
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) (Diwygio) 2022 a deuant i rym ar 6 Ionawr 2023.
2 
Mae Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2020 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 a 4.
3 
Yn rheoliad 2 (dehongli), ym mharagraff (1), yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder—“
 mae i “coronafeirws” yr ystyr a roddir i “coronavirus” yn adran 1(1) o Ddeddf y Coronafeirws 2020 (ystyr “coronafeirws” a therminoleg gysylltiedig);”.
4 
Ar ôl rheoliad 55 (y Tariff Cyffuriau a thâl ar gyfer fferyllwyr GIG a chontractwyr cyfarpar GIG) mewnosoder—“
55A. 

(1)  Yn achos y cyffuriau neu’r meddyginiaethau y mae paragraff (2) yn gymwys iddynt, rhaid i awdurdodau penderfynu sicrhau, o ran penderfyniadau o dan adran 88 o Ddeddf 2006 (tâl ar gyfer personau sy’n darparu gwasanaethau fferyllol) mewn cysylltiad â thâl fferyllol sy’n ymwneud â chyflenwi neu roi’r cyffuriau hynny neu’r meddyginiaethau hynny, naill ai—
(a) nad ydynt yn darparu, nac yn caniatáu, i unrhyw ad-daliad gael ei dalu am gost y cyffur neu’r feddyginiaeth (ac felly pris sylfaenol y cyffur neu’r feddyginiaeth, at ddibenion y Tariff Cyffuriau, yw sero), neu
(b) nad ydynt ond yn darparu, neu ond yn caniatáu, i ad-daliad nominal gael ei dalu am gost y cyffur neu’r feddyginiaeth.
(2) Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
(a) i gyffur neu feddyginiaeth a ddefnyddir i frechu neu imiwneiddio pobl rhag y coronafeirws (“brechlyn rhag y coronafeirws”), os yw’r amodau a nodir ym mharagraff (3) wedi eu bodloni,
(b) i gyffur gwrthfeirol neu feddyginiaeth wrthfeirol a ddefnyddir i atal neu drin y coronafeirws (“meddyginiaeth wrthfeirol yn erbyn y coronafeirws”), os yw’r amodau a nodir ym mharagraff (4) wedi eu bodloni, neu
(c) i gyffur neu feddyginiaeth a ddefnyddir i frechu neu imiwneiddio pobl rhag feirws ffliw (“brechlyn rhag y ffliw”), os yw’r amodau a nodir ym mharagraff (5) wedi eu bodloni.
(3) Yr amodau a nodir yn y paragraff hwn yw—
(a) bod naill ai Gweinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol wedi prynu brechlynnau rhag y coronafeirws i’w cyflenwi fel rhan o’r gwasanaeth iechyd,
(b) bod Gweinidogion Cymru wedi gwneud trefniadau i’r cyfan neu ran o’r stoc o frechlynnau rhag y coronafeirws, a brynwyd fel y crybwyllir yn is-baragraff (a), gael ei chyflenwi i fferyllwyr GIG, pa un ai’n uniongyrchol neu drwy gyfryngwr, heb gost i’r fferyllwyr GIG,
(c) bod Bwrdd Iechyd Lleol wedi gwneud trefniadau ar gyfer rhoi brechlynnau rhag y coronafeirws o’r stoc a grybwyllir yn is-baragraff (b) yn unol ag unrhyw gyfarwyddydau a roddir iddynt gan Weinidogion Cymru o dan adran 12 o Ddeddf 2006 (swyddogaethau Byrddau Iechyd Lleol), a
(d) bod y brechlyn rhag y coronafeirws o dan sylw yn dod o’r stoc honno a’i fod yn cael ei roi fel rhan o’r gwasanaeth iechyd.
(4) Yr amodau a nodir yn y paragraff hwn yw—
(a) bod naill ai Gweinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol wedi prynu meddyginiaethau gwrthfeirol yn erbyn y coronafeirws o fath penodol i’w cyflenwi fel rhan o’r gwasanaeth iechyd,
(b) bod Gweinidogion Cymru wedi gwneud trefniadau i’r cyfan neu ran o’r stoc o’r math penodol hwnnw o feddyginiaeth wrthfeirol yn erbyn y coronafeirws, a brynwyd fel y crybwyllir yn is-baragraff (a), gael ei chyflenwi i fferyllwyr GIG, pa un ai’n uniongyrchol neu drwy gyfryngwr, heb gost i’r fferyllwyr GIG, ac
(c) o ran y feddyginiaeth wrthfeirol yn erbyn y coronafeirws o dan sylw—
(i) ei bod yn dod o’r stoc honno, neu
(ii) nad yw’n dod o’r stoc honno ond serch hynny ei bod y math penodol o feddyginiaeth wrthfeirol yn erbyn y coronafeirws sydd ar gael heb gost i fferyllwyr GIG o dan y trefniadau a grybwyllir yn is-baragraff (b).
