
RHAN 1
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) (Rhif 2) 2022.
(2) Daw Rhan 1 i rym ar 1 Medi 2022.
(3) Daw Rhan 2 i rym fel y’i nodir yn y rheoliadau unigol.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “addysg feithrin” (“nursery education”) yw addysg a ddarperir i blant neu ddisgyblion sy’n iau na’r oedran ysgol gorfodol—
(a) mewn ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir, neu
(b) gan ddarparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir;
 mae i “addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir” (“funded non-maintained nursery education”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 80(1)(a) o Ddeddf 2021;
 ystyr “blwyddyn 1” (“year 1”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 6 oed ynddo;
 ystyr “blwyddyn 3” (“year 3”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 8 oed ynddo;
 ystyr “blwyddyn 4” (“year 4”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 9 oed ynddo;
 ystyr “blwyddyn 5” (“year 5”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 10 oed ynddo;
 ystyr “blwyddyn 6” (“year 6”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 11 oed ynddo;
 ystyr “blwyddyn 7” (“year 7”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 12 oed ynddo;
 ystyr “blwyddyn 8” (“year 8”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 13 oed ynddo;
 ystyr “blwyddyn 9” (“year 9”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 14 oed ynddo;
 ystyr “blwyddyn 10” (“year 10”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 15 oed ynddo;
 ystyr “blwyddyn derbyn” (“reception year”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn cyrraedd 5 oed ynddo;
 mae i “cwricwlwm perthnasol” (“relevant curriculum”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 56(5) o Ddeddf 2021;
 ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996;
 ystyr “Deddf 2021” (“the 2021 Act”) yw Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021;
 mae i “disgybl” yr ystyr a roddir i “pupil” yn adran 3 o Ddeddf 1996;
 ystyr “grŵp blwyddyn” (“year group”) yw grŵp o blant neu ddisgyblion mewn lleoliad y bydd y rhan fwyaf ohonynt, mewn blwyddyn academaidd benodol, yn cyrraedd yr un oedran;
 ystyr “lleoliad” (“setting”) yw—
(a) ysgol a gynhelir,
(b) ysgol feithrin a gynhelir,
(c) darparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir, a
(d) uned cyfeirio disgyblion;
 mae i “pennaeth” yr ystyr a roddir i “head teacher” yn adran 579(1) o Ddeddf 1996;
 mae i “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 79(1)(a) o Ddeddf 2021;
 mae i “ysgol feithrin a gynhelir” (“maintained nursery school”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 79(1)(b) o Ddeddf 2021.
RHAN 2
3 
Caiff Rheoliadau Addysg (Datgymhwyso’r Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghyfnod Allweddol 1) (Cymru) 2005 eu dirymu ar 1 Medi 2022.
4 
Caiff Rheoliadau Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru) (Datgymhwyso Gwyddoniaeth yng Nghyfnod Allweddol 4) 2006 eu dirymu ar 1 Medi 2022.
5 

(1) Mae Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Ieithoedd Tramor Modern) (Cymru) 2008 (“Gorchymyn 2008”) yn gymwys fel a ganlyn.
(2) Ar 1 Medi 2022, nid yw Gorchymyn 2008 yn gymwys i ddisgyblion ym mlwyddyn 7 mewn ysgol a gynhelir pan fo’r pennaeth a’r corff llywodraethu wedi mabwysiadu cwricwlwm perthnasol ar gyfer y disgyblion blwyddyn 7 hynny o dan Ran 2 o Ddeddf 2021.
(3) O 1 Medi 2023, nid yw Gorchymyn 2008 yn gymwys i ddisgyblion ym mlynyddoedd 7 neu 8 mewn ysgol a gynhelir.
(4) Caiff Gorchymyn 2008 ei ddirymu ar 1 Medi 2024.
6 

