
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Darparu Gwybodaeth gan Benaethiaid i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2022.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2022—
(a) ar gyfer disgyblion mewn dosbarth meithrin mewn ysgol a gynhelir;
(b) ar gyfer disgyblion yn eu blwyddyn derbyn mewn ysgol a gynhelir;
(c) ar gyfer disgyblion ym mlynyddoedd 1, 2, 3, 4, 5 a 6 mewn ysgol a gynhelir;
(d) ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 7 mewn ysgol a gynhelir pan fo’r pennaeth a’r corff llywodraethu wedi mabwysiadu cwricwlwm perthnasol o dan Ran 2 o Ddeddf 2021;
(e) ar gyfer disgyblion ym mlynyddoedd 1, 2, 3, 4, 5 a 6 mewn uned cyfeirio disgyblion;
(f) ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 7 mewn uned cyfeirio disgyblion pan fo gan yr awdurdod lleol, y pwyllgor rheoli (os oes un) a’r athro neu’r athrawes sydd â chyfrifoldeb gwricwlwm ar gyfer yr uned honno sy’n bodloni gofynion adran 50 o Ddeddf 2021.
(3) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2023—
(a) ar gyfer disgyblion ym mlynyddoedd 7 ac 8 mewn ysgol a gynhelir;
(b) ar gyfer disgyblion ym mlynyddoedd 7 ac 8 mewn uned cyfeirio disgyblion.
(4) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2024—
(a) ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 9 mewn ysgol a gynhelir;
(b) ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 9 mewn uned cyfeirio disgyblion.
(5) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2025—
(a) ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 10 mewn ysgol a gynhelir;
(b) ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 10 mewn uned cyfeirio disgyblion.
(6) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2026—
(a) ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 11 mewn ysgol a gynhelir;
(b) ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 11 mewn uned cyfeirio disgyblion.
(7) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2027 ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 12 mewn ysgol a gynhelir.
(8) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2028 ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 13 mewn ysgol a gynhelir.
(9) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol;
 ystyr “blwyddyn 1” (“year 1”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 6 oed ynddo;
 ystyr “blwyddyn 2” (“year 2”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 7 oed ynddo;
 ystyr “blwyddyn 3” (“year 3”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 8 oed ynddo;
 ystyr “blwyddyn 4” (“year 4”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 9 oed ynddo;
 ystyr “blwyddyn 5” (“year 5”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 10 oed ynddo;
 ystyr “blwyddyn 6” (“year 6”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 11 oed ynddo;
 ystyr “blwyddyn 7” (“year 7”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 12 oed ynddo;
 ystyr “blwyddyn 8” (“year 8”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 13 oed ynddo;
 ystyr “blwyddyn 9” (“year 9”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 14 oed ynddo;
 ystyr “blwyddyn 10” (“year 10”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 15 oed ynddo;
 ystyr “blwyddyn 11” (“year 11”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 16 oed ynddo;
 ystyr “blwyddyn 12” (“year 12”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 17 oed ynddo;
 ystyr “blwyddyn 13” (“year 13”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 18 oed ynddo;
 ystyr “blwyddyn derbyn” (“reception year”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 5 oed ynddo;
 ystyr “blwyddyn meithrin” (“nursery year”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 4 oed ynddo;
 mae i “blwyddyn ysgol” yr ystyr a roddir i “school year” yn adran 579(1) o Ddeddf 1996;
 ystyr “cofnod presenoldeb” (“attendance record”) yw cofnod o bresenoldeb disgybl yn yr ysgol yn ôl y gofrestr bresenoldeb a gedwir yn unol ag adran 434 o Ddeddf 1996 a Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010;
