
RHAN 1
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pysgodfa Cregyn Gleision a Wystrys Afon Menai (Dwyrain) 2022 a daw i rym ar 2 Ebrill 2022.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 mae i “amgylchedd morol” yr ystyr a roddir i “marine environment” yn adran 5A(2) o’r Ddeddf;
 ystyr “ardal y bysgodfa a reoleiddir” (“the regulated fishery area”) yw unrhyw ran o ardal y Gorchymyn nad yw am y tro wedi ei dynodi yn ardal y bysgodfa unigol;
 ystyr “ardal y bysgodfa unigol” (“the several fishery area”) yw unrhyw ran o ardal y Gorchymyn a ddynodir yn ardal y bysgodfa unigol yn unol ag erthygl 4(1);
 ystyr “ardal y Gorchymyn” (“the Order area”) yw’r ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn;
 ystyr “cyfesuryn” (“co-ordinate”) yw cyfesuryn lledred a hydred yn System Geodetig Fyd-eang 1984;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Pysgodfeydd Môr (Pysgod Cregyn) 1967;
 ystyr “y Grantî” (“the Grantee”) yw Menai Strait Fishery Order Management Association (Rhif Cwmni: 07163689) sydd â’i swyddfa gofrestredig yn d/o Myti Mussels Limited, Porth Penrhyn, Bangor, Gwynedd, LL57 4HN;
 ystyr “hysbysiad gwarchod safle” (“site protection notice”) yw hysbysiad a gyflwynir i’r Grantî o dan adran 5B o’r Ddeddf;
 ystyr “les” (“lease”) yw les o’r hawl i bysgodfa unigol;
 ystyr “llestr drwyddedig” (“licensed vessel”) yw llestr a awdurdodir i bysgota drwy drwydded a ddyroddir o dan adran 14 neu adran 16 o Ddeddf Pysgodfeydd 2020;
 ystyr “magwrfa” (“laying”) yw rhan o ardal y bysgodfa unigol y caniateir rhoi, neu y rhoddwyd, les mewn cysylltiad â hi;
 ystyr “rhif adnabod bad dŵr” (“watercraft identification number”) yw rhif adnabod y darperir ar ei gyfer—
(a) ym mharagraff 2.1 o Ran A o Atodiad 1 i’r Gyfarwyddeb fel y’i nodir yn Atodlen 1 i Reoliadau Badau Hamdden 2017;
(b) ym mharagraff 2.1 o Ran A o Atodiad 1 i’r Gyfarwyddeb fel y’i nodir yn Atodlen 1 i Reoliadau Badau Hamdden 2004;
(c) ym mharagraff 2.1 o Atodiad 1 i’r Gyfarwyddeb fel y’i nodir yn Atodlen 1 i Reoliadau Badau Hamdden 1996.
 ystyr “y rhywogaethau rhagnodedig” (“the prescribed species”) yw pysgod cregyn o’r rhywogaethau mytilus edulis ac ostreidae;
 ystyr “y safleoedd morol Ewropeaidd” (“the European marine sites”) yw—
(a) ardal gwarchodaeth arbennig ddynodedig Môr-wenoliaid Ynys Môn/Anglesey Terns (cod yr UE UK 9013061);
(b) ardal gwarchodaeth arbennig ddynodedig Bae Lerpwl/Liverpool Bay (cod yr UE UK 9020294);
(c) ardal gwarchodaeth arbennig ddynodedig Traeth Lafan/Lavan Sands Bae Conwy (cod yr UE UK 9013031);
(d) ardal cadwraeth arbennig ddynodedig y Fenai a Bae Conwy/Menai Strait and Conwy Bay (cod yr UE UK 0030202);
(e) ardal gwarchodaeth arbennig ddynodedig Ynys Seiriol/Puffin Island (cod yr UE UK 9020285);i’r graddau y maent yn cynnwys ardaloedd morol;
 ystyr “tenant” (“tenant”) yw person y rhoddir les iddo o dan erthygl 8(2);
 ystyr “trwydded” (“licence”) yw trwydded a roddir o dan adran 4 o’r Ddeddf;
 ystyr “ymgymerydd statudol” (“statutory undertaker”) yw unrhyw berson sydd, neu yr ystyrir ei fod, yn ymgymerydd statudol at ddibenion unrhyw ddarpariaeth o Ran 11 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.
RHAN 2
3 
Rhoddir yr hawl i bysgodfa unigol am y rhywogaethau rhagnodedig i’r Grantî am gyfnod o 35 o flynyddoedd yn dechrau ar 2 Ebrill 2022 mewn perthynas ag ardal y bysgodfa unigol.
4 

(1) Caniateir i’r Grantî, o bryd i’w gilydd, gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru, ddynodi ardal y bysgodfa unigol.
(2) Rhaid i’r dynodiad fod yn ysgrifenedig a rhaid iddo—
(a) nodi pob ardal sydd i’w dynodi drwy gyfeirio at ardal oddi mewn i linell a dynnir rhwng cyfesurynnau a restrir;
(b) cadarnhau ei fod wedi ei wneud o dan yr erthygl hon;
(c) datgan y dyddiad y mae i gymryd effaith; a
(d) fod wedi ei lofnodi gan y Grantî.
(3) Rhaid i’r Grantî gyhoeddi’r dynodiad ar ei wefan cyn pen 7 niwrnod ar ôl iddo gael effaith.
5 