(1) Mae Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio) (Cymru) 2008 (“Gorchymyn 2008”) yn gymwys fel a ganlyn.
(2) O 1 Medi 2022, nid yw erthyglau 4 i 15 yn gymwys i ddisgyblion ym mlynyddoedd 3, 4, 5 a 6 mewn ysgol a gynhelir.
(3) Ar 1 Medi 2022, nid yw erthyglau 4 i 15 yn gymwys i ddisgyblion ym mlwyddyn 7 mewn ysgol a gynhelir pan fo’r pennaeth a’r corff llywodraethu wedi mabwysiadau cwricwlwm perthnasol ar gyfer y disgyblion blwyddyn 7 hynny o dan Ran 2 o Ddeddf 2021.
(4) O 1 Medi 2023, nid yw erthyglau 4 i 15 yn gymwys i ddisgyblion ym mlynyddoedd 7 neu 8 mewn ysgol a gynhelir.
(5) O 1 Medi 2024, nid yw erthyglau 4 i 15 yn gymwys i ddisgyblion ym mlwyddyn 9 mewn ysgol a gynhelir.
(6) O 1 Medi 2025, nid yw erthyglau 6, 10, 13, 14 a 15 yn gymwys i ddisgyblion ym mlwyddyn 10 mewn ysgol a gynhelir.
(7) Caiff y Gorchmynion a ganlyn eu dirymu ar 1 Medi 2026—
(a) Gorchymyn 2008; a
(b) Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio) (Cymru) (Diwygio) 2015.
7 
Caiff Rheoliadau Addysg (Datgymhwyso Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru yng Nghyfnod Allweddol 1) (Cymru) 2008 eu dirymu ar 1 Medi 2022.
8 

(1) Mae Rheoliadau Addysg (Cwricwlwm Lleol ar gyfer Disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4) (Cymru) 2009 (“Rheoliadau 2009”) yn gymwys fel a ganlyn.
(2) O 1 Medi 2024, nid yw Rheoliadau 2009 yn gymwys i ddisgyblion ym mlwyddyn 9 mewn ysgol a gynhelir.
(3) Caiff y Rheoliadau a ganlyn eu dirymu ar 1 Medi 2026—
(a) Rheoliadau 2009,
(b) rheoliad 8 o Reoliadau Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2010,
(c) Rheoliadau Addysg (Cwricwlwm Lleol ar gyfer Disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4) (Cymru) (Diwygio) 2014, a
(d) rheoliad 10 o Reoliadau Deddf Cymwysterau Cymru 2015 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016.
9 

(1) Mae Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) 2011 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Ar 1 Medi 2022—
(a) mae rheoliad 2 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
(i) hepgorer y diffiniadau o “asesiadau statudol”, “cyfnod allweddol” a “cyfnod sylfaen”,
(ii) yn y diffiniad o “categori iaith”, yn lle’r geiriau “Diffinio ysgolion” hyd at “Cylchlythyr 023/2007” rhodder “Canllawiau ar gategoreiddio ysgolion yn ôl y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg” a gyhoeddwyd gyntaf gan Weinidogion Cymru ar 16 Rhagfyr 2021”, a
(iii) yn y lleoedd priodol mewnosoder y diffiniadau a ganlyn—“
 ystyr “blwyddyn 11” (“year 11”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y grŵp blwyddyn yn cyrraedd 16 oed ynddi;”;“
 ystyr “blwyddyn meithrin” (“nursery year”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y grŵp blwyddyn yn cyrraedd 4 oed ynddi;” a
(b) mae Atodlen 2 wedi ei diwygio fel a ganlyn—
(i) ym mharagraff 11, hepgorer “gan gynnwys y ddarpariaeth a wnaed ar gyfer gweithgareddau chwaraeon allgwricwlaidd yn ystod y cyfnod hwnnw”, a
(ii) ym mharagraff 17, yn lle is-baragraff (a) rhodder—“
(a) defnydd o’r Gymraeg fel iaith yr addysgu i ddisgyblion ym mhob blwyddyn o’r flwyddyn meithrin hyd at flwyddyn 11 a’r graddau y mae addysgu arall ar gael yn Saesneg;”.
10 

