
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2022.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 6.00 a.m. ar 21 Ionawr 2022.
2 

(1) Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 16ZA(1)—
(a) yn is-baragraff (a), yn lle “i’r” rhodder “i rannau o dan do’r”;
(b) yn is-baragraff (b)—
(i) ym mharagraff (i), ar ôl “bwyd neu ddiod” mewnosoder “o dan do”;
(ii) ym mharagraff (ii), ar ôl “bwyd neu ddiod iddynt” mewnosoder “o dan do”;
(iii) ym mharagraff (iii), ar ôl “bwyta neu’n yfed” mewnosoder “o dan do”.
(3) Yn rheoliad 28(3)(b), hepgorer “neu (2A)”;
(4) Yn rheoliad 37—
(a) ym mharagraff (1)(b), hepgorer “, (2A)”;
(b) ym mharagraff (2)(b)—
(i) ym mharagraff (i), hepgorer “neu” ar y diwedd;
(ii) hepgorer paragraff (ii).
(5) Yn Atodlen 2—
(a) ym mharagraff 2—
(i) yn is-baragraff (1)(a), hepgorer “neu yn yr awyr agored mewn mangre reoleiddiedig,”;
(ii) hepgorer is-baragraff (2A);
(iii) yn is-baragraff (4), yn y geiriau o flaen paragraff (a) hepgorer “, (2A)”;
(iv) hepgorer is-baragraff (6)(j).
(b) ym mharagraff 4—
(i) yn is-baragraff (1), yn lle’r geiriau o “oni bai—” hyd at ddiwedd paragraff (c) rhodder “a gynhelir i unrhyw raddau o dan do.”;
(ii) yn is-baragraff (2)—(aa) hepgorer paragraff (g);(bb) ym mharagraff (j)(ii), hepgorer “neu pan y’i cynhelir yn yr awyr agored”;
(iii) hepgorer is-baragraff (3)(b).
Mark Drakeford
Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
Am 3.12 p.m. ar 20 Ionawr 2022