
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2022.
(2) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Deddf 1984” yw Deddf Adeiladu 1984.
2 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 i rym ar 9 Rhagfyr 2022—
(a) adran 31 (adeiladau risg uwch etc), i’r graddau y mae’n ymwneud ag adran 120I o Ddeddf 1984;
(b) adran 55 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol);
(c) yn Atodlen 5—
(i) paragraff 1;
(ii) paragraff 77 i’r graddau y mae’n ymwneud ag—(aa) adran 120A o Ddeddf 1984 o ran Cymru, a(bb) adran 120C o Ddeddf 1984;
(iii) paragraff 78 o ran Cymru;
(iv) paragraff 81(1) a’r diffiniadau o “appropriate national authority” a “higher-risk building” ym mharagraff 81(2), i gyd o ran Cymru.
Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
6 Rhagfyr 2022