(1) Rhaid i gais am gydsyniad Gweinidogion Cymru i ddynodiad o dan erthygl 4(1) gael ei wneud yn ysgrifenedig ac—
(a) nodi ardal y bysgodfa unigol arfaethedig yn unol ag erthygl 4(2)(a);
(b) cynnwys map dangosol o ardal y Gorchymyn gyda ffiniau arfaethedig rhwng ardal y bysgodfa a reoleiddir ac ardal y bysgodfa unigol wedi eu marcio arno;
(c) cynnwys datganiad gan y Grantî o blaid y cais; a
(d) pan fo’r Grantî wedi gwneud rheoliadau o dan erthygl 20, rhaid i’r cais gadarnhau bod y Grantî wedi ystyried pa un a oes angen diwygio’r rheoliadau hynny.
(2) Ni chaniateir i’r Grantî geisio cydsyniad Gweinidogion Cymru i ddynodiad o dan erthygl 4(1) sy’n cynnwys rhan o ardal y Gorchymyn y mae trwyddedau mewn grym mewn perthynas â hi.
(3) Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i’r Grantî ddarparu iddynt unrhyw wybodaeth bellach sy’n rhesymol ofynnol ganddynt er mwyn ystyried y cais.
(4) Wrth ystyried pa un ai i roi cydsyniad i ddynodiad rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i—
(a) effaith y dynodiad ar y safleoedd morol Ewropeaidd; a
(b) effaith y dynodiad ar yr amgylchedd morol.
(5) Rhaid i gydsyniad Gweinidogion Cymru gael ei roi’n ysgrifenedig.
6 

(1) Caiff y Grantî, o bryd i’w gilydd, gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru, ganslo’r dynodiad a wnaed o dan erthygl 4(1).
(2) Rhaid i hysbysiad canslo’r dynodiad gael ei wneud yn ysgrifenedig a rhaid iddo—
(a) cadarnhau ei fod wedi ei wneud o dan yr erthygl hon;
(b) cadarnhau’r dyddiad y mae i gymryd effaith; ac
(c) fod wedi ei lofnodi gan y Grantî.
(3) Ni chaniateir i’r Grantî geisio cydsyniad Gweinidogion Cymru i ganslo dynodiad sy’n cynnwys rhan o ardal y Gorchymyn y mae lesoedd mewn grym mewn perthynas â hi.
(4) Rhaid i hysbysiad canslo’r dynodiad gael ei gyhoeddi gan y Grantî ar ei wefan cyn pen 7 niwrnod ar ôl iddo gael effaith.
7 

(1) Rhaid i gais am gydsyniad Gweinidogion Cymru i ganslo dynodiad a wnaed o dan erthygl 4(1) gael ei wneud yn ysgrifenedig ac—
(a) cynnwys datganiad oddi wrth y Grantî o blaid y cais;
(b) cadarnhau ei fod wedi ei wneud o dan yr erthygl hon;
(c) cadarnhau’r dyddiad y mae’n cael effaith; a
(d) fod wedi ei lofnodi gan y Grantî.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i’r Grantî ddarparu iddynt unrhyw wybodaeth bellach sy’n rhesymol ofynnol ganddynt er mwyn ystyried y cais.
(3) Wrth ystyried pa un ai i roi cydsyniad i gais i ganslo rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i—
(a) effaith y canslo ar y safleoedd morol Ewropeaidd; a
(b) effaith y canslo ar yr amgylchedd morol.
(4) Rhaid i gydsyniad Gweinidogion Cymru gael ei roi’n ysgrifenedig.
8 

(1) Ni chaniateir i’r Grantî arfer yr hawl i bysgodfa unigol.
(2) Caiff y Grantî, o bryd i’w gilydd, gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru, roi les dros ran o ardal y bysgodfa unigol.
(3) Ni chaniateir i’r Grantî, heb gydsyniad ysgrifenedig ymlaen llaw gan Weinidogion Cymru, lesio, aseinio neu mewn unrhyw ffordd arall drosglwyddo’r hawl i bysgodfa unigol i berson arall.
(4) Mewn perthynas ag unrhyw les a roddir gan y Grantî—
(a) ni chaniateir iddi barhau’n hwy na chyfnod o 7 mlynedd, a lle y bo’n gymwys rhaid iddi ddod i ben ar y dyddiad y mae’r hawl i bysgodfa unigol yn dod i ben yn unol ag erthygl 3 neu cyn hynny;
(b) rhaid iddi wahardd aseinio’r les, neu roi is-les a’i haseinio, heb gydsyniad ysgrifenedig ymlaen llaw gan Weinidogion Cymru;
(c) rhaid iddi ei gwneud yn ofynnol i’r tenant gadw marciau’r fagwrfa yn eu lle ac mewn cyflwr da;
(d) rhaid iddi ei gwneud yn ofynnol i’r tenant gadw’r fagwrfa er boddhad y Grantî;
(e) rhaid iddi ganiatáu i Weinidogion Cymru, neu unrhyw berson a awdurdodir ganddynt, gael mynediad i’r fagwrfa at ddiben—
(i) arolwg amgylcheddol;
(ii) monitro stoc;
(iii) monitro lledaeniad y rhywogaethau rhagnodedig;
(iv) atal clefydau; a
(v) casglu samplau.
(f) rhaid iddi ganiatáu i’r Grantî arolygu’r fagwrfa at ddiben monitro cydymffurfedd â’r les;
(g) rhaid iddi ei gwneud yn ofynnol i’r tenant gydymffurfio ag unrhyw hysbysiad gwarchod safle sy’n ymwneud â’i fagwrfa a gyflwynwyd i’r Grantî; ac
(h) rhaid iddi ddarparu pe bai’r tenant yn torri’r les y caniateir i’r Grantî—
(i) cymryd y camau angenrheidiol i unioni’r toriad; a
(ii) terfynu’r les.
9 

