
RHAN 1
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau a Godir) (Cymru) 2022.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Rhagfyr 2022 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â’r cyfnod sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2023 ac yn diweddu ar 31 Mawrth 2028 (“y cyfnod perthnasol”).
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 mae i “cyfnod perthnasol” (“
relevant period”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 1(3);ystyr “diwrnod perthnasol” (“
relevant day”) yw diwrnod y codir swm ynglŷn ag ef sy’n dod o fewn y cyfnod perthnasol;mae i “diwrnod y codir swm ynglŷn ag ef”, mewn perthynas â hereditamentau sy’n cael eu meddiannu a ddangosir ar restr leol, yr ystyr a roddir i “chargeable day” yn adran 43(3) o’r Ddeddf, mewn perthynas â hereditamentau nad ydynt yn cael eu meddiannu a ddangosir ar restr leol, yr ystyr a roddir yn adran 45(3) o’r Ddeddf, ac mewn perthynas â hereditamentau a ddangosir ar restr ganolog, yr ystyr a roddir yn adran 54(3) o’r Ddeddf;ystyr “y Ddeddf” (“
the Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988;mae i “hereditament diffiniedig” (“
defined hereditament”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 3;ystyr “rhestr ganolog” (“
central list”) yw rhestr a lunnir ac a gedwir yn unol ag adran 52 o’r Ddeddf;ystyr “rhestr leol” (“
local list”) yw rhestr a lunnir ac a gedwir yn unol ag adran 41 o’r Ddeddf;ystyr “rhwymedigaeth sylfaenol” (“BL”) (“
base liability”, “BL”) yw’r swm a gyfrifir yn unol â rheoliad 4;ystyr “swm tybiannol a godir” (“NCA”) (“
notional chargeable amount”, “NCA”) yw’r swm a gyfrifir yn unol â rheoliadau 6 a 7.
3 
Mae hereditament yn hereditament diffiniedig mewn cysylltiad â diwrnod perthnasol os caiff ei ddangos ar restr leol neu ar restr ganolog ar—
(a) 31 Mawrth 2023,
(b) y diwrnod perthnasol, ac
(c) pob diwrnod, os oes un, sy’n dod ar ôl 31 Mawrth 2023 a chyn y diwrnod perthnasol.
RHAN 2
4 

(1) Pan fo adran 43(4B)(b) o’r Ddeddf yn gymwys i hereditament diffiniedig ar 31 Mawrth 2023, cyfrifir y rhwymedigaeth sylfaenol (“BL”) ar gyfer yr hereditament diffiniedig hwnnw drwy ddefnyddio’r fformiwla—A×0.535E
(2) Ym mhob achos arall, cyfrifir y BL ar gyfer hereditament diffiniedig drwy ddefnyddio’r fformiwla—A×0.535
(3) At ddibenion y rheoliad hwn—
 A yw’r gwerth ardrethol a ddangosir ar gyfer yr hereditament diffiniedig ar restr leol neu ar restr ganolog ar 31 Mawrth 2023, ac
 E yw swm E sy’n gymwys i’r hereditament diffiniedig ar 31 Mawrth 2023 yn unol â Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2017.
5 
Cyfrifir y swm tybiannol a godir (“NCA”) ar gyfer hereditament diffiniedig yn unol â rheoliadau 6 a 7.
6 

(1) Pan fo adran 43(4B)(b) o’r Ddeddf yn gymwys i hereditament diffiniedig, ar 1 Ebrill 2023, cyfrifir yr NCA ar gyfer yr hereditament diffiniedig hwnnw drwy ddefnyddio’r fformiwla—A×BE
(2) Ym mhob achos arall, cyfrifir yr NCA ar gyfer hereditament diffiniedig drwy ddefnyddio’r fformiwla—A×B
(3) At ddibenion y rheoliad hwn—
 A yw’r gwerth ardrethol a ddangosir ar gyfer yr hereditament diffiniedig ar restr leol neu ar restr ganolog ar 1 Ebrill 2023,
 B yw’r lluosydd ardrethu annomestig ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2023 a gyfrifir yn unol â pharagraff 4B o Atodlen 7 i’r Ddeddf, ac
 E yw swm E sy’n gymwys i’r hereditament diffiniedig ar 1 Ebrill 2023 yn unol â Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2017.
