
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Cod Ymarfer Diwygiedig ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â Rhan 4 (taliadau uniongyrchol a dewis o lety) a Rhan 5 (codi ffioedd ac asesiadau ariannol) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwrnod Penodedig) 2022.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Cod Diwygiedig” yw’r Cod Ymarfer ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â Rhan 4 (taliadau uniongyrchol a dewis o lety) a Rhan 5 (codi ffioedd ac asesiadau ariannol) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, y gosodwyd drafft ohono, yn unol ag adran 146(2) o’r Ddeddf honno, gerbron Senedd Cymru ar 4 Chwefror 2022 ac a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru ar 4 Ebrill 2022.
2 
Y diwrnod penodedig i’r Cod Diwygiedig ddod i rym yw 11 Ebrill 2022.
Julie Morgan
Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
Am 12.00 p.m. ar 4 Ebrill 2022