(1) Rhaid i gais am gydsyniad Gweinidogion Cymru o dan erthygl 8(2) gael ei wneud yn ysgrifenedig a chynnwys—
(a) copi o’r les ddrafft; a
(b) datganiad oddi wrth y Grantî o blaid y cais.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i’r Grantî ddarparu iddynt unrhyw wybodaeth bellach sy’n rhesymol ofynnol ganddynt er mwyn ystyried y cais.
(3) Cyn rhoi cydsyniad i unrhyw les rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i—
(a) effaith y les arfaethedig ar y safleoedd morol Ewropeaidd; a
(b) effaith y les arfaethedig ar yr amgylchedd morol.
(4) Rhaid i gydsyniad Gweinidogion Cymru gael ei roi’n ysgrifenedig.
10 
Rhaid i’r Grantî gymryd pob cam rhesymol i fonitro cydymffurfedd tenant ag unrhyw les a roddir.
11 
Mae les yn cael effaith fel pe bai’r hawl y mae’n ei rhoi i’r tenant wedi ei rhoi drwy orchymyn a wnaed o dan adran 1 o’r Ddeddf, ac fel pe bai unrhyw delerau ac amodau sydd wedi eu cynnwys yn y les wedi eu cynnwys mewn gorchymyn o’r fath.
12 

(1) Pe bai magwrfa yn dod yn wag, cyn rhoi les newydd, rhaid i’r Grantî—
(a) hysbysebu’r cyfle i wneud cais am les ar ei wefan ac mewn o leiaf un papur newydd lleol;
(b) cyhoeddi ar ei wefan y meini prawf y bydd y Grantî yn eu defnyddio i asesu’r ceisiadau a ddaw i law;
(c) caniatáu cyfnod nad yw’n llai na 28 o ddiwrnodau ar gyfer cyflwyno ceisiadau; a
(d) asesu pob cais yn unol â’r meini prawf cyhoeddedig ac yn unol â pharagraff (2).
(2) Wrth asesu ceisiadau sy’n dod i law oddi wrth ddarpar denantiaid, rhaid i’r Grantî roi sylw i pa un a yw ymgeiswyr yn gallu dangos naill ai—
(a) tystiolaeth o gymhwysedd i weithredu magwrfa yn ddiogel; neu
(b) cynigion i gael hyfforddiant neu gymwysterau perthnasol i gaffael cymhwysedd i weithredu magwrfa yn ddiogel.
(3) At ddibenion paragraff (1), mae magwrfa yn dod yn wag os yw tenant y fagwrfa honno—
(a) yn ildio ei les i’r Grantî;
(b) yn fforffedu ei les i’r Grantî; neu
(c) pan ddaw tymor un les i ben, yn peidio â gwneud cais am les newydd.
13 
Rhaid i’r holl incwm y mae’r Grantî yn ei gael drwy rent sy’n daladwy o dan les gael ei gymhwyso at y dibenion a ganlyn yn y drefn o ran blaenoriaeth a restrir isod—
(a) talu treuliau cael y Gorchymyn hwn;
(b) marcio ffiniau ardal y bysgodfa unigol a’r magwrfeydd;
(c) dinistrio plâu sy’n niweidiol i’r rhywogaethau rhagnodedig; a
(d) rheoli, goruchwylio a gwella ardal y bysgodfa unigol.
RHAN 3
14 
Rhoddir yr hawl i reoleiddio pysgodfa ar gyfer y rhywogaethau rhagnodedig i’r Grantî am gyfnod o 35 o flynyddoedd yn dechrau ar 2 Ebrill 2022 mewn perthynas ag ardal y bysgodfa a reoleiddir.
15 
Ni chaniateir i neb gymryd, neu dreillio neu bysgota am unrhyw un neu ragor o’r rhywogaethau rhagnodedig yn ardal y bysgodfa a reoleiddir oni bai y gwneir hynny o dan awdurdod trwydded a ddyroddwyd gan y Grantî.
16 
Wrth arfer ei swyddogaethau trwyddedu o dan y Gorchymyn hwn, rhaid i’r Grantî roi sylw i’r effaith y gallai’r gweithgarwch trwyddedig ei chael ar—
(a) y safleoedd morol Ewropeaidd; a
(b) yr amgylchedd morol.
17 

(1) Rhaid i gais am drwydded gael ei wneud ym mha ffurf a modd bynnag a bennir gan y Grantî.
(2) Rhaid i’r Grantî gyhoeddi ar ei wefan gopi o’r ffurflen gais am drwydded a gwybodaeth i ymgeiswyr ynghylch y broses o wneud cais.
(3) Caiff trwyddedai wneud cais ysgrifenedig i’r Grantî i ddiwygio’r drwydded, a rhaid iddo ddarparu’r wybodaeth honno sy’n rhesymol ofynnol gan y Grantî er mwyn iddo ystyried y cais.
18 
Rhaid i drwydded—
(a) datgan enw a chyfeiriad y trwyddedai;
(b) nodi manylion adnabod unrhyw lestr a awdurdodwyd i weithredu yn ardal y bysgodfa a reoleiddir, sef naill ai—
(i) enw a rhif trwydded llestr awdurdodedig; neu
(ii) rhif adnabod bad dŵr ar gyfer llestr ddidrwydded;
(c) pennu’r dulliau casglu a ganiateir;
(d) pennu’r cyfnod o amser y mae trwydded yn ddilys amdano. Ni chaniateir i’r cyfnod hwnnw fod yn hwy nag 1 flwyddyn;
(e) cynnwys amodau trwydded priodol; a
(f) meddu ar rif adnabod unigryw.
19 

