
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Amaethyddiaeth 2020 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2022.
2 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Amaethyddiaeth 2020 i rym ar 13 Rhagfyr 2022—
(a) Rhan 4 o Atodlen 7 (Y Rheoliad CMO: diwygiadau canlyniadol), a
(b) adran 52 (diwygiadau canlyniadol), i’r graddau y mae’n ymwneud â’r Rhan honno.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
18 Tachwedd 2022