 mae i “cwricwlwm perthnasol” (“relevant curriculum”) yr ystyr a roddir iddo—
(a) yn adran 56(5)(a) o Ddeddf 2021 mewn perthynas ag ysgol a gynhelir; a
(b) yn adran 56(5)(c) o Ddeddf 2021 mewn perthynas ag UCD;
 mae “cymhwyster perthnasol a gymeradwywyd” (“approved relevant qualification”) yn gymhwyster o fewn ystyr adran 56 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015;
 ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996;
 ystyr “Deddf 2021” (“the 2021 Act”) yw Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021;
 mae i “disgybl” yr ystyr a roddir i “pupil” yn adran 3 o Ddeddf 1996;
 mae i “disgybl cofrestredig” yr ystyr a roddir i “registered pupil” yn adran 434(5) o Ddeddf 1996;
 ystyr “disgybl sy’n oedolyn” (“adult pupil”) yw disgybl sy’n 18 oed neu’n hŷn ar yr adeg y mae’r wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 4 neu reoliad 5 yn cael ei rhoi ar gael ac nad yw’n bwriadu ymadael â’r ysgol erbyn diwedd y flwyddyn ysgol;
 mae i “diwrnod ysgol” yr ystyr a roddir i “school day” yn adran 579(1) o Ddeddf 1996;
 mae i “oedran ysgol gorfodol” yr ystyr a roddir i “compulsory school age” yn adran 8 o Ddeddf Addysg 1996;
 mae i “rhiant” yr ystyr a roddir i “parent” yn adran 576 o Ddeddf 1996;
 ystyr “swyddog lles addysg” (“education welfare officer”) yw unrhyw berson a gyflogir gan awdurdod lleol, ac y mae ei ddyletswyddau’n cynnwys sicrhau bod disgyblion o oedran ysgol gorfodol yn bresennol yn rheolaidd yn yr ysgol;
 ystyr “tymor ysgol” (“school term”) yw’r dyddiadau y mae tymhorau a gwyliau ysgol i ddechrau a gorffen arnynt;
 mae i “uned cyfeirio disgyblion (UCD)” (“pupil referral unit (PRU)”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 81(1) o Ddeddf 2021;
 ystyr “uned neu gredyd” (“unit or credit”), mewn perthynas â chymhwyster, yw modiwl neu ran o gwrs sy’n arwain at y cymhwyster hwnnw y gellir, pan fo wedi ei gwblhau neu wedi ei chwblhau yn llwyddiannus, ei gyfrif neu ei chyfrif ynghyd â modiwlau neu rannau eraill tuag at ennill y cymhwyster hwnnw;
 ystyr “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yw—
(a) ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol,
(b) ysgol arbennig gymunedol neu ysgol arbennig sefydledig (ac eithrio un a sefydlwyd mewn ysbyty),
(c) ysgol feithrin a gynhelir, a
(d) uned cyfeirio disgyblion.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, mae unrhyw gyfeiriad mewn perthynas ag UCD—
(a) at bennaeth yn gyfeiriad at athro neu athrawes sydd â chyfrifoldeb am UCD, neu
(b) at gorff llywodraethu yn gyfeiriad at bwyllgor rheoli (os oes un) ac at athro neu athrawes sydd â chyfrifoldeb am UCD os nad oes pwyllgor rheoli.
3 

(1) Mae Rheoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2011 (“Rheoliadau 2011”) wedi eu datgymhwyso fel a ganlyn.
(2) Nid yw Rheoliadau 2011 yn gymwys—
(a) o’r flwyddyn ysgol 2022 i 2023 i blant a disgyblion—
(i) yn y flwyddyn meithrin,
(ii) yn y flwyddyn derbyn,
(iii) ym mlwyddyn 1, blwyddyn 2, blwyddyn 3, blwyddyn 4, blwyddyn 5 a blwyddyn 6, a
(iv) ym mlwyddyn 7 pan ddarperir cwricwlwm perthnasol iddynt yn unol â Deddf 2021,
(b) o’r flwyddyn ysgol 2023 i 2024 i ddisgyblion ym mlwyddyn 7 a blwyddyn 8,
(c) o’r flwyddyn ysgol 2024 i 2025 i ddisgyblion ym mlwyddyn 9,
(d) o’r flwyddyn ysgol 2025 i 2026 i ddisgyblion ym mlwyddyn 10,
(e) o’r flwyddyn ysgol 2026 i 2027 i ddisgyblion ym mlwyddyn 11,
(f) o’r flwyddyn ysgol 2027 i 2028 i ddisgyblion ym mlwyddyn 12, ac
(g) o’r flwyddyn ysgol 2028 i 2029 i ddisgyblion ym mlwyddyn 13.
(3) Caiff y Rheoliadau yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn eu dirymu o 1 Medi 2028.
4 

(1) Rhaid i bennaeth pob ysgol a gynhelir wneud trefniadau ar gyfer darparu’r wybodaeth yn Rhan 1 o Atodlen 2 (“yr wybodaeth o dymor i dymor”).
(2) Rhaid i’r wybodaeth o dymor i dymor gael ei darparu cyn diwedd pob tymor ysgol.
