
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffurfiau Rhagnodedig) (Cymru) 2022 a deuant i rym ar y diwrnod y daw adran 239 o’r Ddeddf i rym.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 mae i “contract safonol” (“standard contract”) yr ystyr a roddir gan adran 8 o’r Ddeddf;
 mae i “contract safonol rhagarweiniol” (“introductory standard contract”) yr ystyr a roddir gan adran 16(4) o’r Ddeddf;
 mae i “contract safonol ymddygiad gwaharddedig” (“prohibited conduct standard contract”) yr ystyr a roddir gan adran 116(6) o’r Ddeddf;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016.
3 

(1) Mae ffurf ragnodedig hysbysiad neu ddogfen arall y mae’n ofynnol neu yr awdurdodir ei roi neu ei wneud, neu ei rhoi neu ei gwneud, gan y Ddeddf neu o’i herwydd fel y mae wedi ei nodi yn y rheoliadau a ganlyn a’r Atodlen.
(2) Mae hysbysiad neu ddogfen arall sydd ar ffurf sydd ag effaith sylweddol debyg i’r ffurf ragnodedig yn ddilys.
4 
Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 13 o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW1 yn yr Atodlen.
5 
Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 39(1) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW2 yn yr Atodlen.
6 
Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 39(2) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW3 yn yr Atodlen.
7 
Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 39(3) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW4 yn yr Atodlen.
8 
Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 61(2) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW5 yn yr Atodlen.
9 
Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 61(7) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW6 yn yr Atodlen.
10 
Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 64(2) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW7 yn yr Atodlen.
11 
Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 65(3)(b) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW8 yn yr Atodlen.
12 
Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 66(3) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW9 yn yr Atodlen.
13 
Mae ffurf ragnodedig trosglwyddiad o dan adran 69(1)(a) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW10 yn yr Atodlen.
14 
Mae ffurf ragnodedig trosglwyddiad o dan adran 69(1)(b) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW11 yn yr Atodlen.
15 
Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 104(1) neu 123(1) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW12 yn yr Atodlen.
16 
Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan gyfnod contract o’r math a grybwyllir yn adran 141(2) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW13 yn yr Atodlen.
17 
Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan gyfnod contract o’r math a grybwyllir yn adran 142(2) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW14 yn yr Atodlen.
18 
Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 145(4) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW15 yn yr Atodlen.
19 
Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 173(1) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW16 yn yr Atodlen—
(a) pan na chaiff y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad fod yn llai na chwe mis ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract o ganlyniad i adran 174(1) o’r Ddeddf, a
(b) pan fo’r hysbysiad yn ymwneud â chontract safonol cyfnodol heblaw contract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig.
20 
Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 173(1) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW17 yn yr Atodlen—
(a) pan na chaiff y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad fod yn llai na dau fis ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract o ganlyniad i—
(i) adran 174A(1) o’r Ddeddf, neu
(ii) cymhwyso paragraff 25A(2) o Atodlen 12 i adran 174(1) o’r Ddeddf, a
(b) pan fo’r hysbysiad yn ymwneud â chontract safonol cyfnodol heblaw contract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig.
21 
Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 173(1) o’r Ddeddf, mewn cysylltiad â chontract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig, fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW18 yn yr Atodlen.
22 
Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 180(3) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW19 yn yr Atodlen.
23 
Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan—
(a) adran 182(1) o’r Ddeddf, mewn cysylltiad â chontract safonol heblaw contract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig, neu
(b) adran 188(1) o’r Ddeddf,fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW20 yn yr Atodlen.
24 
Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 182(1) o’r Ddeddf, mewn cysylltiad â chontract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig, fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW21 yn yr Atodlen.
25 
Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 186(1) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW22 yn yr Atodlen.
26 
Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 159(1), 161(1), 166(1), 171(1) neu 192(1) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW23 yn yr Atodlen.
