
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2022 a deuant i rym ar 28 Ebrill 2022.
2 
Mae Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
3 
Yn rheoliad 3 (personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo sy’n gymwys i gael dyraniad o lety tai)—
(a) hepgorer yr “a” yn union ar ôl paragraff (j);
(b) ar ddiwedd paragraff (k), yn lle “.” rhodder “; ac”;
(c) ar ôl paragraff (k) mewnosoder—“
(1) Dosbarth L – person y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn rhinwedd Atodiad Cynllun Wcráin y Rheolau Mewnfudo.”
4 
Yn rheoliad 4(2) (personau eraill o dramor sy’n anghymwys i gael dyraniad o lety tai)—
(a) hepgorer yr “ac” ar ôl is-baragraff (h);
(b) ar ddiwedd is-baragraff (i), yn lle “.” rhodder “; a”;
(c) ar ôl is-baragraff (i) mewnosoder—“
(j) person a oedd yn preswylio yn Wcráin yn union cyn 1 Ionawr 2022 ac a adawodd Wcráin mewn cysylltiad â’r ymosodiad gan Rwsia a ddigwyddodd ar 24 Chwefror 2022.”
5 
Yn rheoliad 5(1) (personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo sy’n gymwys i gael cymorth tai)—
(a) hepgorer yr “ac” yn union ar ôl is-baragraff (k);
(b) ar ddiwedd is-baragraff (l), yn lle “.” rhodder “; ac”;
(c) ar ôl is-baragraff (l) mewnosoder—“
(m) Dosbarth M – person y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn rhinwedd Atodiad Cynllun Wcráin y Rheolau Mewnfudo.”
6 
Yn rheoliad 6(2) (personau eraill o dramor sy’n anghymwys i gael cymorth tai)—
(a) hepgorer yr “ac” ar ôl is-baragraff (h);
(b) ar ddiwedd is-baragraff (i), yn lle “.” rhodder “; a”;
(c) ar ôl is-baragraff (i) mewnosoder—“
(j) person a oedd yn preswylio yn Wcráin yn union cyn 1 Ionawr 2022 ac a adawodd Wcráin mewn cysylltiad â’r ymosodiad gan Rwsia a ddigwyddodd ar 24 Chwefror 2022.”
Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
27 Ebrill 2022