
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Llywodraeth Leol (Awdurdodau Perthnasol) (Pŵer i Fasnachu) (Cymru) 2022 a daw i rym ar 5 Mai 2022.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “awdurdod perthnasol” (“relevant authority”) yw—
(a) cynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol;
(b) cynghorau cymuned sy’n gynghorau cymuned cymwys o fewn ystyr adran 30(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (“Deddf 2021”);
(c) awdurdodau Parciau Cenedlaethol;
(d) awdurdodau tân ac achub, a gyfansoddwyd drwy gynllun o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 neu gynllun y mae adran 4 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddo;
(e) cydbwyllgorau corfforedig a sefydlwyd drwy reoliadau a wnaed o dan Ran 5 o Ddeddf 2021;
 ystyr “cwmni” (“company”) yw cwmni o fewn ystyr Rhan 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989;
 mae i “swyddogaethau cyffredin” yr ystyr a roddir i “ordinary functions” yn adran 95(7) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003.
2 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), mae awdurdod perthnasol wedi ei awdurdodi i wneud at ddiben masnachol unrhyw beth y’i awdurdodir i’w wneud at ddiben cyflawni unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau cyffredin.
(2) Cyn arfer y pŵer a roddir gan baragraff (1), rhaid i’r awdurdod perthnasol—
(a) llunio achos busnes i gefnogi’r bwriad i arfer y pŵer, a
(b) cymeradwyo’r achos busnes hwnnw.
(3) Ystyr “achos busnes” o dan erthygl 2(2) yw datganiad cynhwysfawr ynghylch—
(a) nodau ac amcanion y bwriad i arfer y pŵer;
(b) y costau, y buddsoddiadau a’r adnoddau eraill y mae eu hangen er mwyn cyflawni’r nodau a’r amcanion hynny;
(c) y canlyniadau ariannol y disgwylir y bydd y bwriad i arfer y pŵer yn eu cyflawni;
(d) unrhyw ganlyniadau perthnasol eraill y disgwylir y bydd y bwriad i arfer y pŵer yn eu cyflawni;
(e) unrhyw risgiau sy’n gysylltiedig â’r bwriad i arfer y pŵer gan gynnwys asesiad o ddifrifoldeb y risgiau hynny, ac unrhyw gamau y mae’r awdurdod yn bwriadu eu cymryd i liniaru’r risgiau hynny;
(f) yr effaith (gan gynnwys yr effaith ar delerau ac amodau cyflogaeth) ar unrhyw staff y mae’n bwriadu eu cyflenwi i gwmni y mae’n bwriadu arfer y pŵer drwyddo;
(g) y trefniadau bwriadedig ar gyfer staffio’r cwmni y mae’n bwriadu arfer y pŵer drwyddo, gan gynnwys telerau ac amodau cyflogaeth arfaethedig unrhyw staff sydd i’w cyflogi.
3 
Rhaid i awdurdod perthnasol gyhoeddi unrhyw achos busnes a gymeradwyir yn unol â rheoliad 2(2)(b) cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
4 
Rhaid i awdurdod perthnasol adennill costau unrhyw adeiladau ac ystafelloedd, nwyddau, gwasanaethau, staff neu unrhyw beth arall a gyflenwir ganddo i gwmni y mae’n arfer y pŵer a roddir gan erthygl 2(1) drwyddo, oddi wrth y cwmni hwnnw.
5 
Mae Gorchymyn Llywodraeth Leol (Awdurdodau Gwerth Gorau) (Pŵer i Fasnachu) (Cymru) 2006 wedi ei ddirymu.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
4 Ebrill 2022