(1) Rhaid i ymgeisydd am drwydded dalu toll o £150 i’r Grantî.
(2) Caniateir i’r Grantî amrywio’r doll sy’n daladwy o dan baragraff (1) gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru.
20 

(1) Caniateir i’r Grantî, gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru, wneud rheoliadau mewn perthynas â chymryd, neu dreillio neu bysgota am y rhywogaethau rhagnodedig yn ardal y bysgodfa a reoleiddir gyfan, neu ran ohoni.
(2) Caniateir i’r Grantî ddiwygio neu ddirymu’r rheoliadau hynny, gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru.
(3) Rhaid i Reoliadau a wneir gan y Grantî o dan baragraff (1)—
(a) cynnwys y darpariaethau hynny (os oes rhai) y mae’r Grantî yn ystyried eu bod yn briodol at ddiben—
(i) atal niwed i’r safleoedd morol Ewropeaidd; a
(ii) diogelu’r amgylchedd morol;
(b) datgan y dyddiad y daw’r rheoliadau hynny i rym;
(c) nodi’r rhan o ardal y bysgodfa a reoleiddir y maent yn gymwys iddi drwy gyfeirio at—
(i) ardal oddi mewn i linell a dynnir rhwng cyfesurynnau a restrir; a
(ii) map dangosol a atodir i’r rheoliadau yn dangos y rhan honno;
(d) cael eu cyhoeddi ar wefan y Grantî o leiaf 21 o ddiwrnodau cyn iddynt ddod i rym, oni bai bod rhaid gwneud rheoliadau ar frys i ddiogelu—
(i) y safleoedd morol Ewropeaidd; neu
(ii) yr amgylchedd morol.
(4) Bydd dangos copi o reoliadau a wnaed gan y Grantî, ac a ardystiwyd gan Weinidogion Cymru fel copi gwir o’r rheoliadau gwreiddiol a gymeradwywyd ganddynt hwy, yn dystiolaeth derfynol o fodolaeth y rheoliadau.
21 

(1) Rhaid i gais am gydsyniad Gweinidogion Cymru o dan erthygl 20(1) gael ei wneud yn ysgrifenedig a rhaid iddo gynnwys—
(a) copi o’r rheoliadau drafft; a
(b) datganiad oddi wrth y Grantî o blaid y cais.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i’r Grantî ddarparu iddynt unrhyw wybodaeth bellach sy’n rhesymol ofynnol ganddynt er mwyn ystyried y cais.
(3) Cyn rhoi cydsyniad i unrhyw reoliadau rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i—
(a) effaith y rheoliadau ar y safleoedd morol Ewropeaidd; a
(b) effaith y rheoliadau ar yr amgylchedd morol.
(4) Rhaid i gydsyniad Gweinidogion Cymru gael ei roi’n ysgrifenedig.
RHAN 4
22 
O fewn 7 niwrnod i wneud dynodiad o dan erthygl 4, neu ganslo dynodiad o dan erthygl 6, rhaid i’r Grantî lunio map dangosol o ardal y Gorchymyn a sicrhau ei fod ar gael i’w weld ar ei wefan ac yn ei swyddfa gofrestredig. Rhaid i’r map hwnnw gynnwys y ffin rhwng ardal y bysgodfa unigol ac ardal y bysgodfa a reoleiddir.
23 

(1) Rhaid i’r Grantî, erbyn 31 Gorffennaf bob blwyddyn, ddarparu i Weinidogion Cymru gyfrifon blynyddol o’i incwm a’i wariant o dan y Gorchymyn hwn ar gyfer y flwyddyn ariannol flaenorol.
(2) Rhaid i’r Grantî ganiatáu i bersonau a awdurdodwyd gan Weinidogion Cymru i arolygu unrhyw gyfrifon neu unrhyw ddogfennau eraill sy’n ymwneud â’r Gorchymyn hwn sydd ym meddiant y Grantî, a rhaid i’r Grantî ddarparu i’r person hwnnw unrhyw wybodaeth bellach sy’n ymwneud â’r materion hynny sy’n rhesymol ofynnol gan y person hwnnw.
(3) Rhaid i’r Grantî ganiatáu i bersonau a awdurdodwyd gan Weinidogion Cymru i arolygu ardal y Gorchymyn.
24 

(1) Rhaid i’r Grantî gyflwyno datganiad daliadau i Weinidogion Cymru—
(a) am y cyfnod rhwng 2 Ebrill 2022 ac 31 Mawrth 2023, ar 30 Ebrill 2023 neu cyn hynny; a
(b) wedi hynny, am bob cyfnod o amser rhwng 1 Ebrill ac 31 Mawrth yn y flwyddyn ganlynol, ar 30 Ebrill neu cyn hynny yn y flwyddyn y mae’r cyfnod hwnnw’n dod i ben.
(2) Rhaid i ddatganiad daliadau gofnodi—
(a) cyfanswm blynyddol pwysau byw grawn y rhywogaethau rhagnodedig a heuwyd yn ardal y bysgodfa a reoleiddir ac ardal y bysgodfa unigol;
(b) lleoliad y ffynhonnell y daeth y grawn hwnnw ohoni;
(c) cyfanswm blynyddol pwysau byw y rhywogaethau rhagnodedig a gymerwyd o ardal y bysgodfa unigol ac ardal y bysgodfa a reoleiddir; a
(d) unrhyw wybodaeth bellach sy’n rhesymol ofynnol yn ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru.
25 

