
RHAN 1
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Adolygu Harbwr Abertawe (Cau Doc Tywysog Cymru) 2022.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 26 Mai 2022.
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “beic jet” (“jet bike”) yw unrhyw fad dŵr (nad yw’n strwythur sydd, oherwydd ei siâp ceugrwm, yn darparu hynofedd ar gyfer cludo personau neu nwyddau) sy’n cael ei yrru gan injan jet ddŵr neu ddull mecanyddol arall o yrru ac sy’n cael ei lywio naill ai—
(a) drwy gyfrwng system gysylltwaith a weithredir â bar handlenni (gyda neu heb lyw yn y starn),
(b) gan y person neu’r personau sy’n reidio’r bad gan ddefnyddio pwysau ei gorff neu bwysau eu cyrff at y diben hwnnw, neu
(c) drwy gyfuniad o’r dulliau y cyfeirir atynt yn (a) a (b);
 ystyr “Deddf 1874” (“the 1874 Act”) yw Deddf Harbwr Abertawe 1874;
 ystyr “Deddf 1894” (“the 1894 Act”) yw Deddf Harbwr Abertawe 1894;
 ystyr “Deddf 1901” (“the 1901 Act”) yw Deddf Harbwr Abertawe 1901;
 ystyr “Deddfau Harbwr Abertawe 1874 – 1901” (“the Swansea Harbour Acts 1874 – 1901”) yw Deddf 1874, Deddf 1894 a Deddf 1901 gyda’i gilydd;
 ystyr “Doc Tywysog Cymru” (“the Prince of Wales Dock”) yw’r doc a’r gweithfeydd cysylltiedig sy’n ffurfio rhan o Borthladd Abertawe a awdurdodwyd gan Ddeddfau Harbwr Abertawe 1874 – 1901 ac a ddangosir ag ymyl coch ar blan Doc Tywysog Cymru;
 ystyr “y docfeistr” (“the dock master”) yw unrhyw berson a benodir yn ddocfeistr Porthladdoedd AB ym Mhorthladd Abertawe ac unrhyw berson arall sydd am y tro wedi ei awdurdodi gan Borthladdoedd AB i weithredu, naill ai yn gyffredinol neu at ddiben penodol, yn rhinwedd docfeistr;
 mae “llestr” (“vessel”) yn cynnwys llong, cwch, cwch preswyl, rafft, ysgraff neu fad dŵr o unrhyw ddisgrifiad, sut bynnag y caiff ei yrru neu ei symud, ac mae’n cynnwys badau nad ydynt yn dadleoli, beic jet, bad dŵr personol, awyren fôr ar arwyneb y dŵr, llestr hydroffoil, hofrenfad neu unrhyw gerbyd amffibiaidd arall ac unrhyw beth arall a adeiladwyd neu a addaswyd ar gyfer arnofio ar ddŵr neu fod wedi ymsuddo mewn dŵr (boed yn barhaol neu dros dro);
 ystyr “meistr” (“master”) mewn perthynas â llestr yw unrhyw berson a chanddo neu sy’n cymryd llywyddiaeth, cyfrifoldeb, rheolaeth neu arweiniad dros y llestr am y tro;
 ystyr “plan Doc Tywysog Cymru” (“the Prince of Wales Dock plan”) yw’r plan a nodir yn Atodlen 2;
 ystyr “plan terfynau porthladd Porthladd Abertawe” (“the Port of Swansea port limits plan”) yw’r plan a nodir yn Atodlen 1;
 ystyr “Porthladd Abertawe” (“the Port of Swansea”) yw’r dociau a’r harbwr sy’n ffurfio ymgymeriad Porthladdoedd AB yn Abertawe y mae ei derfynau wedi eu hamlinellu ym mhlan terfynau porthladd Porthladd Abertawe;ystyr “Porthladdoedd AB” (“AB Ports”) yw Associated British Ports.
RHAN 2
3 

