
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2022.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 20 Mai 2022.
2 
Mae Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) 2017 wedi eu diwygio yn unol â rheoliad 3.
3 
Yn rheoliad 10(1) (terfyn amser ar gyfer cyflwyno datganiadau blynyddol)—
(a) yn lle “2019-2020 neu 2020-2021” rhodder “2019-2020, 2020-2021 neu 2021-2022”;
(b) yn lle “26 Mai 2022” rhodder “31 Hydref 2022”.
Julie Morgan
Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
25 Ebrill 2022