
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Diwygio Gorchymyn Cychwyn Rhif 5 a Gorchymyn Cychwyn Rhif 6) 2022.
2 

(1) Mae Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 5 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2021 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 9(2), ar ôl “y flwyddyn ysgol 2021-2022” mewnosoder “neu’r flwyddyn ysgol 2022-2023”.
(3) Yn erthygl 10(1), yn lle “mewn dosbarth meithrin neu ym mlwyddyn 1, blwyddyn 5, blwyddyn 9 neu flwyddyn” rhodder “ym mlwyddyn”.
(4) Yn erthygl 15—
(a) ym mharagraff 1(c), yn lle “2022” rhodder “2023”;
(b) ym mharagraff (2), yn lle “2022” rhodder “2023”.
(5) Yn erthygl 16(1)(b) yn lle “mewn dosbarth meithrin neu ym mlwyddyn 1, blwyddyn 5, blwyddyn 9 neu flwyddyn” rhodder “ym mlwyddyn”.
3 

(1) Mae Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 6 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2021 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 9(2), ar ôl “y flwyddyn ysgol 2021-2022” mewnosoder “neu’r flwyddyn ysgol 2022-2023”.
(3) Yn erthygl 10(1), yn lle “mewn dosbarth meithrin neu ym mlwyddyn 1, blwyddyn 5, blwyddyn 9 neu flwyddyn” rhodder “ym mlwyddyn”.
(4) Yn erthygl 15—
(a) ym mharagraff (1)(c), yn lle “2022” rhodder “2023”;
(b) ym mharagraff (2), yn lle “2022” rhodder “2023”.
(5) Yn erthygl 16(1)(b) yn lle “mewn dosbarth meithrin neu ym mlwyddyn 1, blwyddyn 5, blwyddyn 9 neu flwyddyn” rhodder “ym mlwyddyn”.
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
Am 4.31 p.m. ar 10 Mehefin 2022