(1) Rhaid i’r Grantî, yn y cyfryw fodd y gofynnir amdano o dro i dro gan Weinidogion Cymru, farcio terfynau —
(a) ardal y Gorchymyn neu unrhyw ran ohoni; a
(b) y ffin rhwng ardal y bysgodfa unigol ac ardal y bysgodfa a reoleiddir.
(2) Cyn cais i farcio’r terfynau, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—
(a) Ymddiriedolaeth Harbwr Caernarfon; a
(b) the Corporation of Trinity House of Deptford Strond.
(3) Rhaid i’r Grantî gadw’r marciau yn eu lle ac mewn cyflwr da.
26 
Nid oes dim yn y Gorchymyn hwn, neu mewn unrhyw gyfyngiad a osodir oddi tano, neu unrhyw reoliad a wneir oddi tano, yn lleihau effaith unrhyw hawliau, pwerau ac awdurdod—
(a) person sy’n berchen ar ran o ardal y Gorchymyn; neu
(b) person y mae person o’r fath wedi rhoi les iddo mewn cysylltiad â rhan o ardal y Gorchymyn.
27 
Nid oes dim yn y Gorchymyn hwn, neu mewn unrhyw gyfyngiad a osodir oddi tano, neu mewn unrhyw reoliad a wneir oddi tano, sy’n lleihau effaith gweithgarwch cyfreithlon ymgymerydd statudol sy’n arfer ei swyddogaethau statudol.
28 
Mae Gorchymyn Pysgodfa Wystrys a Chregyn Gleision Afon Menai 1962 a Gorchymyn Pysgodfa Wystrys a Chregyn Gleision Afon Menai (Diwygio) 1964 wedi eu dirymu.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
3 Mawrth 2022
YR ATODLEN
Erthygl 2

Y rhan honno o Afon Menai sydd oddi mewn i linell sy’n cysylltu’r cyfesurynnau a rifwyd 1 i 331 yn y tabl isod, sy’n ymestyn i tua 694 o hectarau ac sy’n cynnwys glan a gwely’r môr ac unrhyw afon, sianel, cilfach, bae neu foryd yn yr ardal.

