
RHAN 1
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2022.
(2) Daw rheoliadau 2, 4, 9, 10, 14 a 15 i rym am 4.00 a.m. ar 7 Ionawr 2022.
(3) Daw rheoliadau 5, 6, 7, 8, 11, 12 a 13 i rym am 4.00 a.m. ar 9 Ionawr 2022.
(4) Daw rheoliad 3 i rym am 4.00 a.m. ar 10 Ionawr 2022.
RHAN 2
2 
Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
3 
Yn rheoliad 2A (esemptiadau ar gyfer teithwyr sydd wedi eu brechu ac eraill), ym mharagraff (12), yn y lleoedd priodol mewnosoder—“Bhutan”“Cameroon”“Cote d’Ivoire”“Fiji”“Y Gambia”“Gogledd Cyprus”“Irac”“Liberia”“Mali”“Mauritania”“Niger”“Palau”“Papua Guinea Newydd”“Paraguay”“Uzbekistan”“Ynysoedd Solomon”.
4 
Yn rheoliad 6A (gofyniad i feddu ar hysbysiad o ganlyniad prawf negyddol), ym mharagraff (4), ar y diwedd mewnosoder—“
(f) person sy’n deithiwr rheoliad 2A.”
5 
Yn rheoliad 6AB (gofyniad i archebu a chymryd profion), yn lle paragraff (2)(a), rhodder—“
(a) “prawf diwrnod 2”—
(i) mewn cysylltiad â pherson nad yw rheoliad 2A yn gymwys iddo, yw prawf sy’n cydymffurfio â pharagraff 1 o Atodlen 1C sy’n cael ei gymryd o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraff 1A o’r Atodlen honno;
(ii) mewn perthynas â theithiwr rheoliad 2A, yw—(aa) prawf a ddisgrifir ym mharagraff (i), neu(bb) prawf sy’n cydymffurfio â pharagraff 1ZBA o Atodlen 1C sy’n cael ei gymryd o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraff 1A o’r Atodlen honno.”
6 

(1) Mae rheoliad 6DB (gofyniad i ynysu o fethu â chymryd profion: teithwyr rheoliad 2A) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle paragraff (3), rhodder—“
(3) Pan fo paragraff (2) yn gymwys, mae P i’w drin fel pe bai gofynion rheoliad 7 neu 8 (yn ôl y digwydd) yn gymwys a rhaid i P ynysu a pharhau i ynysu yn unol â’r rheoliad hwnnw tan ddiwrnod olaf y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod yr oedd P mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt ddiwethaf (ac nid yw rheoliad 12 yn gymwys at ddibenion pennu diwrnod ynysu olaf P).”
(3) Yn lle paragraff (5)(a), rhodder—“
(a) sy’n cydymffurfio â’r gofynion ar gyfer prawf diwrnod 2 yn rheoliad 6AB(2)(a)(ii),”.
7 

(1)  Mae rheoliad 6E (goblygiadau canlyniad prawf positif) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (1), ar y diwedd mewnosoder—“
(c) bo P yn deithiwr rheoliad 2A–
(i) pan fo’r prawf yn brawf PCR diwrnod 2, mae paragraffau (6A) a (7) yn gymwys;
(ii) pan fo’r prawf yn brawf LFD diwrnod 2, mae paragraffau (6B), (6C) a (7) yn gymwys.”
(3) O flaen paragraff (7), mewnosoder—“
(6A) Mae P i’w drin fel pe bai gofynion rheoliad 7 yn gymwys a rhaid i P ynysu a pharhau i ynysu yn unol â’r rheoliad hwnnw tan ddiwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y cymerodd P y prawf.
(6B) Rhaid i P, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, gymryd prawf cadarnhau a ddarperir gan Weinidogion Cymru at ddibenion y paragraff hwn.
(6C) Mae P i’w drin fel pe bai gofynion rheoliad 7 yn gymwys a rhaid i P ynysu a pharhau i ynysu yn unol â’r rheoliad hwnnw tan y cynharaf o’r canlynol—
(a) diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y cymerodd P y prawf LFD diwrnod 2;
(b) yr adeg yr hysbysir P bod canlyniad y prawf cadarnhau a gymerwyd yn unol â pharagraff (6B) yn negyddol.
(6D) Yn y rheoliad hwn, bernir bod person yn cael hysbysiad o ganlyniad mewn perthynas â phrawf LFD diwrnod 2 pan fydd y person yn penderfynu ar y canlyniad yn unol â chyfarwyddiadau defnyddio gweithgynhyrchydd y prawf.”
(4) Yn rheoliad 6E, ar y diwedd mewnosoder—“
(9) Yn y rheoliad hwn—
 ystyr “prawf LFD diwrnod 2” yw prawf o fewn ystyr rheoliad 6AB(2)(a)(ii)(bb);
 ystyr “prawf PCR diwrnod 2” yw prawf o fewn ystyr rheoliad 6AB(2)(a)(ii)(aa).”
8 

