
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Diogelu Eiddo mewn Anheddau y Cefnwyd Arnynt) (Cymru) 2022 a deuant i rym ar y diwrnod y mae adran 239 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn dod i rym.
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 y “cyfnod rhagnodedig” (“prescribed period”) yw pedair wythnos o’r diwrnod y daw’r contract meddiannaeth i ben o dan adran 220 o’r Ddeddf;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016;
 ystyr “eiddo” (“property”) yw eiddo (heblaw eiddo’r landlord) sydd yn yr annedd pan ddaw’r contract meddiannaeth i ben o dan adran 220 o’r Ddeddf;
 mae “gwaredu” (“disposal”) yn cynnwys gwerthu eiddo, ond nid yw’n gyfyngedig i hynny.
(2) Mae i’r geiriau a’r ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr un ystyr ag sydd iddynt yn y Ddeddf.
3 

(1) Rhaid ymdrin ag eiddo sydd mewn annedd pan ddaw’r contract meddiannaeth i ben o dan adran 220 o’r Ddeddf yn unol â’r Rheoliadau hyn.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i’r landlord ddiogelu’r eiddo am y cyfnod rhagnodedig.
(3) Ar ôl i’r cyfnod rhagnodedig ddod i ben, caiff y landlord waredu unrhyw eiddo sy’n weddill.
(4) Nid yw paragraffau (2) a (3) yn gymwys i eiddo—
(a) sy’n ddarfodus,
(b) y byddai ei ddiogelu yn ddigonol yn golygu costau neu anhwylustod afresymol, neu
(c) na fyddai ei werth, ym marn y landlord, yn fwy na’r swm y caiff y landlord ei ddidynnu o dan reoliad 5(1) o’r enillion o werthu’r eiddo hwnnw,
ac yn yr achosion hynny caiff y landlord waredu’r eiddo hwnnw ar unrhyw adeg ac mewn unrhyw fodd y mae’n meddwl eu bod yn briodol.
4 

(1) Ar unrhyw adeg cyn gwaredu unrhyw eiddo o dan baragraff (3) neu (4) o reoliad 3, caiff deiliad y contract, neu unrhyw berson yr ymddengys i’r landlord fod ganddo hawl perchnogaeth neu feddiant yn yr eiddo, drefnu i draddodi’r eiddo hwnnw i ddeiliad y contract neu’r person arall hwnnw.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), pan drefnir traddodi o dan baragraff (1), rhaid i’r landlord ildio gofal o’r eiddo hwnnw.
(3) Caiff y landlord ei gwneud yn ofynnol i unrhyw swm, fel y gwêl y landlord yn addas, sy’n gyfwerth â, neu’n llai na, swm unrhyw dreuliau yr aeth y landlord iddynt wrth gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn, gael ei dalu iddo cyn ildio gofal o eiddo o dan y rheoliad hwn.
5 

(1) Caiff y landlord ddefnyddio unrhyw enillion o waredu eiddo o dan baragraff (3) neu (4) o reoliad 3 i dalu treuliau yr aeth y landlord iddynt wrth gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
(2) Os oes unrhyw swm yn weddill, yn dilyn defnyddio’r enillion o dan baragraff (1), caiff y landlord, ar ôl i’r cyfnod rhagnodedig ddod i ben, ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw ôl-ddyledion rhent sy’n ddyledus o dan y contract meddiannaeth.
6 
Nid yw adran 41 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 yn gymwys i eiddo sydd mewn annedd y mae awdurdod lleol yn berchen arni neu’n ei rheoli pan fydd contract meddiannaeth mewn perthynas â’r annedd honno yn dod i ben o dan adran 220 o’r Ddeddf.
Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
8 Mawrth 2022