Pwynt Hydred Lledred
1 004° 4.7317’ Gn 053° 14.0637’ G
2 004° 5.6444’ Gn 053° 14.1526’ G
3 004° 5.6492’ Gn 053° 14.1529’ G
4 004° 5.6626’ Gn 053° 14.1514’ G
5 004° 5.6727’ Gn 053° 14.1506’ G
6 004° 5.6922’ Gn 053° 14.1499’ G
7 004° 5.7014’ Gn 053° 14.1490’ G
8 004° 5.7119’ Gn 053° 14.1469’ G
9 004° 5.7217’ Gn 053° 14.1443’ G
10 004° 5.7353’ Gn 053° 14.1402’ G
11 004° 5.7512’ Gn 053° 14.1353’ G
12 004° 5.7668’ Gn 053° 14.1313’ G
13 004° 5.7861’ Gn 053° 14.1276’ G
14 004° 5.8053’ Gn 053° 14.1249’ G
15 004° 5.8247’ Gn 053° 14.1233’ G
16 004° 5.8416’ Gn 053° 14.1227’ G
17 004° 5.8755’ Gn 053° 14.1220’ G
18 004° 5.8942’ Gn 053° 14.1206’ G
19 004° 5.9102’ Gn 053° 14.1181’ G
20 004° 5.9215’ Gn 053° 14.1157’ G
21 004° 5.9436’ Gn 053° 14.1110’ G
22 004° 5.9609’ Gn 053° 14.1087’ G
23 004° 5.9672’ Gn 053° 14.1064’ G
24 004° 5.9748’ Gn 053° 14.1015’ G
25 004° 5.9843’ Gn 053° 14.0966’ G
26 004° 6.0006’ Gn 053° 14.0920’ G
27 004° 6.0200’ Gn 053° 14.0865’ G
28 004° 6.0439’ Gn 053° 14.0786’ G
29 004° 6.0513’ Gn 053° 14.0761’ G
30 004° 6.0659’ Gn 053° 14.0709’ G
31 004° 6.0702’ Gn 053° 14.0691’ G
32 004° 6.0795’ Gn 053° 14.0655’ G
33 004° 6.0865’ Gn 053° 14.0630’ G
34 004° 6.5983’ Gn 053° 14.1197’ G
35 004° 6.6096’ Gn 053° 14.1394’ G
36 004° 6.6151’ Gn 053° 14.1521’ G
37 004° 6.6215’ Gn 053° 14.1742’ G
38 004° 6.6242’ Gn 053° 14.1782’ G
39 004° 6.6322’ Gn 053° 14.1850’ G
40 004° 6.6432’ Gn 053° 14.1903’ G
41 004° 6.6576’ Gn 053° 14.1941’ G
42 004° 6.6688’ Gn 053° 14.1953’ G
43 004° 6.6775’ Gn 053° 14.1954’ G
44 004° 6.6924’ Gn 053° 14.1944’ G
45 004° 6.7052’ Gn 053° 14.1943’ G
46 004° 6.7087’ Gn 053° 14.1949’ G
47 004° 6.7213’ Gn 053° 14.2003’ G
48 004° 6.7353’ Gn 053° 14.2062’ G
49 004° 6.7463’ Gn 053° 14.2095’ G
50 004° 6.7640’ Gn 053° 14.2129’ G
51 004° 6.7778’ Gn 053° 14.2139’ G
52 004° 7.2577’ Gn 053° 14.1640’ G
53 004° 7.2619’ Gn 053° 14.1707’ G
54 004° 7.2619’ Gn 053° 14.1707’ G
55 004° 7.2688’ Gn 053° 14.1771’ G
56 004° 7.2790’ Gn 053° 14.1835’ G
57 004° 7.2960’ Gn 053° 14.1902’ G
58 004° 7.3038’ Gn 053° 14.1941’ G
59 004° 7.3065’ Gn 053° 14.1963’ G
60 004° 7.3119’ Gn 053° 14.2024’ G
61 004° 7.3128’ Gn 053° 14.2032’ G
62 004° 7.3166’ Gn 053° 14.2071’ G
63 004° 7.3245’ Gn 053° 14.2148’ G
64 004° 7.3298’ Gn 053° 14.2184’ G
65 004° 7.3322’ Gn 053° 14.2200’ G
66 004° 7.3419’ Gn 053° 14.2235’ G
67 004° 7.3450’ Gn 053° 14.2214’ G
68 004° 7.4096’ Gn 053° 14.1993’ G
69 004° 7.4183’ Gn 053° 14.1983’ G
70 004° 7.4282’ Gn 053° 14.1958’ G
71 004° 7.4493’ Gn 053° 14.1968’ G
72 004° 7.4524’ Gn 053° 14.1933’ G
73 004° 7.4612’ Gn 053° 14.1901’ G
74 004° 7.4642’ Gn 053° 14.1879’ G
75 004° 7.4877’ Gn 053° 14.1812’ G
76 004° 7.4965’ Gn 053° 14.1801’ G
77 004° 7.5053’ Gn 053° 14.1764’ G
78 004° 7.5117’ Gn 053° 14.1725’ G
79 004° 7.5220’ Gn 053° 14.1699’ G
80 004° 7.5638’ Gn 053° 14.1582’ G
81 004° 7.5728’ Gn 053° 14.1558’ G
82 004° 7.5886’ Gn 053° 14.1538’ G
83 004° 7.6039’ Gn 053° 14.1546’ G
84 004° 7.6302’ Gn 053° 14.1501’ G
85 004° 7.6434’ Gn 053° 14.1480’ G
86 004° 7.6528’ Gn 053° 14.1468’ G
87 004° 7.6660’ Gn 053° 14.1431’ G
88 004° 7.6747’ Gn 053° 14.1387’ G
89 004° 7.6794’ Gn 053° 14.1351’ G
90 004° 7.6921’ Gn 053° 14.1234’ G
91 004° 7.6998’ Gn 053° 14.1185’ G
92 004° 7.7089’ Gn 053° 14.1081’ G
93 004° 7.7184’ Gn 053° 14.0999’ G
94 004° 7.7272’ Gn 053° 14.0938’ G
95 004° 7.7407’ Gn 053° 14.0860’ G
96 004° 7.7545’ Gn 053° 14.0783’ G
97 004° 7.7589’ Gn 053° 14.0761’ G
98 004° 7.7665’ Gn 053° 14.0688’ G
99 004° 7.7739’ Gn 053° 14.0606’ G
100 004° 7.7828’ Gn 053° 14.0540’ G
101 004° 7.7969’ Gn 053° 14.0487’ G
102 004° 7.8105’ Gn 053° 14.0460’ G
103 004° 7.8239’ Gn 053° 14.0448’ G
104 004° 7.8372’ Gn 053° 14.0438’ G
105 004° 7.8527’ Gn 053° 14.0429’ G