7 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i hereditament diffiniedig pan fo, ar gyfer diwrnod ar ôl 1 Ebrill 2023, y gwerth ardrethol a ddangosir ar restr leol neu ar restr ganolog ar gyfer yr hereditament diffiniedig yn wahanol i’r hyn a ddangosir ar ei gyfer ar restr leol neu ar restr ganolog ar 1 Ebrill 2023.
(2) O’r diwrnod y mae’r newid mewn gwerth ardrethol yn cael effaith, mae rheoliad 6 yn cael effaith o ran yr hereditament diffiniedig gyda’r diwygiadau a ganlyn—
(a) ym mharagraff (1), yn lle “1 Ebrill 2023”, rhodder “y diwrnod y mae’r newid mewn gwerth ardrethol yn cael effaith”, a
(b) ym mharagraff (3), yn lle’r diffiniad o ‘A’ rhodder “A yw’r gwerth ardrethol a ddangosir ar gyfer yr hereditament diffiniedig ar restr leol neu ar restr ganolog ar y diwrnod y mae’r newid mewn gwerth ardrethol yn cael effaith”.
RHAN 3
8 
At ddibenion adran 58(2) o’r Ddeddf, yr achosion yw’r rhai sy’n dod o fewn y disgrifiadau a ragnodir yn rheoliad 9, ac nad ydynt yn dod o fewn y disgrifiadau a ragnodir yn rheoliad 10.
9 
Hereditament diffiniedig—
(a) pan fo’r NCA yn fwy na’r swm a gyfrifir drwy ddefnyddio’r fformiwla—BL+300, a
(b) pan fo meddiannydd yr hereditament, ar y diwrnod perthnasol, yr un person â’r meddiannydd ar 31 Mawrth 2023.
10 
Hereditament diffiniedig—
(a) pan fyddai, ar y diwrnod perthnasol, y swm a godir yn sero fel arall o dan adran 45A o’r Ddeddf, neu
(b) pan fo, ar y diwrnod perthnasol, ddosraniad o dan adran 44A(1) o’r Ddeddf yn gymwys i’r hereditament ac yn cael effaith mewn perthynas â’r swm a godir.
RHAN 4
11 
At ddiben adran 58(3)(a) o’r Ddeddf, mae’r swm a godir ar gyfer hereditament diffiniedig y mae rheoliad 8 yn gymwys iddo (achosion sy’n dod o fewn y disgrifiad rhagnodedig) i’w ganfod yn unol â’r rheolau a ragnodir yn rheoliadau 12 i 16.
12 
Y swm a godir ar gyfer diwrnod perthnasol yw’r swm a gyfrifir yn unol ag adran 43, 45 neu 54 o’r Ddeddf fel y bo’n briodol, llai’r swm a gyfrifir o dan ba un bynnag o reoliadau 14 i 16 sy’n gymwys.
13 
Os canlyniad gostwng y swm a godir yn unol â’r rheolau yn rheoliadau 14 i 16 yw cynhyrchu ffigur negyddol, y swm a godir yw sero.
14 
Yn y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2023, gostyngir y swm a godir yn ôl swm a gyfrifir drwy ddefnyddio’r fformiwla—NCA-BL×0.67366
15 
Yn y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2024, gostyngir y swm a godir yn ôl swm a gyfrifir drwy ddefnyddio’r fformiwla—NCA-BL×0.34365
16 
Yn y blynyddoedd ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2025, 1 Ebrill 2026 a 1 Ebrill 2027 gostyngir y swm a godir yn ôl sero.
RHAN 5
17 
Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau a Godir) (Cymru) 2016 wedi eu dirymu.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
14 Rhagfyr 2022