
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Cychwyn Rhif 1) 2022.
2 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 i rym ar 15 Rhagfyr 2022—
(a) adran 1 (sefydlu’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil);
(b) adran 9(2) i (5), (7) ac (8) (hybu addysg drydyddol drwy gyfrwng y Gymraeg);
(c) yn Atodlen 1 (y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil)—
(i) paragraffau 1 a 2;
(ii) paragraff 3;
(iii) paragraff 4(1)(a) a (c);
(iv) paragraff 5(1) a (2);
(v) paragraff 7(1) a (2);
(vi) paragraff 10(1), (3), (4) a (7);
(vii) paragraff 11(1) at y diben yn unig o benodi cadeirydd y Pwyllgor Ymchwil ac Arloesi, a (2);
(viii) paragraff 12.
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
13 Rhagfyr 2022