
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diwygio’r Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022 a daw i rym ar 14 Mehefin 2022.
2 

(1) Mae adran 66 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn is-adran (2BB)—
(a) yn lle “140”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “252”;
(b) yn lle “70”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “182”.
3 

(1) Mewn perthynas â diwrnod asesu sy’n digwydd cyn 1 Ebrill 2023, mae’r cyfeiriadau at 252 a 182 a fewnosodir gan erthygl 2 yn adran 66(2BB) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 i’w dehongli fel cyfeiriadau at 140 a 70 yn y drefn honno.
(2) Yn yr erthygl hon, ystyr “diwrnod asesu” yw’r diwrnod y mae’r cwestiwn yn cael ei ystyried mewn perthynas ag ef o dan adran 66(2BB) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
20 Mai 2022