(1)  Mae rheoliad 6HB (goblygiadau cael canlyniad prawf amhendant: teithwyr rheoliad 2A) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle paragraff (3), rhodder—“
(3) Pan fo paragraff (2) yn gymwys, mae P i’w drin fel pe bai gofynion rheoliad 7 neu 8 (yn ôl y digwydd) yn gymwys a rhaid i P ynysu a pharhau i ynysu yn unol â’r rheoliad hwnnw tan ddiwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod yr oedd P mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt ddiwethaf (ac nid yw rheoliad 12 yn gymwys at ddibenion pennu diwrnod ynysu olaf P).”
(3) Yn lle paragraff (5)(a), rhodder—“
(a) sy’n cydymffurfio â’r gofynion ar gyfer prawf diwrnod 2 yn rheoliad 6AB(2)(a)(ii).”
9 
Yn rheoliad 9 (gofynion ynysu: esemptiadau), ym mharagraff 2, ar y diwedd mewnosoder—“
(f) plentyn sydd o dan 5 oed pan fo’n cyrraedd Cymru;
(g) teithiwr rheoliad 2A.”
10 
Yn lle rheoliad 12 (diwrnod olaf yr ynysu), rhodder—“
12. 
At ddibenion rheoliadau 7, 8 a 10, diwrnod olaf ynysiad P yw diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod yr oedd P mewn gwlad nad yw’n esempt ddiwethaf.”
11 

(1) Mae rheoliad 14 (troseddau) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl paragraff (1)(i), mewnosoder—“
(ia) 6E(6B).”
(3) Ym mharagraff (1B), ar ôl “6AB” mewnosoder “, 6E(6B)”.
(4) Ym mharagraff (1D), ar ôl “6AB” mewnosoder “neu 6E(6B)”.
12 
Yn rheoliad 16(6AB) (hysbysiad cosb benodedig)—
(a) Yn y geiriau cyn paragraff (a), ar ôl “rheoliad 14(1)(h)” mewnosoder “neu (ia)”;
(b) Yn is-baragraff (b), ar ôl “6AB(7)” mewnosoder “neu 6E(6B)”;
(c) Yn is-baragraff (c), ar ôl “6AB(7)” mewnosoder “neu 6E(6B)”.
13 

(1) Mae Atodlen 1C (profi mandadol ar ôl cyrraedd Cymru) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl paragraff 1ZA mewnosoder—“
1ZBA. 

(1) Mae prawf diwrnod 2 yn cydymffurfio â’r paragraff hwn pan fo’r prawf yn cydymffurfio ag is-baragraff (2) a phan fo—
(a) yn brawf a ddarperir gan ddarparwr prawf cyhoeddus; neu
(b) yn brawf a ddarperir gan ddarparwr prawf preifat pan fo’r darparwr prawf preifat yn cydymffurfio â pharagraff 1ZCA.
(2) Mae prawf yn cydymffurfio â’r is-baragraff hwn—
(a) pan fo’n brawf ar gyfer canfod y coronafeirws sy’n defnyddio un neu ragor o’r canlynol–
(i) swabio’r trwyn yn y corgwn canol neu ym mlaen y ffroenau;
(ii) swabio’r tonsiliau;
(iii) poer;
(b) pan fo modd ei adnabod yn unigryw;
(c) pan fo wedi ei ddarparu yn unol â chyfarwyddiadau defnyddio gweithgynhyrchydd y prawf gan gynnwys, yn benodol, cyfarwyddiadau o ran y defnydd targed, y defnyddiwr targed a gosodiadau’r defnydd targed; a
(d) pan fo unrhyw ddyfais a ddefnyddir at ddibenion y prawf yn gallu cael ei defnyddio yn unol â Rhan 4 o Reoliadau Dyfeisiadau Meddygol 2002, ac eithrio yn rhinwedd rheoliad 39(2) o’r Rheoliadau hynny yn unig.
1ZCA. 

