
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2022.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 28 Ionawr 2022.
2 

(1) Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 6—
(a) ym mharagraff (4), yn lle “7 niwrnod” rhodder “5 niwrnod”;
(b) ym mharagraff (5), yn lle “7 niwrnod” rhodder “5 niwrnod”.
(3) Yn rheoliad 7—
(a) ym mharagraff (4), yn lle “7 niwrnod” rhodder “5 niwrnod”;
(b) ym mharagraff (5), yn lle “7 niwrnod” rhodder “5 niwrnod”.
(4) Hepgorer rheoliad 10B.
(5) O flaen rheoliad 11 mewnosoder—“
10C. 

(1) Pan fo’n ofynnol i oedolyn beidio ag ymadael â’r man lle y mae’r oedolyn yn byw, neu fod y tu allan iddo, yn unol â rheoliad 6(2) yn union cyn i Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2022 ddod i rym, mae diwrnod olaf ynysiad yr oedolyn i’w bennu yn unol â rheoliad 6(4) neu (5) fel y’i diwygir gan y Rheoliadau hynny.
(2) Pan fo’n ofynnol i blentyn beidio ag ymadael â’r man lle y mae’r plentyn yn byw, neu fod y tu allan iddo, yn unol â rheoliad 7(2) yn union cyn i Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2022 ddod i rym, mae diwrnod olaf ynysiad y plentyn i’w bennu yn unol â rheoliad 7(4) neu (5) fel y’i diwygir gan y Rheoliadau hynny.”
Mark Drakeford
Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
26 Ionawr 2022