(1) Caiff Porthladdoedd AB, ar ddiwrnod o fewn 42 o ddiwrnodau gan ddechrau pan ddaw’r Gorchymyn hwn i rym, gau Doc Tywysog Cymru.
(2) Pan gaeir Doc Tywysog Cymru o dan baragraff (1)—
(a) mae Doc Tywysog Cymru yn peidio â ffurfio rhan o Borthladd Abertawe;
(b) mae pob dyletswydd a rhwymedigaeth a osodir ar Borthladdoedd AB o dan Ddeddfau Harbwr Abertawe 1874 – 1901 mewn cysylltiad â Doc Tywysog Cymru i ddod i ben;
(c) mae unrhyw hawliau mordwyo, a phob un ohonynt, o fewn Doc Tywysog Cymru wedi eu diddymu;
(d) mae unrhyw ddyletswyddau neu rwymedigaethau, a phob un ohonynt, i gynnal sianel fordwyol i Ddoc Tywysog Cymru o fewn yr ardal a ddangosir â llinellau glas ar blan Doc Tywysog Cymru neu i gynnal pont droi ar draws yr ardal honno wedi ei diddymu.
(3) Cyn arfer y pŵer a roddir iddo gan baragraff (1) rhaid i Borthladdoedd AB—
(a) cyhoeddi hysbysiad o’i fwriad i gau Doc Tywysog Cymru yn Lloyd’s List ac unwaith ym mhob un o ddwy wythnos olynol mewn papur newydd lleol a gyhoeddir neu sy’n cylchredeg yn Abertawe gyda chyfnod rhwng y dyddiadau cyhoeddi nad yw’n llai na chwe diwrnod gwaith;
(b) arddangos copi o un o’r hysbysiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff 3(a) mewn lle amlwg yng nghyffiniau Porthladd Abertawe;
(c) rhoi hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru o’i fwriad i gau Doc Tywysog Cymru.
(4) Rhaid i’r hysbysiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff 3(a)—
(a) datgan bod Porthladdoedd AB yn bwriadu cau Doc Tywysog Cymru i lestrau a’r dyddiad y mae Doc Tywysog Cymru i gau i lestrau ohono;
(b) pennu dyddiad, sy’n ddyddiad nad yw’n gynharach nag un mis ar ôl dyddiad y diweddaraf o’r tri hysbysiad ym mharagraff (3)(a) erbyn pryd y mae rhaid i bob llestr gael ei symud o Ddoc Tywysog Cymru.
4 

(1) Pan gaeir Doc Tywysog Cymru yn unol ag erthygl 3, mae Deddfau Harbwr Abertawe 1874 – 1901, gan gynnwys unrhyw gytundeb sydd wedi ei atodi i unrhyw un neu ragor o’r Deddfau hynny, yn peidio â bod yn gymwys i Ddoc Tywysog Cymru.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i—
(a) adran 6 (pŵer i ddargyfeirio dŵr i’r dociau) o Ddeddf 1874;
(b) adran 7 (pŵer i ddargyfeirio dŵr i’r dociau) o Ddeddf 1894;
(c) adran 7 (pŵer i gymryd dŵr a’i ddargyfeirio) o Ddeddf 1901.
5 

(1) Os nad yw meistr unrhyw lestr sydd o fewn Doc Tywysog Cymru yn symud y llestr cyn y dyddiad a bennir yn unol ag erthygl 3(4)(b), caiff y docfeistr beri i’r llestr honno gael ei symud o Ddoc Tywysog Cymru a’i hangori neu ei gosod yn unrhyw le arall lle y gall, heb niwed, gael ei hangori neu ei gosod.
(2) Caiff Porthladdoedd AB adennill fel dyled gan feistr unrhyw lestr a symudir o dan baragraff (1) bob traul resymol yr eir iddi mewn cysylltiad â’i symud.
6 
Os yw unrhyw lestr yn mynd i Ddoc Tywysog Cymru ar ôl y dyddiad a bennir yn erthygl 3(4)(b) o’r Gorchymyn hwn, caiff y docfeistr gyfarwyddo meistr y llestr i symud y llestr o Ddoc Tywysog Cymru, ac os nad yw meistr y llestr yn cydymffurfio heb oedi gormodol â chyfarwyddydau o’r fath, mae erthygl 5 yn gymwys i’r llestr fel pe bai’r llestr wedi bod o fewn Doc Tywysog Cymru cyn y dyddiad hwnnw.
Lee Waters
Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, yn gweithredu o dan awdurdod y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
24 Mai 2022
Atodlen 1
Erthygl 2

Atodlen 2
Erthygl 2