(3) Rhaid i’r wybodaeth o dymor i dymor gael ei rhoi ar gael—
(a) i bob disgybl sy’n oedolyn,
(b) i riant pob disgybl sy’n oedolyn (os yw’r pennaeth yn ystyried bod amgylchiadau arbennig sy’n gwneud hynny’n briodol), neu
(c) i riant pob disgybl yn achos pob disgybl cofrestredig arall yn yr ysgol.
(4) Caniateir i’r wybodaeth o dymor i dymor gael ei darparu ar unrhyw ffurf y mae’r pennaeth yn ystyried yn rhesymol ei bod yn briodol.
5 

(1) Rhaid i bennaeth pob ysgol a gynhelir wneud trefniadau ar gyfer darparu (“yr wybodaeth flynyddol”)—
(a) mewn perthynas â disgyblion hyd at a chan gynnwys blwyddyn 9, yr wybodaeth yn Rhan 2 o Atodlen 2,
(b) mewn perthynas â disgyblion hyd at a chan gynnwys blwyddyn 9 ac sydd wedi eu cofrestru ar gyfer cymhwyster perthnasol a gymeradwywyd, yr wybodaeth yn Rhannau 2 a 3 o Atodlen 2, ac
(c) mewn perthynas â disgyblion ym mlynyddoedd 10 ac 11, yr wybodaeth yn Rhannau 2 a 3 o Atodlen 2.
(2) Caniateir i’r wybodaeth flynyddol gael ei darparu ar unrhyw ffurf y mae’r pennaeth yn ystyried yn rhesymol ei bod yn briodol.
(3) Rhaid i’r wybodaeth flynyddol gael ei rhoi ar gael cyn diwedd pob blwyddyn ysgol.
(4) Nid oes dim yn y rheoliad hwn sy’n atal cynnwys yr wybodaeth flynyddol mewn mwy nag un ddogfen ar yr amod bod y pennaeth, yn ddarostyngedig i reoliad 6(2), yn darparu’r wybodaeth honno cyn diwedd y flwyddyn ysgol.
(5) Rhaid i’r wybodaeth flynyddol gael ei rhoi ar gael—
(a) i bob disgybl sy’n oedolyn,
(b) i riant pob disgybl sy’n oedolyn (os yw’r pennaeth yn ystyried bod amgylchiadau arbennig sy’n gwneud hynny’n briodol), neu
(c) i riant pob disgybl yn achos pob disgybl cofrestredig arall yn yr ysgol.
(6) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw ddisgybl y mae adroddiad i ddisgybl sy’n ymadael â’r ysgol i’w ddarparu iddo yn unol â rheoliad 8.
6 

(1) Mae’r cyfnod y mae’r wybodaeth flynyddol a bennir yn rheoliad 5 yn ymwneud ag ef yn dechrau gyda’r diweddaraf o’r canlynol—
(a) dyddiad derbyn y disgybl i’r ysgol, neu
(b) diwedd y cyfnod y gwnaed yr adroddiad diwethaf ar faterion o’r fath ynddo o dan y Rheoliadau hyn neu o dan Reoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2011.
(2) Pan na fo unrhyw un neu ragor o’r manylion sy’n angenrheidiol i ddarparu’r wybodaeth a bennir yn Rhan 3 o Atodlen 2 wedi dod i law’r pennaeth tan ar ôl diwedd tymor yr haf, rhaid i’r pennaeth roi’r wybodaeth honno ar gael cyn gynted ag y bo’n ymarferol a beth bynnag heb fod yn hwyrach na 30 Medi wedi hynny.
7 

(1) Os yw unrhyw berson a nodir yn rheoliad 5(5) yn ystyried nad yw’r wybodaeth flynyddol a ddarperir yn cynnwys yr holl wybodaeth sy’n ofynnol gan reoliad 5, caiff y person hwnnw ofyn i’r pennaeth ddarparu’r wybodaeth sydd ar goll.
(2) Rhaid i unrhyw gais yn unol â pharagraff (1)—
(a) cael ei wneud yn ysgrifenedig, a
(b) nodi’r wybodaeth y gofynnir amdani.
(3) Rhaid i’r pennaeth gydymffurfio â chais o’r fath o fewn 15 niwrnod ysgol i’w gael.
(4) Nid yw paragraff (1) yn gymwys os yw’r wybodaeth y cyfeirir ati yn y cais wedi cael ei rhoi ar gael yn flaenorol i’r disgybl sy’n oedolyn neu i riant y disgybl o dan y Rheoliadau hyn.