(5) Yr amodau a nodir yn y paragraff hwn yw—
(a) bod naill ai Gweinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol wedi prynu brechlynnau rhag feirws y ffliw i’w cyflenwi fel rhan o’r gwasanaeth iechyd,
(b) bod Gweinidogion Cymru wedi gwneud trefniadau i’r cyfan neu ran o’r stoc o frechlynnau rhag feirws y ffliw, a brynwyd fel y crybwyllir yn is-baragraff (a), gael ei chyflenwi i fferyllwyr GIG, pa un ai’n uniongyrchol neu drwy gyfryngwr, heb gost i’r fferyllwyr GIG,
(c) bod Bwrdd Iechyd Lleol wedi gwneud trefniadau ar gyfer rhoi brechlynnau rhag feirws y ffliw o’r stoc a grybwyllir yn is-baragraff (b) yn unol ag unrhyw gyfarwyddydau a roddir iddynt gan Weinidogion Cymru o dan adran 12 o Ddeddf 2006 (swyddogaethau Byrddau Iechyd Lleol), a
(d) bod y brechlyn rhag feirws y ffliw o dan sylw yn dod o’r stoc honno a’i fod yn cael ei roi fel rhan o’r gwasanaeth iechyd.
(6) At ddibenion paragraff (4), caiff Gweinidogion Cymru briodweddu’r math penodol o feddyginiaethau gwrthfeirol yn erbyn y coronafeirws sydd ar gael heb gost i fferyllwyr GIG drwy gyfeirio at y modd y cyflwynir y cyffur neu’r feddyginiaeth yn unig (yn ogystal â thrwy gyfeirio at gynhwysyn actif y cyffur neu’r feddyginiaeth, cryfder y cyffur neu’r feddyginiaeth, neu unrhyw briodweddau eraill sy’n hynodi’r cyffur neu’r feddyginiaeth, neu gyfuniad o unrhyw rai o’r priodweddau hynny).
(7) Er mwyn osgoi amheuaeth, caniateir serch hynny i benderfyniadau o dan adran 88 o Ddeddf 2006 nad ydynt, yn unol â’r rheoliad hwn—
(a) yn darparu, nac yn caniatáu, i unrhyw ad-daliad gael ei dalu am gost cyffur neu feddyginiaeth (ac felly pris sylfaenol y cyffur neu’r feddyginiaeth, at ddibenion y Tariff Cyffuriau, yw sero), neu
(b) ond yn darparu, neu ond yn caniatáu, i ad-daliad nominal gael ei dalu am gost cyffur neu feddyginiaeth,
ddarparu neu ganiatáu i dâl gael ei dalu am unrhyw wasanaeth a ddarperir gan fferyllydd GIG y cyflenwir neu y rhoddir y cyffur neu’r feddyginiaeth fel rhan ohono.
(8) Yn y rheoliad hwn—
(a) ystyr “ad-daliad nominal”, yn achos cyffur sydd wedi ei ddarparu neu feddyginiaeth sydd wedi ei darparu heb gost i fferyllydd GIG, yw talu swm sy’n cael ei dalu yn lle’r swm y byddai’r fferyllydd GIG fel arfer yn ei ennill o’r gwahaniaeth rhwng—
(i) y swm a dalodd am y cyffur pan wnaeth ei brynu neu am y feddyginiaeth pan wnaeth ei phrynu, a
(ii) y swm a delir iddo gan y Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol mewn cysylltiad â chost y cyffur hwnnw neu’r feddyginiaeth honno (gan amlaf y pris sylfaenol a restrir yn y Tariff Cyffuriau), os yw’n cyflenwi neu’n rhoi’r cyffur hwnnw neu’r feddyginiaeth honno o dan drefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol, a
(b) mae i “gwasanaeth iechyd” yr ystyr a roddir i “health service” yn adran 206(1) o Ddeddf 2006.”
Eluned Morgan
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
11 Rhagfyr 2022