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;
(b) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers dod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir; ac
(c) sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.”
35 
Yn Atodlen 4, paragraff 6, ar ôl is-baragraff (ab) mewnosoder—“
(ac) bod y myfyriwr yn dod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;”.
RHAN 6
36 
Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
37 
Yn rheoliad 9(1)(a)(i), ar ôl “2ZB,” mewnosoder “2ZC,”.
38 
Yn rheoliad 12(1), yn lle “23E neu 23F” rhodder “23E, 23F neu 23G”.
39 
Ar ôl rheoliad 23F mewnosoder—“
23G. 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—
(a) pan oedd person (“P”) yn fyfyriwr cymwys oherwydd ei fod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir (gweler Atodlen 2, paragraff 2ZC) mewn cysylltiad â chais am gymorth—
(i) ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs presennol,
(ii) ar gyfer cwrs llawnamser y mae’r cwrs presennol yn gwrs penben llawnamser mewn perthynas ag ef, neu
(iii) ar gyfer cwrs y mae statws P fel myfyriwr cymwys wedi cael ei drosglwyddo ohono i’r cwrs presennol o dan reoliad 28 neu baragraff 7 o Atodlen 5, a
(b) pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi, fo’r cyfnod y caiff P aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi.
(2) Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, mae statws P fel myfyriwr cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.”
40 
Yn rheoliad 69, ym mharagraff (2), hepgorer Eithriad 5.
41 
Yn rheoliad 80—
(a) ym mharagraff (2)(b), ar ôl paragraff (ic) mewnosoder—“
(id) bod y myfyriwr yn dod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;”;
(b) ym mharagraff (3), yn y lle priodol mewnosoder ““gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir” (“protected Ukrainian national”);”.
42 
Yn rheoliad 81(3)(b), ar ôl paragraff (ic) mewnosoder—“
(id) bod y myfyriwr yn dod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;”.
43 
Yn Atodlen 2, ar ôl paragraff 2ZB mewnosoder—“
2ZC. 

(1) Person—
(a) sy’n wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir,
(b) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers dod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir, ac
(c) sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(2) Yn y paragraff hwn, ystyr “gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir” yw person y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi—
(a) o dan baragraff 9.1 (y Cynllun Teuluoedd o Wcráin), 19.1 (y Cynllun Noddi Cartrefi i Wcráin) neu 27.1 (y Cynllun Estyn Cyfnod Gwladolion o Wcráin) o Atodiad Cynllun Wcráin i’r rheolau mewnfudo; neu
(b) y tu allan i’r rheolau mewnfudo—
(i) pan oedd y person yn preswylio yn Wcráin yn union cyn 1 Ionawr 2022; a
(ii) pan adawodd y person Wcráin mewn cysylltiad â’r ymosodiad gan Rwsia a ddigwyddodd ar 24 Chwefror 2022.”
44 
Yn Atodlen 4—
(a) ym mharagraff 4(1)(a)(i), ar ôl “2ZB,” mewnosoder “2ZC,”;
(b) ar ôl paragraff 13F mewnosoder—“
13G. 

(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
(a) pan oedd person (“P”) yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys oherwydd ei fod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir (gweler Atodlen 2, paragraff 2ZC) mewn cysylltiad â chais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl—
(i) ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs ôl-radd presennol, neu
(ii) mewn cysylltiad â chwrs y mae statws P fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi cael ei drosglwyddo ohono i’r cwrs ôl-radd presennol o dan baragraff 15, a
(b) pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn cysylltiad â hi, fo’r cyfnod y caiff P aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi.
(2) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, mae statws P fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.”;
(c) ym mharagraff 14—
(i) yn is-baragraff (3)(b), ar ôl paragraff (ic) mewnosoder—“
(id) bod y myfyriwr yn dod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;”;
(ii) yn is-baragraff (4), yn y lle priodol mewnosoder ““gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir” (“protected Ukrainian national”);”.
45 
Yn Atodlen 7, yn Nhabl 16, yn y lle priodol mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y tabl—“
“gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir” Atodlen 2, paragraff 2ZC(2)”
RHAN 7
46 
Mae Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
47 
Yn rheoliad 2(1), yn y lle priodol mewnosoder—“
 ystyr “gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir” (“protected Ukrainian national”) yw person y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi—
(a) o dan baragraff 9.1 (y Cynllun Teuluoedd o Wcráin), 19.1 (y Cynllun Noddi Cartrefi i Wcráin) neu 27.1 (y Cynllun Estyn Cyfnod Gwladolion o Wcráin) o Atodiad Cynllun Wcráin i’r rheolau mewnfudo; neu
(b) y tu allan i’r rheolau mewnfudo—
(i) pan oedd y person yn preswylio yn Wcráin yn union cyn 1 Ionawr 2022; a
(ii) pan adawodd y person Wcráin mewn cysylltiad â’r ymosodiad gan Rwsia a ddigwyddodd ar 24 Chwefror 2022;”.
48 
Yn rheoliad 3(2)(a), ar ôl “4B,” mewnosoder “4C,”.
49 
Yn rheoliad 8, ar ôl paragraff (bc) mewnosoder—“
(bd) bod y myfyriwr yn dod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;”.
50 
Yn Atodlen 1, ar ôl paragraff 4B mewnosoder—“
4C. 
Person—
(a) sy’n wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;
(b) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers dod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir; ac
(c) sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.”
RHAN 8
51 
Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
52 
Yn rheoliad 9(1)(a)(i) ar ôl “2B,” mewnosoder “2C,”.
53 
Yn rheoliad 16—
(a) ym mharagraff (1)(b), ar ôl paragraff (ia) mewnosoder—“
(ib) bod y myfyriwr yn dod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;”;
(b) ym mharagraff (2), yn y lle priodol mewnosoder ““gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir” (“protected Ukrainian national”);”.
54 
Yn Atodlen 2, ar ôl paragraff 2B mewnosoder—“
2C. 

(1) Person—
(a) sy’n wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir,
(b) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers dod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir, ac
(c) sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(2) Yn y paragraff hwn, ystyr “gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir” yw person y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi—
(a) o dan baragraff 9.1 (y Cynllun Teuluoedd o Wcráin), 19.1 (y Cynllun Noddi Cartrefi i Wcráin) neu 27.1 (y Cynllun Estyn Cyfnod Gwladolion o Wcráin) o Atodiad Cynllun Wcráin i’r rheolau mewnfudo, neu
(b) y tu allan i’r rheolau mewnfudo—
(i) pan oedd y person yn preswylio yn Wcráin yn union cyn 1 Ionawr 2022, a
(ii) pan adawodd y person Wcráin mewn cysylltiad â’r ymosodiad gan Rwsia a ddigwyddodd ar 24 Chwefror 2022.”
55 
Yn Atodlen 4, yn Nhabl 3, yn y lle priodol mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y tabl—“
“gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir” Atodlen 2, paragraff 2C(2)”
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
5 Gorffennaf 2022