27 
Mae ffurf ragnodedig hysbysiad—
(a) o dan gyfnod contract o’r math a grybwyllir yn adran 194(1) o’r Ddeddf (cymal terfynu’r landlord), a
(b) pan na chaiff y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad fod yn llai na chwe mis ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract o ganlyniad i adran 195(1) o’r Ddeddf,fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW24 yn yr Atodlen.
28 
Mae ffurf ragnodedig hysbysiad—
(a) o dan gyfnod contract o’r math a grybwyllir yn adran 194(1) o’r Ddeddf (cymal terfynu’r landlord), a
(b) pan na chaiff y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad fod yn llai na dau fis ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract o ganlyniad i—
(i) adran 195A(1) o’r Ddeddf, neu
(ii) cymhwyso paragraff 25D(2) o Atodlen 12 i adrannau 194 a 195 o’r Ddeddf,fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW25 yn yr Atodlen.
29 
Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 201(3) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW26 yn yr Atodlen.
30 
Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 220(3) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW27 yn yr Atodlen.
31 
Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 220(5) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW28 yn yr Atodlen.
32 
Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 225(3) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW29 yn yr Atodlen.
33 
Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 225(6) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW30 yn yr Atodlen.
34 
Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 227(3) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW31 yn yr Atodlen.
35 
Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 230(2) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW32 yn yr Atodlen.
36 
Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 230(3) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW33 yn yr Atodlen.
37 
Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan baragraff 3 o Atodlen 4 i’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW34 yn yr Atodlen.
38 
Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan baragraff 1(1) o Atodlen 7 i’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW35 yn yr Atodlen.
39 
Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan baragraff 3(2) o Atodlen 7 i’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW36 yn yr Atodlen.
40 
Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan baragraff 4(1) o Atodlen 7 i’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW37 yn yr Atodlen.
41 
Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan baragraff 25B(2) o Atodlen 12 i’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW38 yn yr Atodlen.
Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
8 Mawrth 2022
YR ATODLEN
Rheoliad 3
FFURFLEN RHWI
Rheoliad 4
FFURFLEN RHW2
Rheoliad 5
FFURFLEN RHW3
Rheoliad 6
FFURFLEN RHW4
Rheoliad 7
FFURFLEN RHW5
Rheoliad 8
FFURFLEN RHW6
Rheoliad 9
FFURFLEN RHW7
Rheoliad 10
FFURFLEN RHW8
Rheoliad 11
FFURFLEN RHW9
Rheoliad 12
FFURFLEN RHW10
Rheoliad 13
FFURFLEN RHW11
Rheoliad 14
FFURFLEN RHW12
Rheoliad 15
FFURFLEN RHW13
Rheoliad 16
FFURFLEN RHW14
Rheoliad 17
FFURFLEN RHW15
Rheoliad 18
FFURFLEN RHW16
Rheoliad 19
FFURFLEN RHW17
Rheoliad 20
FFURFLEN RHW18
Rheoliad 21
FFURFLEN RHW19
Rheoliad 22
FFURFLEN RHW20
Rheoliad 23
FFURFLEN RHW21
Rheoliad 24
FFURFLEN RHW22
Rheoliad 25
FFURFLEN RHW23
Rheoliad 26
FFURFLEN RHW24
Rheoliad 27
FFURFLEN RHW25
Rheoliad 28
FFURFLEN RHW26
Rheoliad 29
FFURFLEN RHW27
Rheoliad 30
FFURFLEN RHW28
Rheoliad 31
FFURFLEN RHW29
Rheoliad 32
FFURFLEN RHW30
Rheoliad 33
FFURFLEN RHW31
Rheoliad 34
FFURFLEN RHW32
Rheoliad 35
FFURFLEN RHW33
Rheoliad 36
FFURFLEN RHW34
Rheoliad 37
FFURFLEN RHW35
Rheoliad 38
FFURFLEN RHW36
Rheoliad 39
FFURFLEN RHW37
Rheoliad 40
FFURFLEN RHW38
Rheoliad 41