106 004° 7.8714’ Gn 053° 14.0420’ G
107 004° 7.8886’ Gn 053° 14.0406’ G
108 004° 7.9026’ Gn 053° 14.0375’ G
109 004° 7.9116’ Gn 053° 14.0338’ G
110 004° 7.9178’ Gn 053° 14.0305’ G
111 004° 7.9237’ Gn 053° 14.0252’ G
112 004° 7.9275’ Gn 053° 14.0188’ G
113 004° 7.9284’ Gn 053° 14.0135’ G
114 004° 7.9290’ Gn 053° 14.0043’ G
115 004° 7.9325’ Gn 053° 13.9960’ G
116 004° 7.9411’ Gn 053° 13.9911’ G
117 004° 7.9544’ Gn 053° 13.9818’ G
118 004° 7.9624’ Gn 053° 13.9773’ G
119 004° 7.9709’ Gn 053° 13.9732’ G
120 004° 7.9787’ Gn 053° 13.9701’ G
121 004° 7.9867’ Gn 053° 13.9659’ G
122 004° 7.9958’ Gn 053° 13.9590’ G
123 004° 8.0015’ Gn 053° 13.9552’ G
124 004° 8.0098’ Gn 053° 13.9512’ G
125 004° 8.0231’ Gn 053° 13.9464’ G
126 004° 8.0290’ Gn 053° 13.9412’ G
127 004° 8.0411’ Gn 053° 13.9326’ G
128 004° 8.0559’ Gn 053° 13.9227’ G
129 004° 8.0619’ Gn 053° 13.9185’ G
130 004° 8.0708’ Gn 053° 13.9132’ G
131 004° 8.0794’ Gn 053° 13.9107’ G
132 004° 8.0870’ Gn 053° 13.9079’ G
133 004° 8.0927’ Gn 053° 13.9047’ G
134 004° 8.1003’ Gn 053° 13.9021’ G
135 004° 8.1110’ Gn 053° 13.8972’ G
136 004° 8.1232’ Gn 053° 13.8946’ G
137 004° 8.1298’ Gn 053° 13.8911’ G
138 004° 8.1377’ Gn 053° 13.8851’ G
139 004° 8.1451’ Gn 053° 13.8801’ G
140 004° 8.1533’ Gn 053° 13.8765’ G
141 004° 8.1609’ Gn 053° 13.8744’ G
142 004° 8.1715’ Gn 053° 13.8719’ G
143 004° 8.1788’ Gn 053° 13.8681’ G
144 004° 8.1822’ Gn 053° 13.8619’ G
145 004° 8.1876’ Gn 053° 13.8577’ G
146 004° 8.1937’ Gn 053° 13.8550’ G
147 004° 8.2029’ Gn 053° 13.8534’ G
148 004° 8.2299’ Gn 053° 13.8533’ G
149 004° 8.2447’ Gn 053° 13.8542’ G
150 004° 8.2677’ Gn 053° 13.8567’ G
151 004° 8.2851’ Gn 053° 13.8566’ G
152 004° 8.2986’ Gn 053° 13.8550’ G
153 004° 8.2989’ Gn 053° 13.8550’ G
154 004° 8.3174’ Gn 053° 13.8524’ G
155 004° 8.3424’ Gn 053° 13.8502’ G
156 004° 8.3597’ Gn 053° 13.8487’ G
157 004° 8.3686’ Gn 053° 13.8478’ G
158 004° 8.3893’ Gn 053° 13.8449’ G
159 004° 8.4027’ Gn 053° 13.8433’ G
160 004° 8.4319’ Gn 053° 13.8402’ G
161 004° 8.4557’ Gn 053° 13.8374’ G
162 004° 8.4751’ Gn 053° 13.8342’ G
163 004° 8.4891’ Gn 053° 13.8309’ G
164 004° 8.5048’ Gn 053° 13.8262’ G
165 004° 8.5282’ Gn 053° 13.8187’ G
166 004° 8.5509’ Gn 053° 13.8113’ G
167 004° 8.5660’ Gn 053° 13.8067’ G
168 004° 8.5973’ Gn 053° 13.7972’ G
169 004° 8.6133’ Gn 053° 13.7923’ G
170 004° 8.6248’ Gn 053° 13.7889’ G
171 004° 8.6840’ Gn 053° 13.7702’ G
172 004° 8.6931’ Gn 053° 13.7675’ G
173 004° 8.7067’ Gn 053° 13.7645’ G
174 004° 8.7300’ Gn 053° 13.7575’ G
175 004° 8.7507’ Gn 053° 13.7514’ G
176 004° 8.7611’ Gn 053° 13.7484’ G
177 004° 8.7619’ Gn 053° 13.7482’ G
178 004° 8.7704’ Gn 053° 13.7460’ G
179 004° 8.8201’ Gn 053° 14.0223’ G
180 004° 8.6395’ Gn 053° 14.0900’ G
181 004° 8.3600’ Gn 053° 14.2610’ G
182 004° 8.0340’ Gn 053° 14.4070’ G
183 004° 7.6740’ Gn 053° 14.5434’ G
184 004° 7.6493’ Gn 053° 14.5528’ G
185 004° 7.6461’ Gn 053° 14.5540’ G
186 004° 7.6978’ Gn 053° 14.6130’ G
187 004° 7.1553’ Gn 053° 14.7845’ G
188 004° 7.2301’ Gn 053° 14.8594’ G
189 004° 7.2261’ Gn 053° 14.8603’ G
190 004° 7.2121’ Gn 053° 14.8640’ G
191 004° 7.1872’ Gn 053° 14.8716’ G
192 004° 7.1756’ Gn 053° 14.8749’ G
193 004° 7.1655’ Gn 053° 14.8780’ G
194 004° 7.1523’ Gn 053° 14.8821’ G
195 004° 7.1382’ Gn 053° 14.8874’ G
196 004° 7.1248’ Gn 053° 14.8932’ G
197 004° 7.1179’ Gn 053° 14.8967’ G
198 004° 7.1089’ Gn 053° 14.9020’ G
199 004° 7.0999’ Gn 053° 14.9083’ G
200 004° 7.0901’ Gn 053° 14.9143’ G
201 004° 7.0840’ Gn 053° 14.9177’ G
202 004° 7.0694’ Gn 053° 14.9264’ G
203 004° 7.0553’ Gn 053° 14.9342’ G
204 004° 7.0416’ Gn 053° 14.9404’ G
205 004° 7.0293’ Gn 053° 14.9461’ G
206 004° 7.0232’ Gn 053° 14.9491’ G
207 004° 7.0112’ Gn 053° 14.9547’ G
208 004° 6.9963’ Gn 053° 14.9618’ G
