
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaeth Drosiannol) (Prif Weithredwyr) 2022.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 5 Mai 2022.
2 

(1) Mae Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Contractau) 1997 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 7(3) (llofnodi tystysgrifau – awdurdodau â phrif swyddog cyllid), ar ôl “1989 Act” mewnosoder “other than a county council or county borough council in Wales,”.
(3) Ar ôl rheoliad 7(3), mewnosoder—“
(4) A county council or county borough council in Wales which is under a duty to appoint a chief executive under section 54 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021 must ensure that a certificate issued by it is signed by one of the following officers of the council—
(a) one of the statutory chief officers within the meaning given to that expression in section 2(6) of the 1989 Act;
(b) a non-statutory chief officer within the meaning given to that expression in section 2(7) of the 1989 Act; or
(c) a deputy chief officer within the meaning given to that expression in section 2(8) of the 1989 Act.”
3 

(1) Mae Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli)—
(a) yn y diffiniad o “prif swyddog”, yn lle paragraff (a) rhodder—“
(a) ei brif weithredwr;”;
(b) hepgorer y diffiniad o “pennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod”;
(c) yn y lle priodol, mewnosoder—“
 ystyr “prif weithredwr” (“chief executive”) yw’r person a benodir yn brif weithredwr o dan adran 54 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021;”.
(3) Yn rheoliad 7(2)(a) (rheolau sefydlog yn ymwneud â staff), yn lle “pennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod” rhodder “prif weithredwr yr awdurdod”.
(4) Yn rheoliad 8(1) (rheolau sefydlog o ran camau disgyblu), yn lle “pennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod” rhodder “prif weithredwr yr awdurdod”.
(5) Yn lle rheoliad 9(1A)(a) (ymchwilio i gamymddwyn honedig) rhodder—“
(a) prif weithredwr yr awdurdod;”.
(6) Yn Rhan 1 o Atodlen 3 (awdurdod gyda maer a chabinet gweithredol)—
(a) ym mharagraff 2, yn lle’r geiriau o “y swyddog a ddynodwyd” hyd at y diwedd, rhodder “y person a benodwyd yn brif weithredwr yr awdurdod neu gan swyddog a enwebwyd gan brif weithredwr yr awdurdod”;
(b) yn lle paragraff 3(1)(a) rhodder—“
(a) y person a benodwyd yn brif weithredwr yr awdurdod;”;
(c) ym mharagraff 4(1), yn lle “swyddog a ddynodwyd yn bennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod” rhodder “person a benodwyd yn brif weithredwr yr awdurdod”.
(7) Yn Rhan 2 o Atodlen 3 (awdurdod gydag arweinydd a chabinet gweithredol)—
(a) ym mharagraff 2, yn lle’r geiriau o “y swyddog a ddynodwyd” hyd at y diwedd, rhodder “y person a benodwyd yn brif weithredwr yr awdurdod neu gan swyddog a enwebwyd gan brif weithredwr yr awdurdod”;
(b) yn lle paragraff 3(1)(a) rhodder—“
(a) y person a benodwyd yn brif weithredwr yr awdurdod;”;
(c) ym mharagraff 4(1), yn lle “swyddog a ddynodwyd yn bennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod” rhodder “person a benodwyd yn brif weithredwr yr awdurdod”.
(8) Yn Atodlen 4 (darpariaethau i’w hymgorffori yn y rheolau sefydlog parthed camau disgyblu)—
(a) ym mharagraff 1, yn lle “pennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod” (“head of the authority’s paid service”) rhodder ““prif weithredwr” (“chief executve”)”;
(b) ym mharagraff 2(1), yn lle “pennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod” rhodder “prif weithredwr yr awdurdod”.
4 

(1) Mae paragraff 12 o Ran Ff (swyddogaethau amrywiol) o’r tabl yn Atodlen 1 (swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod) i Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2007 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle’r cofnod yng ngholofn 1, rhodder “Y ddyletswydd i benodi prif weithredwr, ac i ddarparu staff, etc.”
(3) Yn lle’r cofnod yng ngholofn 2, rhodder “Adran 54(1) a (6) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.”
5 
Yng Ngorchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2008, ym mharagraff 8(a)(i) o Ran 1 o’r Atodlen (y cod ymddygiad enghreifftiol), ar y diwedd mewnosoder “ar gyfer awdurdodau heblaw cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol, a phrif weithredwr yr awdurdod os yw’r awdurdod yn gyngor sir neu’n gyngor bwrdeistref sirol”.
6 
Yn Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Darganfod Twyll a Gorfodi) (Cymru) 2013, yn lle rheoliad 3(5)(a) (awdurdodiadau gan awdurdodau bilio) rhodder—“
(a) y prif weithredwr a benodwyd o dan adran 54 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021; neu”.
7 

(1) Yn Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014, mae rheoliad 9(8) (datganiad o dâl) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn y diffiniad o “prif weithredwr”—
(a) ym mharagraff (a), hepgorer y geiriau “gyngor sir neu’n gyngor bwrdeistref sirol,”;
(b) ar ôl is-baragraff (a) mewnosoder—“
(aa) yn achos corff perthnasol sy’n gyngor sir neu’n gyngor bwrdeistref sirol, y prif weithredwr a benodwyd o dan adran 54 o Ddeddf 2021;”.
(3) Yn y diffiniad o “cyflogai hŷn”, yn lle paragraff (a)(i) rhodder—“
(i) yn achos corff perthnasol heblaw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol, wedi ei ddynodi yn bennaeth y gwasanaeth cyflogedig o dan adran 4 o’r Ddeddf honno, ac yn achos cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol, wedi ei benodi yn brif weithredwr o dan adran 54 o Ddeddf 2021;”.
8 
Yn Rheoliadau Atal Twyll Tai Cymdeithasol (Darganfod Twyll) (Cymru) 2014, yn lle rheoliad 3(5)(a) (awdurdodiad gan awdurdodau lleol) rhodder—“
(a) y swyddog a benodwyd yn brif weithredwr o dan adran 54 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021; neu”.
9 

(1) Mae’r swyddog a ddynodwyd yn bennaeth gwasanaeth taledig y cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol yn union cyn 5 Mai 2022 i’w drin fel y prif weithredwr a benodwyd o dan adran 54 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.
(2) Nid yw’r swyddog a ddynodwyd yn bennaeth gwasanaeth taledig y cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol yn union cyn 5 Mai 2022 yn ddarostyngedig i’r broses benodi o dan baragraffau 1 a 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Reoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006 at ddibenion paragraff (1).
10 
Mae rheoliad 11 (darpariaethau trosiannol a chanlyniadol) o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006 wedi ei ddirymu.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
22 Mawrth 2022