(1) Mae darparwr prawf preifat yn cydymffurfio â’r paragraff hwn—
(a) pan fo’n cydymffurfio â gofynion paragraff 1ZA(1)(a) i (e) a (h);
(b) pan fo wedi gwneud datganiad i’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol ei fod yn bodloni’r safonau gofynnol ar gyfer profion a ddarperir gan y sector preifat a gyhoeddwyd ar gov.uk/guidance/day-2-lateral-flow-tests-for-international-arrivals-minimum-standards-for-providers ar 6 Ionawr 2022 a bod yr Adran wedi cadarnhau yn ysgrifenedig ei fod yn ystyried bod y darparwr yn bodloni’r gofynion hynny;
(c) pan fo’n parhau i fodloni’r safonau gofynnol y mae’r datganiad a grybwyllir ym mharagraff (b) yn ymwneud â hwy;
(d) pan fo wedi darparu i’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol restr o’r holl sefydliadau y mae’n gweithio gyda hwy (boed drwy is-gontract neu fel arall) i gynnal y gwasanaeth profi, gan nodi natur y gwasanaeth y mae pob sefydliad yn ei ddarparu, ac wedi diweddaru’r rhestr honno fel y bo’n briodol;
(e) pan fo’n cael yr wybodaeth sy’n ofynnol gan reoliad 6AB(5), ac os yw’n gweinyddu’r prawf i P, ei fod yn gwneud hynny heb fod yn hwyrach na diwedd yr ail ddiwrnod ar ôl y diwrnod y cyrhaeddodd P Gymru;
(f) pan fo’n sicrhau nad yw ond yn cael canlyniadau o’r defnydd cyntaf o’r ddyfais;
(g) pan fo, bob dydd, yn hysbysu’r Ysgrifennydd Gwladol yn ysgrifenedig—
(i) am nifer y profion y mae wedi eu gwerthu ar y diwrnod hwnnw, a
(ii) mewn perthynas â phob prawf a werthwyd ar y diwrnod hwnnw—(aa) am y dyddiad y cyrhaeddodd y person y gwerthwyd y prawf mewn cysylltiad ag ef y Deyrnas Unedig,(bb) a yw’n brawf adwaith cadwynol polymerasau neu’n brawf dyfais llif unffordd, ac(cc) am y cyfeirnod prawf a roddwyd i P yn unol â rheoliad 6AB(6);
(iii) mewn perthynas â phob prawf y canslwyd ei bryniant ar y diwrnod hwnnw, yr wybodaeth a nodir yn is-baragraff (ii)(aa) i (cc);
(h) os yw’n trefnu gyda pherson arall (“X”) i X gyflawni unrhyw elfen o’r un gwasanaeth profi o’r dechrau i’r diwedd ar ei ran, pan fo’r darparwr prawf yn sicrhau bod X yn cydymffurfio â’r canlynol i’r graddau y maent yn berthnasol i gyflawni’r elfen honno—
(i) paragraff 1ZA(1)(b) i (e) ac (h) fel y’i cymhwysir gan baragraff (a) o’r is-baragraff hwn;
(ii) paragraff (c) i (g) o’r is-baragraff hwn;
(iii) paragraff 2D(2) a (4).
(2) At ddibenion is-baragraff (1)(h), ystyr “un gwasanaeth profi o’r dechrau i’r diwedd” yw gwasanaeth sy’n cwmpasu unrhyw un neu ragor o’r elfennau a ganlyn pan fônt yn rhan o’r gwasanaeth a gynigir gan y darparwr prawf—
(a) derbyn yr archeb gan y person sydd i’w brofi;
(b) darparu’r prawf;
(c) casglu a phrosesu’r prawf wedi iddo gael ei gymryd;
(d) (d) dadansoddi’r prawf;
(e) gwirio canlyniad y prawf;
(f) darparu hysbysiad o ganlyniad y prawf.”
(3) Yn lle paragraff (1A) rhodder—“
(1A) Yr amgylchiadau a grybwyllir yn rheoliad 6AB(2)(a) yw—
(a) bod P yn cymryd prawf diwrnod 2 heb fod yn hwyrach na diwedd yr ail ddiwrnod ar ôl y diwrnod y cyrhaeddodd P Gymru, a
(b) mewn perthynas â phrawf a grybwyllir yn rheoliad 6AB(2)(a)(ii)(bb) nad yw wedi ei weinyddu gan ddarparwr prawf, fod P yn darparu i’r darparwr prawf yr wybodaeth a ganlyn o fewn 15 munud i amser darllen y prawf fel y’i pennir gan gyfarwyddiadau defnyddio y gweithgynhyrchydd—
(i) tystiolaeth ffotograffig sy’n dangos yn glir—(aa) y ddyfais brofi yn y fath fodd fel y gellir ei hadnabod fel un sydd wedi ei darparu gan ddarparwr y prawf,(bb) cyfeirnod y prawf a roddwyd yn unol â rheoliad 6AB(6), ac(cc) canlyniad y prawf, a
(ii) y cyfeiriad y gall P gael prawf cadarnhau ynddo yn unol â rheoliad 6E(4).”
(4) Ar ôl paragraff 2C mewnosoder—“
2E. 