8 

(1) Rhaid i bennaeth pob ysgol a gynhelir sicrhau bod adroddiad sy’n cynnwys yr wybodaeth y cyfeirir ati yn Rhan 4 o Atodlen 2 yn cael ei roi ar gael i unrhyw ddisgybl sydd wedi peidio â bod o’r oedran ysgol gorfodol ac sy’n bwriadu ymadael â’r ysgol neu sydd wedi ymadael â’r ysgol.
(2) Rhaid i’r adroddiad fod yn ysgrifenedig a chaniateir iddo fod ar ffurf electronig.
(3) O ran yr adroddiad—
(a) rhaid i’r rhan o’r adroddiad y mae’r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraffau 16, 17 a 19 o Atodlen 2 yn cael ei rhoi ar gael ynddi ddarparu ar gyfer llofnod gan y disgybl (“y rhan gyntaf”);
(b) rhaid i’r rhan o’r adroddiad sy’n cynnwys y rhan gyntaf a’r rhan o’r adroddiad y mae’r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraffau 16 a 18 o Atodlen 2 yn cael ei rhoi ar gael ynddi ddarparu ar gyfer llofnod gan athro sy’n gyfarwydd â’r disgybl a chyflawniadau’r disgybl hwnnw.
(4) Caniateir i unrhyw lofnod a ddarperir yn unol â pharagraff (3) gael ei ddarparu’n electronig.
9 
Rhaid i’r adroddiad yn rheoliad 8 gael ei roi ar gael i’r disgybl heb fod yn hwyrach na 30 Medi ar ôl diwedd y flwyddyn ysgol yr ymadawodd y disgybl â’r ysgol ynddi neu ar ei diwedd.
10 

(1) Nid oes dim yn y Rheoliadau hyn sy’n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw wybodaeth gael ei rhoi ar gael—
(a) sy’n deillio o unrhyw berson, neu sy’n cael ei darparu gan unrhyw berson neu ar ei ran, ac eithrio’r canlynol—
(i) un o gyflogeion yr awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol,
(ii) yn achos ysgol wirfoddol a gynorthwyir, athro neu athrawes neu gyflogai arall yn yr ysgol (gan gynnwys seicolegydd addysgol a gymerir ymlaen gan y corff llywodraethu o dan gontract am wasanaethau),
(iii) swyddog lles addysg,
(iv) y person sy’n gofyn am y datgeliad, neu
(b) i’r graddau y byddai’n datgelu, neu y byddai’n galluogi rhywun i gasglu, pwy yw person fel ffynhonnell yr wybodaeth neu fel person y mae’r wybodaeth honno yn ymwneud ag ef—
(i) ac eithrio’r disgybl y mae’r wybodaeth honno yn ymwneud ag ef, neu
(ii) person a grybwyllir ym mharagraff (1)(a).
(2) Nid oes dim yn y Rheoliadau hyn sy’n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw wybodaeth gael ei rhoi ar gael—
(a) i’r graddau y byddai ei datgelu yn debygol, ym marn y pennaeth, o achosi niwed difrifol i iechyd corfforol neu iechyd meddwl neu gyflwr emosiynol y disgybl y mae’r wybodaeth yn ymwneud ag ef neu unrhyw berson arall, neu
(b) i’r graddau y mae, ym marn y pennaeth, yn berthnasol i’r cwestiwn a yw’r disgybl y mae’n ymwneud ag ef yn destun, neu wedi bod yn destun, cam-drin plant neu y gallai wynebu risg o gamdriniaeth o’r fath.
(3) Yn y rheoliad hwn, mae “cam-drin plant” yn cynnwys anafu plentyn yn gorfforol (ac eithrio yn ddamweiniol), ac esgeuluso plentyn yn gorfforol neu’n emosiynol, ei drin yn wael neu ei gam-drin yn rhywiol.
11 

(1) Os yw’n ymddangos yn angenrheidiol i bennaeth unrhyw ysgol a gynhelir y dylai unrhyw ddogfen neu unrhyw wybodaeth y mae’n ofynnol iddi gael ei rhoi ar gael o dan y Rheoliadau hyn sydd wedi ei darparu yn y Gymraeg gael ei chyfieithu i’r Saesneg, rhaid ei chyfieithu felly ac mae’r Rheoliadau hyn i fod yn gymwys i’r ddogfen neu’r wybodaeth a gyfieithir felly fel y maent yn gymwys i’r ddogfen neu’r wybodaeth wreiddiol.