(1) Mae Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol (Cymru) 2012 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Ar 1 Medi 2022—
(a) mae rheoliad 3 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
(i) yn y lleoedd priodol mewnosoder y diffiniadau a ganlyn—“
 ystyr “blwyddyn 11” (“year 11”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 16 oed ynddo;”,“
 ystyr “blwyddyn meithrin” (“nursery year”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn cyrraedd 4 oed ynddi;”,“
 ystyr “Cwricwlwm i Gymru” (“Curriculum for Wales”) yw’r cwricwlwm a fabwysiedir neu a ddarperir o dan Ran 2 neu 3 o Ddeddf 2021;”,“
 ystyr “Deddf 2021” (“the 2021 Act”) yw Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021;”, a
(b) yn lle paragraff 1(c)(i) o Atodlen 2 rhodder—“
(i) yn gyfan gwbl neu’n bennaf mewn ysgol neu sefydliad addysgol arall (ac eithrio uned cyfeirio disgyblion) yng Nghymru—(aa) y mae, neu yr oedd, Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru yn cael ei addysgu ynddi neu ynddo mewn perthynas â’r cyfnod sylfaen, neu’r ail gyfnod allweddol, y trydydd cyfnod allweddol neu’r pedwerydd cyfnod allweddol, fel y bo’n briodol i’r ysgol neu’r sefydliad,(bb) pan fo’r Cwricwlwm i Gymru yn cael ei addysgu mewn perthynas â’r flwyddyn meithrin hyd at flwyddyn 11, neu(cc) pan fo’r cyfnod o hyfforddiant yr ymgymerwyd ag ef gan y person wedi cynnwys addysgu o dan Gwricwlwm Cenedlaethol Cymru ac o dan y Cwricwlwm i Gymru);”.
11 

(1) Mae Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Rhaglenni Addysgol ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a Rhaglenni Astudio at gyfer yr Ail Gyfnod Allweddol a’r Trydydd Cyfnod Allweddol) (Cymru) 2013 (“Gorchymyn 2013”) yn gymwys fel a ganlyn.
(2) O 1 Medi 2022, nid yw Gorchymyn 2013 yn gymwys—
(a) i blant a disgyblion—
(i) sy’n cael addysg feithrin mewn ysgol feithrin a gynhelir neu ysgol a gynhelir, neu
(ii) sy’n cael addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir,
(b) i ddisgyblion yn eu blwyddyn derbyn, ac
(c) i ddisgyblion ym mlynyddoedd 1 i 6.
(3) Ar 1 Medi 2023, nid yw Gorchymyn 2013 yn gymwys i ddisgyblion ym mlwyddyn 7 mewn ysgol a gynhelir pan fo’r pennaeth a’r corff llywodraethu wedi mabwysiadu cwricwlwm perthnasol ar gyfer y disgyblion blwyddyn 7 hynny o dan Ran 2 o Ddeddf 2021.
(4) O 1 Medi 2023, nid yw Gorchymyn 2013 yn gymwys i ddisgyblion ym mlynyddoedd 7 neu 8 mewn ysgol a gynhelir.
(5) Caiff Gorchymyn 2013 ei ddirymu ar 1 Medi 2024.
12 

(1) Mae Rheoliadau’r Cwricwlwm Cenedlaethol (Diwygiadau sy’n ymwneud â Rhaglenni Addysgol ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a Rhaglenni Astudio ar gyfer yr Ail Gyfnod Allweddol a’r Trydydd Cyfnod Allweddol) (Cymru) 2013 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Caiff rheoliad 2 ei ddirymu ar 1 Medi 2022.
13 
Caiff Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Cyfnod Sylfaen) (Cymru) 2014 ei ddirymu ar 1 Medi 2022.
14 

(1) Mae Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Datblygu Ysgolion) (Cymru) 2014 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Ar 1 Medi 2022—
(a) yn rheoliad 2(1)—
(i) yn lle’r diffiniad o “blaenoriaethau cenedlaethol” rhodder y canlynol—“
 ystyr “blaenoriaethau cenedlaethol” (“national priorities”) yw—
(a) gwella cynnydd disgyblion drwy sicrhau bod eu dysgu wedi ei gefnogi gan ystod o wybodaeth, sgiliau a phrofiad;
(b) lleihau effaith tlodi ar gynnydd a chyrhaeddiad disgyblion;”,
(ii) hepgorer y diffiniad o “canlyniadau cyrhaeddiad”, a
(iii) hepgorer y diffiniad o “gwybodaeth ysgol gymharol”; a
(b) hepgorer rheoliad 8.
15 

(1) Mae Rheoliadau Addysg (Diwygiadau sy’n Ymwneud â Gwybodaeth Asesiadau Athrawon) (Cymru) 2018 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Ar 1 Medi 2022, hepgorer rheoliad 10(a).
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
15 Mehefin 2022