(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i ddarparwr prawf preifat sy’n gweinyddu neu’n darparu prawf o fewn ystyr rheoliad 6AB(2)(a)(ii)(bb) i P o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraff 1A.
(2) Rhaid i’r darparwr prawf preifat, o fewn 24 awr i’r digwyddiad perthnasol—
(a) hysbysu P a, phan fo’n gymwys, unrhyw berson sy’n trefnu’r prawf ar ran P, drwy e-bost, llythyr neu neges destun, am ganlyniad prawf P, neu
(b) peri bod canlyniad prawf P ar gael i P a, phan fo’n gymwys, i unrhyw berson sy’n trefnu’r prawf ar ran P, drwy borthol diogel ar y we,
yn unol ag is-baragraff (4).
(3) Ym mharagraff (2), ystyr “digwyddiad perthnasol” yw—
(a) pan weinyddodd y darparwr prawf y prawf, yr adeg y penderfynodd y darparwr prawf ar ganlyniadau’r prawf;
(b) pan na weinyddodd y darparwr prawf y prawf, yr adeg y cafodd y darparwr prawf yr wybodaeth y mae’n ofynnol ei darparu gan baragraff 1A(b).
(4) Rhaid i’r hysbysiad am ganlyniad prawf P gynnwys enw, dyddiad geni, rhif pasbort, neu gyfeirnod dogfen deithio (fel y bo’n briodol) P, enw a manylion cyswllt y darparwr prawf a chyfeirnod prawf P, a rhaid ei gyfleu mewn modd sy’n hysbysu P a oedd y prawf yn negyddol, yn bositif neu’n amhendant.”
(5) Ym mharagraff 2A o Atodlen 1C (profi mandadol ar ôl cyrraedd Cymru), yn lle “yn hwyrach” rhodder “yn gynharach”.
(6) Ym mharagraff 3(d), ar ôl ““un gwasanaeth profi o’r dechrau i’r diwedd””, mewnosoder “, ac eithrio ym mharagraff 1ZCA (1)(h),”.
RHAN 3
14 
Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
15 
Yn lle’r Atodlen rhodder—“
YR ATODLEN
Rheoliadau 3, 3A a 4
Rhan 1Yr wybodaeth sydd i’w darparu at ddibenion rheoliadau 3(2)(a)(i), 3(2)(b)(i), 3(2)(c)(i), 3A(4)(b)(i) a 3A(4)(c) yw—

