
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Cynlluniau Blaendal) (Gwybodaeth Ofynnol) (Cymru) 2022 a deuant i rym ar y diwrnod y mae adran 239 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn dod i rym.
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016.
(2) Mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr un ystyr ag sydd iddynt yn y Ddeddf.
3 

(1) Mae’r wybodaeth a ganlyn yn wybodaeth ofynnol at ddibenion adran 45(3) o’r Ddeddf—
(a) enw, cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost gweinyddwr cynllun y cynllun blaendal sy’n gymwys i’r blaendal,
(b) unrhyw wybodaeth a gyflenwir gan weinyddwr y cynllun i’r landlord sy’n egluro’r modd y gweithredir adrannau 45 i 47 o’r Ddeddf ac Atodlen 5 iddi,
(c) y gweithdrefnau sy’n gymwys o dan y cynllun blaendal lle y caniateir i swm mewn cysylltiad â blaendal gael ei dalu neu ei ad-dalu i ddeiliad y contract ar ddiwedd y contract meddiannaeth,
(d) y gweithdrefnau sy’n gymwys o dan y cynllun blaendal pan na fo’n bosibl cysylltu â naill ai’r landlord neu ddeiliad y contract ar ddiwedd y contract meddiannaeth,
(e) y gweithdrefnau sy’n gymwys o dan y cynllun blaendal pan fo anghydfod rhwng y landlord a deiliad y contract ynghylch y swm sydd i’w dalu neu i’w ad-dalu i ddeiliad y contract mewn cysylltiad â’r blaendal,
(f) y cyfleusterau sydd ar gael o dan y cynllun blaendal er mwyn galluogi datrys anghydfod sy’n ymwneud â’r blaendal heb droi at ymgyfreitha, ac
(g) yr wybodaeth a ganlyn mewn cysylltiad â’r contract meddiannaeth y mae’r blaendal wedi ei dalu mewn cysylltiad ag ef—
(i) swm y blaendal a dalwyd,
(ii) cyfeiriad yr annedd y mae’r contract meddiannaeth yn ymwneud â hi,
(iii) enw, cyfeiriad a rhif ffôn y landlord, ac unrhyw gyfeiriad e-bost sydd ganddo,
(iv) enw, cyfeiriad a rhif ffôn deiliad y contract, ac unrhyw gyfeiriad e-bost sydd ganddo, gan gynnwys unrhyw fanylion y dylai’r landlord neu weinyddwr y cynllun eu defnyddio at ddiben cysylltu â deiliad y contract ar ddiwedd y contract meddiannaeth,
(v) enw, cyfeiriad a rhif ffôn unrhyw berson a dalodd y blaendal ar ran deiliad y contract, yn unol â threfniadau a wnaed gyda deiliad y contract, ac unrhyw gyfeiriad e-bost sydd ganddo,
(vi) yr amgylchiadau pan ganiateir i’r landlord gadw’r blaendal cyfan, neu ran ohono, gan gyfeirio at delerau’r contract meddiannaeth, a
(vii) cadarnhad (ar ffurf tystysgrif wedi ei llofnodi gan y landlord)—(aa) bod yr wybodaeth a ddarperir o dan is-baragraff (g) yn gywir hyd eithaf gwybodaeth a chred y landlord, a(bb) bod y landlord wedi rhoi’r cyfle i ddeiliad y contract lofnodi unrhyw ddogfen sy’n cynnwys yr wybodaeth a ddarparwyd gan y landlord o dan baragraff (1).
(2) At ddibenion paragraff (1)(d), mae’r cyfeiriad at landlord neu ddeiliad contract nad yw’n bosibl cysylltu ag ef yn cynnwys landlord neu ddeiliad contract y gwyddys lle y mae, ond nad yw wedi ymateb, o fewn cyfnod rhesymol o amser, i gyfathrebiadau mewn cysylltiad â’r blaendal.
4 
Mae Gorchymyn Tai (Blaendaliadau Tenantiaeth) (Gwybodaeth Ragnodedig) 2007 wedi ei ddirymu o ran Cymru.
Julie James
Minister for Climate Change, one of the Welsh Ministers
8th March 2022