
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Anheddau Gwag Hirdymor ac Anheddau a Feddiennir yn Gyfnodol) (Cymru) 2022.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2022.
2 
Yn adrannau 12A(1)(b) a 12B(1)(b) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, yn lle “100” rhodder “300”.
3 
At ddiben y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2022 yn unig, mae’r cyfeiriadau at “300” a fewnosodir gan reoliad 2 yn adran 12A(1)(b) a 12B(1)(b) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 i’w dehongli fel cyfeiriadau at “100”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
23 Mawrth 2022