“Essential information to enter the UK from overseasAll persons arriving in the UK must fill in a Passenger Locator Form up to 48 hours before arrival. You must declare all countries you have visited in the 10 days before arrival.
Before departure check if any of the countries you have visited are on the red list.
If you have visited a country on the red list you must book a managed quarantine hotel.
You can only enter if you are a British or Irish National, or you have residence rights in the UK. You must enter through a designated port of arrival.
If you have not visited any countries on the red list, check if you qualify as fully vaccinated.
If you qualify as fully vaccinated you must:
— book a test to take on or before day 2, and
— quarantine in private accommodation until you receive a negative test result.
If you do not qualify as fully vaccinated you must:
— provide proof of a negative COVID-19 test taken within 2 days of departure to the UK,
— make plans to quarantine in private accommodation for 10 full days after arrival (or full duration of stay if less than 10 days), and
— book tests to take on day 2 and day 8 of quarantine.
These measures apply to all persons (including UK nationals and residents) arriving in the UK from outside the Common Travel Area comprising the United Kingdom, Ireland, the Isle of Man, and the Channel Islands. The British Overseas Territories are not in the Common Travel Area. Public health requirements may vary depending upon which nation of the UK you are staying in.
England: https://www.gov.uk/uk-border-control
Northern Ireland: https://www.nidirect.gov.uk/articles/coronavirus-covid-19-international-travel-advice
Scotland: https://www.gov.scot/publications/coronavirus-covid-19-international-travel-quarantine
Wales:https://gov.wales/arriving-wales-overseas
Failure to comply with these measures is a criminal offence and you could be fined. There are a limited set of exemptions from these measures. You may be fined if you fraudulently claim an exemption”

Rhan 2Y datganiad sydd i’w ddarparu at ddibenion rheoliad 4 yw—
(a) y fersiwn Gymraeg—“Dyma neges iechyd y cyhoedd ar ran asiantaethau iechyd y cyhoedd y Deyrnas Unedig.Os ydych wedi eich brechu’n llawn neu’n bodloni’r meini prawf cymhwystra mewn ffordd arall, rhaid i chi gymryd prawf ar neu cyn diwrnod 2 ar ôl i chi gyrraedd. Rhaid i chi hunanynysu wrth gyrraedd a dim ond os yw canlyniad y prawf yn negyddol y caniateir i chi adael yr hunanynysiad.Os nad ydych wedi eich brechu’n llawn neu os nad ydych yn bodloni’r meini prawf cymhwystra, rhaid i chi hunanynysu am 10 niwrnod a chymryd prawf ar ddiwrnod 8 ar ôl i chi gyrraedd.Os ydych wedi bod mewn unrhyw wledydd ar y rhestr goch o fewn y 10 niwrnod blaenorol, rhaid i chi fynd i gwarantin mewn cyfleuster cwarantin a reolir am 10 niwrnod.Symptomau’r coronafeirws yw peswch cyson newydd, tymheredd uchel neu golli eich synnwyr blasu neu arogli arferol, neu newid yn eich synnwyr blasu neu arogli arferol. Os ydych yn profi unrhyw un o’r symptomau hyn, ni waeth pa mor ysgafn ydynt, fe’ch cynghorir i wneud eich hunan yn hysbys i’r criw.Dilynwch y canllawiau Iechyd y Cyhoedd ar gyfer yr ardal yr ydych yn byw ynddi neu’n teithio ynddi. Ewch i gov.uk/coronavirus i gael rhagor o gyngor.”;
(b) y fersiwn Saesneg—“The following is a public health message on behalf of the UK’s public health agencies.If you are fully vaccinated or otherwise meet the eligibility criteria, you must take a test on or before day 2 after you arrive. You must self-isolate on arrival and may only leave self-isolation if the result of the test is negative.If you are not fully vaccinated or do not meet the eligibility criteria, you must self-isolate for 10 days and take a test on day 8 after you arrive.If you have been in any countries on the red list within the previous 10 days, you must quarantine in a managed quarantine facility for 10 days.The symptoms of coronavirus are a new continuous cough, a high temperature or a loss of, or change in, normal sense of taste or smell. If you experience any of these symptoms, however mild, you are advised to make yourself known to the crew.Please follow Public Health guidance for the area you are living or travelling in. Visit gov.uk/coronavirus for more advice.”;
(c) y datganiad sydd ym mharagraff (a) neu (b) wedi ei gyfieithu i iaith a gydnabyddir yn swyddogol yn y wlad yr ymadawyd â hi.”
”
Eluned Morgan
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
Am 7.11 p.m. ar 6 Ionawr 2022