(2) Os yw’n ymddangos yn angenrheidiol i bennaeth unrhyw ysgol a gynhelir y dylai unrhyw ddogfen neu unrhyw wybodaeth y mae’n ofynnol iddi gael ei rhoi ar gael o dan y Rheoliadau hyn sydd wedi ei darparu yn Saesneg gael ei chyfieithu i’r Gymraeg, rhaid ei chyfieithu felly ac mae’r Rheoliadau hyn i fod yn gymwys i’r ddogfen neu’r wybodaeth a gyfieithir felly fel y maent yn gymwys i’r ddogfen neu’r wybodaeth wreiddiol.
(3) Os yw’n ymddangos yn angenrheidiol i bennaeth unrhyw ysgol a gynhelir y dylai unrhyw ddogfen neu unrhyw wybodaeth y mae’n ofynnol iddi gael ei rhoi ar gael o dan y Rheoliadau hyn gael ei chyfieithu i iaith ac eithrio’r Gymraeg neu’r Saesneg, neu y dylai fersiwn Braille neu fersiwn tâp sain o’r ddogfen neu’r wybodaeth honno fod ar gael, rhaid ei chyfieithu felly neu ei chynhyrchu ar ffurf Braille neu dâp sain, yn ôl y digwydd, ac mae’r Rheoliadau hyn i fod yn gymwys i’r ddogfen a gyfieithir, yr wybodaeth a gyfieithir, y fersiwn Braille neu’r fersiwn sain fel y maent yn gymwys i’r ddogfen neu’r wybodaeth wreiddiol.
(4) Ni chaniateir codi tâl am gopi o unrhyw wybodaeth a gyfieithir neu a gynhyrchir yn unol â pharagraffau (1), (2) neu (3), ond pan fo tâl yn cael ei godi am gopi o ddogfen wreiddiol, ni chaniateir codi tâl uwch am gopi o’r ddogfen a gyfieithir neu a gynhyrchir felly.
12 
Yn rheoliad 3 o Reoliadau Gwybodaeth am Ddisgyblion (Cymru) 2011, yn lle paragraff (1) rhodder—“
(1) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “cofnod cwricwlaidd” (“curricular record”) yw cofnod ffurfiol o gyflawniadau academaidd disgybl, sgiliau a galluoedd eraill y disgybl a’i gynnydd yn yr ysgol, fel y manylir arno—
(a) mewn perthynas â’r disgyblion hynny y darperir addysg iddynt o dan yr hen gwricwlwm, yn yr Atodlen i Reoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2011, neu
(b) mewn perthynas â’r disgyblion hynny y darperir addysg iddynt o dan y cwricwlwm newydd, yn Rheoliadau Darparu Gwybodaeth gan Benaethiaid i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2022.
(2A) Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at ddisgyblion y darperir addysg iddynt “o dan yr hen gwricwlwm” yn gyfeiriadau at y plant hynny a’r disgyblion hynny y mae Rhan 2, 3, neu 5 o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 yn gymwys iddynt, ond nad yw’r Rhan berthnasol o’r Ddeddf honno wedi dod i rym eto mewn perthynas â hwy.
(2B) Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at ddisgyblion y darperir addysg iddynt “o dan y cwricwlwm newydd” yn gyfeiriadau at y plant hynny a’r disgyblion hynny y mae Rhan 2, 3 neu 5 o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 yn gymwys iddynt, ac y mae’r Rhan berthnasol o’r Ddeddf honno wedi dod i rym mewn perthynas â hwy.”
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
15 Mehefin 2022
ATODLEN 1
Rheoliad 3(3)


Y Rheoliadau sydd wedi eu dirymu Y Cyfeirnodau Graddau’r dirymu
Rheoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2011 O.S. 2011/1943 (Cy. 210) Y Rheoliadau cyfan
Rheoliadau’r Cwricwlwm Cenedlaethol (Diwygiadau sy’n ymwneud â Rhaglenni Addysgol ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a Rhaglenni Astudio ar gyfer yr Ail Gyfnod Allweddol a’r Trydydd Cyfnod Allweddol) (Cymru) 2013 O.S. 2013/437 (Cy. 53) Rheoliad 3
Rheoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) (Diwygio) 2014 O.S. 2014/1998 (Cy. 199) Y Rheoliadau cyfan
Rheoliadau Deddf Cymwysterau Cymru 2015 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 O.S. 2016/236 (Cy. 88) Rheoliad 12
Rheoliadau’r Cwricwlwm Cenedlaethol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2016 O.S. 2016/837 (Cy. 211) Rheoliad 4
Rheoliadau Addysg (Diwygiadau sy’n Ymwneud â Gwybodaeth Asesiadau Athrawon) (Cymru) 2018 O.S. 2018/766 (Cy. 153) Rheoliad 4
Rheoliadau Llacio’r Gofynion Adrodd mewn Ysgolion (Cymru) (Coronafeirws) 2020 O.S. 2020/729 (Cy. 164) Rheoliad 3
Rheoliadau Llacio’r Gofynion Adrodd mewn Ysgolion (Cymru) (Coronafeirws) 2021 O.S. 2021/612 (Cy. 163) Rheoliad 3
Rheoliadau Addysg (Dirymu Trefniadau Asesu yn y Cwricwlwm Cenedlaethol a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2022 O.S. 2022/517 (Cy. 124) Rheoliad 9
ATODLEN 2
Rheoliad 4
RHAN 1
1 
Sylwadau cryno am les y disgybl.
