
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Rhif 4) (Cymru) 2022.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ionawr 2023.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) 1989.
2 
Yn Atodlen 2 i’r prif Reoliadau (gwledydd neu diriogaethau y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ymrwymo i gytundeb cilyddol mewn cysylltiad â hwy), yn y lleoedd priodol mewnosoder—
 “Bailiwick of Guernsey”; a
 “Malta”.
Eluned Morgan
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
20 Tachwedd 2022