
RHAN 1
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Rhannu Swydd a Chynorthwywyr Gweithrediaeth) 2022.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 13 Mai 2022.
RHAN 2
2 

(1) Mae Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn adran 12 (aelodaeth pwyllgor gwasanaethau democrataidd)—
(a) yn is-adran (2)(b), ar ôl “weithrediaeth yr awdurdod” mewnosoder “(ond gweler is-adran (6))”;
(b) ar ôl is-adran (5) mewnosoder—“
(6) Os penodir dau neu ragor o aelodau awdurdod lleol i’r weithrediaeth i rannu swydd, caniateir penodi mwy nag un o’r aelodau hynny i bwyllgor gwasanaethau democrataidd yr awdurdod (ac os y’u penodir hwy felly, gyda’i gilydd maent yn cyfrif fel un aelod gweithrediaeth at ddibenion is-adran (2)(b)).”
(3) Yn adran 14 (trafodion pwyllgor gwasanaethau democrataidd), ar ôl is-adran (4) mewnosoder—“
(4A) Os yw dau neu ragor o aelodau pwyllgor gwasanaethau democrataidd yn aelodau o’r weithrediaeth sy’n rhannu swydd, mae gan yr aelodau hynny un bleidlais rhyngddynt at ddibenion is-adran (4).”
(4) Yn adran 15 (pa mor aml y cynhelir cyfarfodydd pwyllgor gwasanaethau democrataidd), ar ôl is-adran (2) mewnosoder—“
(2A) Os yw dau neu ragor o aelodau pwyllgor gwasanaethau democrataidd yn aelodau o’r weithrediaeth sy’n rhannu swydd, nid yw’r aelodau hynny gyda’i gilydd ond yn cyfrif fel un aelod o’r pwyllgor at ddibenion is-adran (2)(b).”
(5) Yn adran 82 (aelodaeth pwyllgor llywodraethu ac archwilio)—
(a) yn is-adran (2)(c), ar ôl “weithrediaeth yr awdurdod” mewnosoder “(ond gweler is-adran (8))”;
(b) ar ôl is-adran (7) mewnosoder—“
(8) Os yw dau neu ragor o aelodau awdurdod lleol wedi eu penodi i’r weithrediaeth i rannu swydd, caniateir penodi mwy nag un o’r aelodau hynny i bwyllgor llywodraethu ac archwilio yr awdurdod (ac os y’u penodir hwy felly, gyda’i gilydd maent yn cyfrif fel un aelod gweithrediaeth at ddibenion is-adran (2)(c)).”
(6) Yn adran 83 (trafodion pwyllgor llywodraethu ac archwilio), ar ôl is-adran (3) mewnosoder—“
(3A) Os yw dau neu ragor o aelodau pwyllgor llywodraethu ac archwilio yn aelodau o’r weithrediaeth sy’n rhannu swydd, mae gan yr aelodau hynny un bleidlais rhyngddynt at ddibenion is-adran (3).”
(7) Yn adran 84 (pa mor aml y cynhelir cyfarfodydd pwyllgor llywodraethu ac archwilio), ar ôl is-adran (2) mewnosoder—“
(2A) Os yw dau neu ragor o aelodau pwyllgor llywodraethu ac archwilio yn aelodau o’r weithrediaeth sy’n rhannu swydd, nid yw’r aelodau hynny gyda’i gilydd ond yn cyfrif fel un aelod o’r pwyllgor at ddibenion is-adran (2)(b).”
RHAN 3
3 

(1) Mae Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2, yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder—“
 mae i “cynorthwyydd gweithrediaeth” yr un ystyr ag a roddir i “assistant to the executive” ym mharagraff 3A o Atodlen 1 i Ddeddf 2000;”.
(3) Yn rheoliad 3, ar ôl paragraff (2) mewnosoder—“
(3) Os yw dau neu ragor o aelodau pwyllgor safonau yn aelodau o’r weithrediaeth sy’n rhannu swydd, nid yw’r aelodau hynny gyda’i gilydd ond yn cyfrif fel un aelod o’r pwyllgor at ddibenion paragraffau (1) a (2).”
(4) Yn rheoliad 5, ar ôl paragraff (2) mewnosoder—“
(3) Os yw dau neu ragor o aelodau pwyllgor safonau yn aelodau o’r weithrediaeth sy’n rhannu swydd, nid yw’r aelodau hynny gyda’i gilydd ond yn cyfrif fel un aelod o’r pwyllgor at ddibenion paragraffau (1) a (2).”
(5) Yn rheoliad 9—
(a) ym mharagraff (1), yn lle “gynnwys mwy nag un aelod gweithredol o’r awdurdod hwnnw.” rhodder—“gynnwys mwy nag un o’r rhai a ganlyn—
(a) aelod gweithrediaeth o’r awdurdod hwnnw (ond gweler paragraff (3)), neu
(b) cynorthwyydd i’w weithrediaeth.”;
(b) ym mharagraff (2), yn lle “gynnwys mwy nag un aelod gweithredol o bob un awdurdod lleol cyfansoddol.” rhodder—“gynnwys mwy nag un o’r rhai a ganlyn o bob un awdurdod lleol cyfansoddol—
(a) aelod gweithrediaeth (ond gweler paragraff (3)), neu
(b) cynorthwyydd gweithrediaeth.”;
(c) ar ôl paragraff (2) mewnosoder—“
(3) Os yw dau neu ragor o aelodau awdurdod lleol yn cael eu penodi i’r weithrediaeth i rannu swydd—
(a) caiff pwyllgor safonau gynnwys mwy nag un o’r aelodau hynny, ac os yw’n gwneud hynny, gyda’i gilydd maent yn cyfrif fel un aelod gweithrediaeth at ddibenion paragraff (1)(a);
(b) caiff cyd-bwyllgor gynnwys mwy nag un o’r aelodau hynny o awdurdod lleol cyfansoddol, ac os yw’n gwneud hynny, gyda’i gilydd mae’r aelodau hynny’n cyfrif fel un aelod gweithrediaeth at ddibenion paragraff (2)(a).”
(6) Yn rheoliad 23, ar ôl paragraff (3) mewnosoder—“
(4) Os yw dau neu ragor o aelodau pwyllgor safonau yn aelodau o’r weithrediaeth sy’n rhannu swydd, mae gan yr aelodau hynny un bleidlais rhyngddynt at ddibenion paragraff (2).”
(7) Yn rheoliad 24, ar ôl paragraff (3) mewnosoder—“
(4) Os yw dau neu ragor o aelodau pwyllgor safonau yn aelodau o’r weithrediaeth sy’n rhannu swydd, nid yw’r aelodau hynny gyda’i gilydd ond yn cyfrif fel un aelod o’r pwyllgor at ddibenion paragraffau (1) a (2).”
4 
Yng Ngorchymyn Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithredol a Threfniadau Amgen) (Addasu Deddfiadau a Darpariaethau Eraill) (Cymru) 2002, yn erthygl 41(6), ar ôl “adran 11(8)” mewnosoder “neu 11(8ZA)”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
11 Mai 2022