209 004° 6.9814’ Gn 053° 14.9697’ G
210 004° 6.9688’ Gn 053° 14.9750’ G
211 004° 6.9594’ Gn 053° 14.9785’ G
212 004° 6.9520’ Gn 053° 14.9808’ G
213 004° 6.9410’ Gn 053° 14.9834’ G
214 004° 6.9244’ Gn 053° 14.9859’ G
215 004° 6.9126’ Gn 053° 14.9867’ G
216 004° 6.8986’ Gn 053° 14.9873’ G
217 004° 6.8886’ Gn 053° 14.9885’ G
218 004° 6.8784’ Gn 053° 14.9909’ G
219 004° 6.8714’ Gn 053° 14.9937’ G
220 004° 6.8618’ Gn 053° 14.9994’ G
221 004° 6.8507’ Gn 053° 15.0070’ G
222 004° 6.8412’ Gn 053° 15.0130’ G
223 004° 6.8306’ Gn 053° 15.0189’ G
224 004° 6.8211’ Gn 053° 15.0231’ G
225 004° 6.8154’ Gn 053° 15.0252’ G
226 004° 6.7993’ Gn 053° 15.0304’ G
227 004° 6.7877’ Gn 053° 15.0344’ G
228 004° 6.7746’ Gn 053° 15.0386’ G
229 004° 6.7634’ Gn 053° 15.0422’ G
230 004° 6.7521’ Gn 053° 15.0462’ G
231 004° 6.7405’ Gn 053° 15.0506’ G
232 004° 6.7352’ Gn 053° 15.0526’ G
233 004° 6.7205’ Gn 053° 15.0581’ G
234 004° 6.7041’ Gn 053° 15.0653’ G
235 004° 6.6875’ Gn 053° 15.0727’ G
236 004° 6.6742’ Gn 053° 15.0789’ G
237 004° 6.6666’ Gn 053° 15.0818’ G
238 004° 6.6595’ Gn 053° 15.0839’ G
239 004° 6.6425’ Gn 053° 15.0885’ G
240 004° 6.6325’ Gn 053° 15.0910’ G
241 004° 6.6237’ Gn 053° 15.0930’ G
242 004° 6.6135’ Gn 053° 15.0951’ G
243 004° 6.5925’ Gn 053° 15.1011’ G
244 004° 6.5696’ Gn 053° 15.1095’ G
245 004° 6.5588’ Gn 053° 15.1136’ G
246 004° 6.5455’ Gn 053° 15.1181’ G
247 004° 6.5364’ Gn 053° 15.1212’ G
248 004° 6.5247’ Gn 053° 15.1251’ G
249 004° 6.5199’ Gn 053° 15.1269’ G
250 004° 6.4993’ Gn 053° 15.1345’ G
251 004° 6.4896’ Gn 053° 15.1381’ G
252 004° 6.4748’ Gn 053° 15.1449’ G
253 004° 6.4629’ Gn 053° 15.1509’ G
254 004° 6.4503’ Gn 053° 15.1569’ G
255 004° 6.4372’ Gn 053° 15.1611’ G
256 004° 6.4323’ Gn 053° 15.1612’ G
257 004° 6.4172’ Gn 053° 15.1583’ G
258 004° 6.4059’ Gn 053° 15.1565’ G
259 004° 6.4059’ Gn 053° 15.1565’ G
260 004° 6.4059’ Gn 053° 15.1565’ G
261 004° 6.4005’ Gn 053° 15.1552’ G
262 004° 6.3925’ Gn 053° 15.1519’ G
263 004° 6.3836’ Gn 053° 15.1470’ G
264 004° 6.3746’ Gn 053° 15.1431’ G
265 004° 6.3669’ Gn 053° 15.1418’ G
266 004° 6.3540’ Gn 053° 15.1454’ G
267 004° 6.3512’ Gn 053° 15.1451’ G
268 004° 6.3479’ Gn 053° 15.1402’ G
269 004° 6.3426’ Gn 053° 15.1351’ G
270 004° 6.3383’ Gn 053° 15.1336’ G
271 004° 6.3307’ Gn 053° 15.1341’ G
272 004° 6.3263’ Gn 053° 15.1368’ G
273 004° 6.3220’ Gn 053° 15.1391’ G
274 004° 6.3106’ Gn 053° 15.1428’ G
275 004° 6.3056’ Gn 053° 15.1447’ G
276 004° 6.3056’ Gn 053° 15.1447’ G
277 004° 6.4403’ Gn 053° 15.2247’ G
278 004° 6.4371’ Gn 053° 15.2266’ G
279 004° 6.4309’ Gn 053° 15.2309’ G
280 004° 6.4204’ Gn 053° 15.2372’ G
281 004° 6.4078’ Gn 053° 15.2440’ G
282 004° 6.3985’ Gn 053° 15.2491’ G
283 004° 6.3847’ Gn 053° 15.2560’ G
284 004° 6.3704’ Gn 053° 15.2621’ G
285 004° 6.3605’ Gn 053° 15.2658’ G
286 004° 6.3510’ Gn 053° 15.2699’ G
287 004° 6.3477’ Gn 053° 15.2715’ G
288 004° 6.3446’ Gn 053° 15.2730’ G
289 004° 6.3298’ Gn 053° 15.2789’ G
290 004° 6.3165’ Gn 053° 15.2815’ G
291 004° 6.3037’ Gn 053° 15.2824’ G
292 004° 6.2870’ Gn 053° 15.2828’ G
293 004° 6.2761’ Gn 053° 15.2827’ G
294 004° 6.2523’ Gn 053° 15.2820’ G
295 004° 6.2352’ Gn 053° 15.2805’ G
296 004° 6.2223’ Gn 053° 15.2799’ G
297 004° 6.2152’ Gn 053° 15.2809’ G
298 004° 6.2056’ Gn 053° 15.2814’ G
299 004° 6.1940’ Gn 053° 15.2800’ G
300 004° 6.1811’ Gn 053° 15.2777’ G
301 004° 6.1657’ Gn 053° 15.2750’ G
302 004° 6.1380’ Gn 053° 15.2701’ G
303 004° 6.1272’ Gn 053° 15.2687’ G
304 004° 6.1174’ Gn 053° 15.2680’ G
305 004° 6.1053’ Gn 053° 15.2681’ G
306 004° 6.0886’ Gn 053° 15.2696’ G
307 004° 6.0781’ Gn 053° 15.2713’ G
308 004° 6.0662’ Gn 053° 15.2741’ G
309 004° 6.0579’ Gn 053° 15.2767’ G
310 004° 6.0028’ Gn 053° 15.1918’ G
311 004° 5.0706’ Gn 053° 15.7180’ G