2 
Sylwadau cryno am gynnydd a dysgu allweddol y disgybl.
3 
Crynodeb byr o anghenion cynnydd allweddol y disgybl a’r camau nesaf i gefnogi cynnydd y disgybl hwnnw.
4 
Cyngor cryno ar sut y gall y rhieni gefnogi cynnydd eu plentyn.
RHAN 2
5 
Sylwadau cryno am y cynnydd mewn dysgu ar draws y cwricwlwm perthnasol.
6 
Sylwadau cryno am ganlyniadau’r asesiadau a gynhelir o dan Orchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu ar gyfer Darllen a Rhifedd) (Cymru) 2013.
7 
Crynodeb byr o anghenion cynnydd y disgybl a’r camau nesaf i gefnogi cynnydd y disgybl hwnnw.
8 
Cyngor cryno ar sut y gall rhieni gefnogi cynnydd eu plentyn.
9 
Sylwadau cryno am les y disgybl.
10 
Crynodeb byr o’r cymwysterau a enillwyd.
11 
Crynodeb o gofnod presenoldeb y disgybl yn ystod y cyfnod y mae’r wybodaeth yn ymwneud ag ef sy’n dangos nifer yr absenoldebau awdurdodedig ac anawdurdodedig (o fewn ystyr Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010) a nifer y presenoldebau posibl.
12 
Manylion y trefniadau y caniateir i riant y disgybl, neu yn achos disgybl sy’n oedolyn, y disgybl, drafod yr wybodaeth a ddarperir ag athrawon y disgybl oddi tanynt.
RHAN 3
13 
Enw unrhyw bwnc y cofrestrwyd y disgybl ar ei gyfer mewn cysylltiad â chymhwyster perthnasol a gymeradwywyd a’r radd (os oes un) a gafwyd.
14 
Manylion unrhyw gymhwyster perthnasol a gymeradwywyd neu unrhyw uned neu gredyd tuag at gymhwyster o’r fath a gafodd y disgybl yn ystod y cyfnod y mae’r wybodaeth yn ymwneud ag ef na chyfeirir ato neu ati yn rhywle arall yn yr Atodlen hon.
15 
Manylion cryno am gyflawniadau’r disgybl mewn unrhyw faes dysgu, gan gynnwys Tystysgrif Graidd Cymhwyster Bagloriaeth Cymru, nas crybwyllir yn rhywle arall yn yr Atodlen hon sy’n rhan o’r cwricwlwm ysgol ac am sgiliau a galluoedd y disgybl ac ynghylch cynnydd cyffredinol y disgybl yn yr ysgol yn ystod y cyfnod y mae’r wybodaeth yn ymwneud ag ef.
RHAN 4
16 
Enw’r disgybl.
17 
Ysgol y disgybl.
18 
Manylion unrhyw gymhwyster perthnasol a gymeradwywyd ac unrhyw uned neu gredyd tuag at gymhwyster o’r fath a ddyfarnwyd i’r disgybl.
19 
Manylion cryno am gynnydd y disgybl a’i gyflawniadau mewn pynciau (ac eithrio’r rheini y mae’r disgybl wedi cyflawni unrhyw gymhwyster perthnasol a gymeradwywyd neu unrhyw uned neu gredyd tuag at gymhwyster o’r fath ynddynt).
20 
Manylion cryno am gynnydd y disgybl mewn unrhyw weithgareddau sy’n rhan o’r cwricwlwm ysgol, yn y flwyddyn ysgol yr ymadawodd y disgybl â’r ysgol ynddi neu ar ei diwedd.